Consurwyr yn llai agored i broblemau iechyd meddwl na pherfformwyr eraill – astudiaeth

Dr Gil Greengross, Prifysgol Aberystwyth

Dr Gil Greengross, Prifysgol Aberystwyth

15 Tachwedd 2023

Mae consurwyr yn llai tebygol o ddioddef nifer o’r heriau iechyd meddwl mae pobl greadigol eraill, megis cerddorion a digrifwyr, yn eu hwynebu, yn ôl astudiaeth newydd.

O ddigrifwyr fel Robin Williams, i feirdd a pheintwyr fel Sylvia Plath a Van Gogh, mae llawer o enwogion wedi bod ag anhwylderau iechyd meddwl sydd wedi denu llawer o sylw. Er nad yw wedi’i ddeall yn llawn, mae tystiolaeth gynyddol o gysylltiad rhwng yr heriau iechyd hyn a chreadigrwydd.

Mae ymchwil newydd sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth, ac wedi ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn BJPsych Open, yn dangos, ar rai mesurau allweddol, bod consurwyr i bob golwg yn eithriad i’r duedd hon.

Mesurodd yr astudiaeth nodweddion seicolegol 195 o gonsurwyr a 233 o bobl o'r boblogaeth gyffredinol a'u cymharu â data am grwpiau creadigol eraill.

Dengys gwaith yr academyddion, ar dri mesur allweddol o seicosis neu raddau o golli cysylltiad â realiti, fod consurwyr yn sylweddol llai tebygol o ddioddef nag artistiaid, cerddorion a digrifwyr.

Roedd consurwyr yn llai tebygol na'r holl bobl greadigol eraill o gael profiadau anarferol, fel rhithweledigaethau neu anhrefn gwybyddol, a all ei gwneud hi'n anodd canolbwyntio.

Yn wir, ar lawer o fesurau mae consurwyr yn ymddangos yn llai bregus na'r boblogaeth gyffredinol. Mae eu proffiliau iechyd meddwl yn debycach i fathemategwyr a gwyddonwyr.

Dywedodd Dr Gil Greengross o Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth:

“Mae canfyddiad cyffredin bod gan lawer o bobl greadigol afiechydon meddwl, ac mae salwch o’r fath yn eu gwneud yn fwy creadigol. Dyma’r astudiaeth gyntaf i ddangos grŵp creadigol â sgorau is ar nodweddion seicotig na’r boblogaeth gyffredinol. Mae ein hymchwil yn dangos nad yw aelodau o o leiaf un grŵp creadigol, consurwyr, yn arddangos lefelau uwch o anhwylderau meddwl. Mae’r canlyniadau’n dangos bod y cysylltiad rhwng creadigrwydd a seicopatholeg yn fwy cymhleth nag a feddyliwyd o’r blaen, a gallai gwahanol fathau o waith creadigol fod yn gysylltiedig â naill ai seicotigiaeth uchel neu isel neu nodweddion awtistig.

“Mae’r astudiaeth yn amlygu nodweddion unigryw consurwyr, a’r amryw gysylltiadau posibl rhwng creadigrwydd ac anhwylderau meddwl ymhlith grwpiau creadigol. Un peth sy'n gwahaniaethu consurwyr oddi wrth y rhan fwyaf o artistiaid perfformio eraill yw'r cywirdeb manwl sydd ei angen yn eu perfformiadau. Felly, o gymharu â pherfformwyr eraill, mae'n anoddach goresgyn gwallau. Mae triciau hud i raddau helaeth yn weithredoedd ‘popeth neu ddim byd’ sy’n arwain at eiliad ‘aha’ o syndod. Mae triciau hud sy’n methu yn gadael mwy o effaith na jôcs sydd ddim yn ddoniol, ac mae'n anoddach gwneud yn iawn amdanynt, gan eu bod nhw’n brin. Felly, yn ogystal â’r angen am sgiliau technegol iawn, waeth pa fath o hud a lledrith sy’n cael ei berfformio, mae’r ffaith bod llawer yn y fantol mewn perfformiadau hud yn gwneud consurwyr yn grŵp creadigol unigryw i’w astudio ymhlith yr holl broffesiynau artistig.”

Ychwanegodd Dr Greengross o Brifysgol Aberystwyth:

“Yr hyn sy’n gwahaniaethu consurwyr oddi wrth y rhan fwyaf o bobl greadigol eraill yw eu bod nid yn unig yn creu eu triciau hud eu hunain ond hefyd yn eu perfformio, tra bod y rhan fwyaf o grwpiau creadigol naill ai’n grewyr neu’n berfformwyr. Er enghraifft, mae beirdd, llenorion, cyfansoddwyr a choreograffwyr yn creu rhywbeth a fydd yn cael ei ddefnyddio neu ei berfformio gan eraill. Mewn cyferbyniad, mae actorion, cerddorion a dawnswyr yn perfformio ac yn dehongli creadigaeth pobl eraill. Mae consurwyr, fel digrifwyr a chantorion-gyfansoddwyr, yn un o'r grwpiau prin sy'n gwneud y ddau.

“Sgoriodd consurwyr yn isel ar anghydffurfiaeth fyrbwyll, nodwedd sy’n gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a hunanreolaeth is. Mae’r nodweddion hyn yn werthfawr i lawer o grwpiau creadigol megis llenorion, beirdd a digrifwyr y mae eu gweithredoedd creadigol yn aml yn ymylol ac yn herio doethineb confensiynol. Gall consurwyr hefyd fod yr un mor arloesol a gwthio terfynau’r hyn sy’n cael ei gredu ei fod e’n bosibl mewn hud, fel rhith hedfan enwog David Copperfield. Fodd bynnag, mae llawer o gonsurwyr yn perfformio triciau cyfarwydd neu rai amrywiadau ohonyn nhw heb deimlo'r angen i arloesi.”