Straeon ffoaduriaid Cymru i’w gweld yn San Steffan

O'r chwith i'r dde: Jo Stevens AS, Ysgrifennydd Cymru Cysgodol; Arglwydd Alf Dubs; Dr Andrea Hammel; Ben Lake AS Ceredigion

O'r chwith i'r dde: Jo Stevens AS, Ysgrifennydd Cymru Cysgodol; Arglwydd Alf Dubs; Dr Andrea Hammel; Ben Lake AS Ceredigion

24 Mai 2023

Mae arddangosfa sy’n adrodd hanesion pobl sydd wedi cael lloches yng Nghymru dros y blynyddoedd wedi cael ei hagor ym Mhalas San Steffan yn Llundain.  

Cafodd 'Ffoaduriaid yng Nghymru a ddihangodd rhag Sosialaeth Genedlaethol: Dysgu oddi wrth y gorffennol i lywio’r dyfodol' ei churadu ar y cyd gan Dr Andrea Hammel a Dr Morris Brodie o Ganolfan Astudio Symudedd Pobl Prifysgol Aberystwyth, ynghyd â ffoaduriaid a'r rhai sy'n cynorthwyo ffoaduriaid i ailsefydlu yng Nghymru.

Mae'r arddangosfa’n olrhain hanes y ffoaduriaid hynny sydd wedi chwilio am noddfa yng Nghymru, o'r rhai a ddihangodd o Ganol Ewrop yn sgil Sosialaeth Genedlaethol yn y 1930au a'r 1940au, i ffoaduriaid cyfoes.

Mae’r arddangosfa yng Nghyntedd Aros Uchaf Palas San Steffan yn rhoi gwybodaeth am weithiau celf, gwrthrychau, ffotograffau a llenyddiaeth a grëwyd gan ffoaduriaid a'r rhai a fu’n gweithio ochr yn ochr â hwy ar hyd y degawdau.

Ymhlith y rhai a oedd yn bresennol ar gyfer agoriad swyddogol yr arddangosfa ddydd Mercher 24 Mai 2023 roedd yr Arglwydd Alf Dubs, a ffodd o Tsiecoslofacia pan oedd yn chwech oed yn rhan o’r cynllun Kindertransport ac a fu’n ddisgybl yn Ysgol Breswyl y Wladwriaeth Tsiecoslofacaidd yn Llanwrtyd rhwng 1943 a 1945.

Yn ôl Dr Andrea Hammel, Darllenydd mewn Almaeneg a Chyfarwyddwr y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Rwy'n hynod o falch bod ein harddangosfa yn cael ei chynnal ym Mhalas San Steffan, ac rwy'n ddiolchgar i Ben Lake, AS Ceredigion, am ei noddi. 

"Mae'r arddangosfa yn rhoi llais i ffoaduriaid sydd wedi cael lloches yng Nghymru dros y degawdau. Mae'n ein galluogi i ddarganfod eu straeon trwy eu geiriau a'u lluniau eu hunain, ac mae’n tynnu sylw at y cyfraniad cadarnhaol y mae'r dynion, menywod a phlant hyn wedi'i wneud i fywyd a diwylliant yng Nghymru.

"Mae ein prosiect wedi ceisio dangos y gall dysgu o brofiadau ffoaduriaid yn y gorffennol ein helpu i ymateb gyda pharch, empathi a thosturi i'r rhai sy'n ceisio lloches rhag rhyfel ac erledigaeth heddiw."

Cafodd yr arddangosfa ei churadu yn rhan o Raglen Partneriaeth yr Ail Ryfel Byd a'r Holocost a arweinir gan yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol ac a gyllidir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Cafodd ei harddangos cyn hyn yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth ac yn Oriel y Senedd ac Oriel y Dyfodol yn y Pierhead yng Nghaerdydd. Bydd yn cael ei harddangos yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio ym Mangor o 8 Mehefin 2023.