Prifysgol Aberystwyth ar y brig am foddhad myfyrwyr yng Nghymru

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Aberystwyth

10 Awst 2023

Aberystwyth yw’r brifysgol orau yng Nghymru am foddhad myfyrwyr yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr sydd wedi ei gyhoeddi heddiw, ddydd Iau 10 Awst 2023.

Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn y pump uchaf yn y DU am ‘Gymorth Academaidd’ a ‘Threfniadaeth a Rheolaeth’, ac yn y 10 uchaf yn y DU am ‘Lais Myfyrwyr’, yn seiliedig ar y sefydliadau addysg uwch sydd wedi eu rhestru yng nghanllaw prifysgolion diweddaraf The Times / Sunday Times.

Mae 84% o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn fodlon gydag ansawdd eu cwrs, 9 pwynt canran yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer y sector yng Nghymru.

Ar draws y DU mae Aberystwyth hefyd yn perfformio’n well na’r sector ym mhob un o saith thema graidd yr arolwg eleni: Addysgu ar Fy Nghwrs, Cyfleoedd Dysgu, Asesu ac Adborth, Cymorth Academaidd, Trefniadaeth a Rheolaeth, Adnoddau Dysgu a Llais Myfyrwyr.

Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ddysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth: “Mae’r canlyniadau hyn yn rhagorol ac yn adlewyrchu ymroddiad parhaus ein staff i ddarparu’r profiad dysgu gorau posibl. Mae gan ein Prifysgol enw da hir-sefydlog a rhagorol am foddhad myfyrwyr ac mae canlyniadau’r arolwg hwn heddiw yn tanlinellu ein lle ymhlith y cryfaf o brifysgolion y DU. Bydd y newyddion yn destun balchder mawr a haeddiannol i bawb ar draws y sefydliad ac yn llwyfan gwych i adeiladu arno, wrth i ni baratoi i groesawu cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr i Aberystwyth.”

Dywedodd Bayanda Vundamina, Llywydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth: “Llongyfarchiadau enfawr i Brifysgol Aberystwyth ar yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr eleni. Mae'n brawf o'r gwaith cadarnhaol a'r effaith a wnaed ar brofiad myfyrwyr, gyda'r heriau niferus a welwyd yn ystod y flwyddyn hon. Bydd Undeb y Myfyrwyr yn parhau i weithio'n galed ochr yn ochr â'r Brifysgol i wneud yn siŵr bod boddhad myfyrwyr yn parhau’n uchel yn Aberystwyth ac i sicrhau bod myfyrwyr Aber yn caru bywyd myfyrwyr. Mae profiad y myfyrwyr yn ganolog i’n penderfyniadau ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y canlyniad heddiw.”

Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn arolwg blynyddol o fyfyrwyr blwyddyn olaf mewn prifysgolion, colegau a darparwyr eraill ar draws y DU, ac ymatebodd bron i 340,000 eleni.

Mae'r arolwg yn gofyn i fyfyrwyr israddedig blwyddyn olaf sgorio eu prifysgol ar draws ystod eang o fesuriadau boddhad myfyrwyr.

Roedd cyfle hefyd i fyfyrwyr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i fynegi boddhad cyffredinol gyda’u prifysgol.

Caiff yr arolwg ei reoli gan Swyddfa’r Myfyrwyr (Office for Students – OfS) ar ran cyrff cyllido a rheoleiddio’r DU – Adran yr Economi (Gogledd Iwerddon), Cyngor Cyllido’r Alban a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Roedd arolwg 2023 ar agor rhwng 11 Ionawr a 30 Ebrill.