Côr gospel UAB i berfformio yn Aberystwyth

Côr Gospel Prifysgol Alabama yn Birmingham (UAB)

Côr Gospel Prifysgol Alabama yn Birmingham (UAB)

01 Mehefin 2023

Bydd myfyrwyr o Brifysgol Alabama yn Birmingham (UAB) yn perfformio yn Bandstand Aberystwyth am 2pm ddydd Sul 4 Mehefin fel gwesteion Prifysgol Aberystwyth.

Mae Côr Gospel UAB sy’n cynnwys 25 o aelodau yn teithio Cymru i nodi 60 mlynedd ers i bobl Cymru gyfrannu at y gwaith o greu ffenestr liw newydd yn dilyn bomio eglwys yn y ddinas.

Lladdwyd pedair merch ifanc ac anafwyd llawer o rai eraill gan y ffrwydrad yn Eglwys y Bedyddwyr Stryd 16 yn Birmingham, Alabama ar 15 Medi 1963.

Roedd digwyddiadau erchyll y diwrnod hwnnw yn ystod y mudiad hawliau sifil Americanaidd ac fe ysgogodd yr arlunydd o Lansteffan John Petts i godi arian i ddylunio ffenestr liw ar gyfer yr eglwys.

Wedi’i hariannu gan gyfraniadau bach gan bobl ledled Cymru, mae Ffenestr Cymru yn dangos Iesu du gyda’i freichiau wedi’u hymestyn ac wedi’i gosod yn ffenestr flaen yr eglwys sy’n wynebu’r de. Ailagorodd yr eglwys ym Mehefin 1964.

Cyngerdd Aberystwyth yw’r diweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau sydd wedi gweld y côr yn perfformio yn y Senedd yng nghwmni Prif Weinidog Cymru, ac Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd sy’n cael ei chynnal yr wythnos hon yn Llanymddyfri.

Mae ymweliad y côr yn Aberystwyth wedi’i drefnu gan y Brifysgol a bydd yn cynnwys ymweliad â Llyfrgell Genedlaethol Cymru lle byddant yn gallu gweld y dyluniadau gwreiddiol ar gyfer ffenestr Eglwys y Bedyddwyr Stryd 16.

Bydd yr ymweliad hefyd yn gyfle i ddathlu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a lofnodwyd gan UAB a Phrifysgol Aberystwyth yn 2020 sydd wedi paratoi’r ffordd i fyfyrwyr UAB dreulio semester cyfan yn astudio yn Aberystwyth.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg ac Ymgysylltiad Allanol ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae’n anrhydedd croesawu aelodau o Gôr Gospel UAB  i’r Brifysgol ac i berfformio ar gyfer pobl Aberystwyth, yn enwedig wrth i ni ddathlu carreg filltir arwyddocaol yn ein hanes, ein pen-blwydd yn 150 oed. Drwy gydol ein hanes bu cyfoeth o gysylltiadau rhwng Prifysgol Aberystwyth a’r Unol Daleithiau, yn wir roedd y myfyriwr rhyngwladol cyntaf erioed, a ymunodd â ni ym 1875, yn dod o’r Unol Daleithiau.

Mae’r cysylltiadau hyn cyn gryfed heddiw ag y buont erioed ac rydym yn ymfalchïo’n fawr yn y croeso sydd wedi ei roi i’n hymwelwyr o’r Unol Daleithiau a’r cyfleoedd niferus rydym wedi’u darparu i’n myfyrwyr astudio yn yr Unol Daleithiau dros nifer o flynyddoedd. Hir y parha hynny.”

Yn cyfeilio i’r côr ar eu hymweliad â Chymru bydd Reginald Jackson, Cyfarwyddwr y Côr Gospel a Patrick Evans, Cadeirydd Adran Gerdd y Brifysgol ynghyd ag Erica Stevens Pennaeth De UDA ar gyfer Llywodraeth Cymru yn Is-genhadaeth Cyffredinol Prydain yn Atlanta, Georgia.

Wrth siarad ar adeg arwyddo’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y ddwy brifysgol, dywedodd Suzanne Austin, cyn uwch ddirprwy brofost UAB ac uwch swyddog rhyngwladol: “Mae astudiaethau rhyngwladol yn agor cymaint o ddrysau newydd. Bydd myfyrwyr UAB yn dysgu mewn ffyrdd mor unigryw tra ei bod yn Aberystwyth, nid yn unig yn eu meysydd astudio, ond yn y modd y gall partneriaeth unigryw sy’n deillio o gyfnod anodd mewn hanes newid agweddau a safbwyntiau mewn ffyrdd sy’n gwella’r byd.”

Bydd cyngerdd y côr yn Bandstand Aberystwyth am ddim ac yn agored i bawb, ac yn cynnwys casgliad tuag at Elusen y Flwyddyn y Brifysgol ar gyfer 2022/23, sef Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Cyffredinol Bronglais.