COVID yn achos ‘saib’ o ran datblygu sgiliau iaith - adroddiad

03 Awst 2023

Roedd rhai plant ysgol yn teimlo bod pandemig Covid wedi achosi “saib” o ran datblygu sgiliau Cymraeg, yn ôl ymchwil gan Brifysgolion Aberystwyth a Bangor.

Roedd yr ymchwil yn archwilio profiadau dysgwyr o deuluoedd di-Gymraeg a oedd mewn addysg Gymraeg, a chanfyddiadau eu rhieni, yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus, yn enwedig wrth bontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd.

Yn rhan o'r astudiaeth, cafodd y disgyblion a'u teuluoedd eu cyfweld am eu profiadau o ddysgu gartref yn ystod COVID.

Cefnogwyd yr ymchwil gan Ganolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, sy'n cael ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Yn yr adroddiad, mae'r tîm ymchwil yn dyfynnu un disgybl, gan eu bod yn teimlo bod ei eiriau yn disgrifio profiadau cyffredinol yr holl deuluoedd y siaradwyd â hwy, ac yn tynnu sylw at y diffyg cyfle i ymwneud â’r Gymraeg a’i defnyddio yn ystod y cyfnod clo: "Yn fy marn i roedd e [datblygu sgiliau Cymraeg] ar rhywfaint o saib... [oherwydd] doeddwn i ddim yn ei ddefnyddio cymaint.”  

Roedd Dr Siân Lloyd Williams, Darlithydd Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn un o'r prif ymchwilwyr. Dywedodd hi:

"Gwyddom fod pandemig COVID-19, â’i gyfnodau clo a'r cau a fu ar ysgolion, wedi tarfu’n sylweddol ar fywydau pobl. Mae ymchwil flaenorol wedi dangos bod diffyg cyfleoedd i ymwneud â’r Gymraeg yn ystod y pandemig wedi cael effaith neilltuol ar y disgyblion hynny a oedd yn mynd i ysgolion Cymraeg, ond yn byw mewn cartref lle mai iaith arall, nid y Gymraeg, oedd y brif iaith.

"Yn ein hymchwil buom yn casglu safbwyntiau a phrofiadau disgyblion o'r fath a'u rhieni yn ystod y pandemig, er mwyn canfod pa effaith yr oedd diffyg ymwneud â’r Gymraeg a llai o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith wedi’i chael ar sgiliau Cymraeg y disgyblion." 

Mae canfyddiadau'r ymchwil yn nodi gwerth cryfhau'r cysylltiadau rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd er mwyn hwyluso'r broses bontio. Maent hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd asesu sgiliau Cymraeg disgyblion rhwng cyfnodau allweddol - er enghraifft, wrth bontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd - er mwyn canfod unrhyw angen am gymorth. 

Mae'r astudiaeth hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau cyfathrebu effeithiol rhwng y cartref a'r ysgol, a defnyddio cyfathrebu dwyieithog - er enghraifft, darparu rhestrau o’r termau allweddol a fyddai'n cynorthwyo rhieni i gael gafael ar adborth a'i ddeall. 

Tynnir sylw hefyd at bwysigrwydd cynyddu’r cyfleoedd allgyrsiol i ddefnyddio'r Gymraeg o fewn yr ysgol a’r tu hwnt iddi. 

Dywedodd Dr Siân Lloyd Williams: "Mae canfyddiadau ein hymchwil yn nodi nifer o oblygiadau allweddol o ran polisïau ac arferion sy'n berthnasol i Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Addysg Lleol ac ysgolion, a fydd yn eu cynorthwyo i ganfod meysydd lle mae angen cefnogaeth er mwyn sicrhau bod pob disgybl yn gallu datblygu eu sgiliau Cymraeg hyd eithaf eu gallu."

Bydd trosolwg o gasgliadau allweddol yr adroddiad, a arweiniwyd gan academyddion o Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth ac Ysgol Gwyddorau Addysgol Prifysgol Bangor, yn cael ei gyflwyno fel rhan o ddigwyddiad rhannu ymchwil ar stondin Prifysgol Aberystwyth yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan ddydd Llun 7 Awst 2023, rhwng 11yb a 12yp.