Dathliadau Hawlio Heddwch ym Mhrifysgol Aberystwyth

21 Medi 2023

Bydd academyddion, ymgyrchwyr heddwch ac aelodau o'r cyhoedd yn dod at ei gilydd i drin a thrafod yr ymdrechion i  'Hawlio Heddwch' mewn cyfres o ddigwyddiadau dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth.

Cynhelir Gŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth 2023 rhwng 1 a 7 Tachwedd, ar thema Hawlio Heddwch.   

Mae'r digwyddiad wythnos o hyd yn cynnwys rhaglen eang o weithgareddau rhad ac am ddim sy’n agored i’r gymuned - gan gynnwys paneli thematig, trafodaethau a sgyrsiau, barddoniaeth a chelf, dangosiadau ffilm, arddangosfeydd ymchwil a gweithdai rhyngweithiol.

Bydd y rhaglen yn dathlu'r unigolion, y grwpiau a'r syniadau sydd wedi llywio’r ymdrechion i sicrhau heddwch yn y gorffennol, ac yn ystyried rhai o’r amrywiol ffyrdd y gallwn greu dyfodol heddychlon.

Mae'r digwyddiadau'n cynnwys sgwrs gyweirnod gyda'r ymgyrchydd heddwch o Belfast, Eileen Weir, sydd wedi bod yn gweithio gyda Chanolfan Merched Shankill ers y 1990au. Mae hi wedi codi pontydd ar draws rhaniadau gwleidyddol, crefyddol a rhaniadau eraill ledled ynys Iwerddon gan ymgyrchu dros hawliau pobl gyffredin i fyw mewn heddwch ac urddas.  Bydd Eileen yn myfyrio ar ei hoes o brofiadau personol wrth galon yr ymgyrchoedd cymunedol a osododd y sylfeini ar gyfer newid gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon.

Nodwedd arall o'r Ŵyl Ymchwil fydd lansiad Yr Apêl/The Appeal 1923-24 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Wedi'i gyd-olygu gan ysgolheigion o Brifysgol Aberystwyth, yr Athro Mererid Hopwood a Dr Jenny Mathers, mae'r llyfr hwn yn adrodd hanes rhyfeddol Apêl Heddwch Menywod Cymru. Ganrif yn ôl, aeth menywod ledled Cymru ati i gasglu 390,296 o lofnodion mewn apêl wedi’i gyfeirio at fenywod Unol Daleithiau America i weithio gyda’i gilydd i greu byd mwy heddychlon. Yn gynharach eleni dychwelwyd y ddeiseb, yn y gist dderw a gynlluniwyd yn arbennig ar ei chyfer, o Sefydliad Smithsonian yn Washington, D.C., ac mae bellach yng ngofal y Llyfrgell Genedlaethol.

Dywedodd Dr Jenny Mathers o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, un o drefnwyr y rhaglen: 

"Wrth i ni wynebu heriau iechyd byd-eang, rhyfeloedd yn Ewrop a chyfandiroedd eraill, a grymoedd dybryd yr argyfwng hinsawdd, mae hwn yn amser pwysig i ganolbwyntio ar heddwch fel nod hanfodol i’r ddynoliaeth. Yn ogystal â chael eu hysbrydoli gan ymgyrchwyr heddwch o'r gorffennol, bydd y digwyddiadau a'r gweithgareddau hyn yn gyfle i academyddion, ymgyrchwyr a dinasyddion ddod at ei gilydd i chwilio am ffyrdd o ddatrys y problemau sy'n ein hwynebu heddiw, a'n cynorthwyo i greu dyfodol mwy heddychlon."

Ychwanegodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:

"Estynnwn wahoddiad cynnes i aelodau'r cyhoedd o Aberystwyth a thu hwnt i ymuno â ni ar gyfer y digwyddiadau hyn. Bydd cyfle i bawb sy’n bresennol gymryd rhan mewn trafodaethau a fydd yn ysgogi'r meddwl, mynd ar drywydd ymchwil a syniadau diddorol gydag academyddion o Brifysgol Aberystwyth y mae eu gwaith yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, a dod ynghyd i ystyried ffyrdd o feithrin heddwch a chytgord yn ein bywydau, ein cymuned, ac yn y byd ehangach. Bydd yna rywbeth at ddant pawb, ac rydym yn gobeithio y byddwch chi'n ymuno â ni."    

Mae’r digwyddiadau a’r gweithgareddau ar y rhaglen yn cynnwys trafodaethau panel ar bynciau megis llwybrau tuag at heddwch yn yr 21ain ganrif a’r posibiliadau ar gyfer heddwch yn yr Wcrain; edrych ar y cysylltiadau rhwng heddwch a llenyddiaeth Gymraeg; trafodaethau ar gyfraniadau theatr, drama a ffilm i’r ymdrechion i sicrhau heddwch ac i ddeall heddwch; a gweithdy ysgrifennu creadigol.

Yn ogystal â hyn, bydd yna arddangosfeydd amlgyfrwng ar ymchwil sy’n gysylltiedig â heddwch ym Mhrifysgol Aberystwyth, ar bynciau megis diogelu cyflenwadau bwyd, profiadau ffoaduriaid rhyfel a'r cyfraniadau y gall cyfrifiadureg eu gwneud i greu bywydau hapusach a mwy heddychlon.

Mae sefydliadau lleol yn arwain ffair wirfoddoli a chyngerdd i godi arian ar gyfer AberAid ac Ukraine Train.

Mae’r cyfoeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n rhan o Hawlio Heddwch yn ffrwyth cydweithio â’n partneriaid, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Ceredigion, yr Academi Heddwch, a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion.

Cynhelir digwyddiadau yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yn Amgueddfa Ceredigion, yn ogystal â lleoliadau ledled y Brifysgol.

I weld y rhaglen lawn ac i gofrestru am docynnau rhad ac am ddim, ewch i: aber.ac.uk/gwylymchwil