Gobaith a Chytgord: Noson o gerddoriaeth, barddoniaeth a bwyd Syriaidd

25 Hydref 2023

Bydd noson o fwyd ac adloniant yn cael ei chynnal yn Aberystwyth i godi arian i achosion lleol sy'n cynorthwyo'r rhai sydd wedi dioddef effeithiau rhyfel.

Cynhelir ‘Gobaith a Chytgord: Noson o gerddoriaeth, barddoniaeth a bwyd Syriaidd' am 6.30pm ddydd Sadwrn 4 Tachwedd yng Nghanolfan Fethodistaidd St Paul, Aberystwyth.

Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal gan y sefydliadau o Aberystwyth, Aberaid, Ukrain Train a Phrosiect Cinio Syria, gyda chefnogaeth Prifysgol Aberystwyth, fel rhan o Ŵyl Ymchwil y Brifysgol ar y themaHawlio Heddwch.

Bydd y noson yn dechrau gyda phrydau traddodiadol a baratowyd gan Brosiect Cinio Syria, ac yna bydd perfformiadau cerddoriaeth glasurol gan Philomusica o Aberystwyth dan arweiniad Cyfarwyddwr Cerdd Prifysgol Aberystwyth, Iwan Teifion Davies, a darlleniadau barddoniaeth gan Mererid Hopwood, Matthew Jarvis ac Eurig Salisbury.

Bydd arddangosfa fach o ffotograffau o ymweliad diweddar â chanolfannau gofal yn yr Wcrain, a bydd yr artist lleol Victoria Kazymova, sy’n hanu o’r Wcrain, yn dangos ei thriptych: Ukraine in my heart.

Bydd elw o'r noson yn mynd tuag at Aberaid (elusen gofrestredig sy'n cynorthwyo ffoaduriaid yng Ngheredigion), Ukraine Train (sy'n mynd â chyflenwadau ac offer hanfodol i'r rhai sy'n dioddef yn yr Wcrain) a Phrosiect Cinio Syria.

Pris y tocynnau ar gyfer y noson godi arian yw £30, a gellir eu harchebu yn: www.eventbrite.co.uk/e/fundraiser-hope-and-harmony-a-night-of-music-poetry-and-syrian-cuisine-tickets-730426504337

Cynhelir ‘Gobaith a Chytgord: noson o gerddoriaeth, barddoniaeth a bwyd Syriaidd’’ yn rhan o Ŵyl Ymchwil y Brifysgol – Hawlio Heddwch, rhwng 1-7 Tachwedd. Mae’r ŵyl am ddim ac mae croeso i bawb.