Ar drywydd heddwch yng Ngogledd Iwerddon: Sgwrs gydag Eileen Weir

Dyfarnwyd Gwobr Cyflawniad Eithriadol Cyngor Cysylltiadau Cymunedol Gogledd Iwerddon i Eileen Weir yn 2018.

Dyfarnwyd Gwobr Cyflawniad Eithriadol Cyngor Cysylltiadau Cymunedol Gogledd Iwerddon i Eileen Weir yn 2018.

10 Hydref 2023

Yr heddychwr arobryn o Ogledd Iwerddon, Eileen Weir, yn myfyrio ar ei phrofiadau personol yn ymgyrchydd cymunedol fydd digwyddiad cyweirnod Gŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth.

Dros sawl degawd, mae Weir wedi adeiladu pontydd ar draws rhaniadau gwleidyddol, crefyddol a rhaniadau eraill ledled Iwerddon gan ymgyrchu dros hawliau pobl gyffredin i fyw mewn heddwch ac urddas.

Cynhelir y digwyddiad am 1pm ddydd Sadwrn 4 Tachwedd yn Y Drwm yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a bydd y digwyddiad yn gyfle i glywed am brofiadau a myfyrdodau personol rhywun sydd wedi treulio oes wrth galon yr ymgyrchoedd cymunedol a osododd y sylfeini ar gyfer newid gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon.

Dywedodd Dr Jenny Mathers o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, un o drefnwyr rhaglen yr Ŵyl Ymchwil: 

“Yn y flwyddyn sy’n nodi 25 mlynedd ers Cytundeb Gwener y Groglith, rydym yn ffodus o glywed gan rywun sydd â phrofiad helaeth a phersonol o’r ymgyrchu cymunedol a osododd sylfeini’r cytundeb hwnnw. Mae Weir wedi gweithio gyda grwpiau menywod yn ogystal ag undebau llafur, mae wedi helpu i sefydlu rhwydweithiau cymdogaeth a chreu cysylltiadau sy'n ymestyn ar draws rhaniadau gwleidyddol, crefyddol ac eraill ledled ynys Iwerddon. 

“Yn unol ag ysbryd y pwyslais mae Weir yn ei roi ar ddeialog, bydd yr araith hon ar ffurf sgwrs, rhwng Weir a chadeirydd y digwyddiad i ddechrau, ac yna'n agored i gynnwys y gynulleidfa. Gwahoddir aelodau o'r cyhoedd, yn ogystal â staff a myfyrwyr i ymuno â ni ar gyfer achlysur a fydd yn hynod a chofiadwy."

Cynhelir Gŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth 2023 rhwng 1 a 7 Tachwedd, ar thema Hawlio Heddwch.  

Mae'r digwyddiad wythnos o hyd yn cynnwys rhaglen eang o weithgareddau cymunedol rhad ac am ddim. 

I weld y rhaglen lawn ac i gofrestru am docynnau rhad ac am ddim, ewch i: aber.ac.uk/researchfest  

Bywgraffiad - Eileen Weir

Mae Eileen Weir yn ymarferydd ym maes datblygu cymunedol yng Nghanolfan Merched Shankill ym Melfast.  Yn ffeminydd ac ymgyrchydd dosbarth gweithiol, mae hi wedi treulio ei bywyd fel oedolyn yn gweithio dros hawliau pobl gyffredin i fyw mewn heddwch ac urddas. 

Yn ei harddegau, treuliodd gyfnod byr fel aelod o Gymdeithas Amddiffyn Ulster, y grŵp teyrngarol parafilwrol mwyaf yng Ngogledd Iwerddon. Dechreuodd ymgyrchu yn ei gwaith ag undebau llafur pan gafodd ei chyflogi yn ffatri dybaco Gallagher ym Melfast, gan gynnwys aelodaeth ym Mhwyllgor Cynghori Menywod yr undeb. Yn rhinwedd y swydd hon cymerodd y camau cyntaf i groesi rhaniadau sectyddol trwy gefnogi cynnig a fyddai o fudd i fenywod Gweriniaethol yn bennaf. 

Dechreuodd ei chysylltiad â Chanolfan Merched Shankill yn y 1990au ac mae wedi gweithio gyda charcharorion a ryddhawyd fel rhan o Gytundeb Dydd Gwener y Groglith i'w helpu i ddychwelyd i'w cymunedau. 

Yn 2018 cafodd Weir Wobr Cyflawniad Eithriadol Cyngor Cysylltiadau Cymunedol Gogledd Iwerddon. Yn yr un flwyddyn, hi hefyd oedd y fenyw gyntaf i dderbyn Gwobr McCluskey dros Hawliau Sifil am ei gwaith i gefnogi hawliau dynol a hawliau sifil a’i gwaith dros heddwch.