Mamau yn gwnïo cwilt i hybu trafodaethau am fwydo babanod

Lluniau o’r gweithdy a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth, 16 Ionawr 2024.

Lluniau o’r gweithdy a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth, 16 Ionawr 2024.

24 Ionawr 2024

Mae mamau wedi bod yn gwnïo cwilt i annog trafodaethau am y dewisiadau maent yn eu gwneud wrth fwydo babanod, yn rhan o brosiect academydd o Brifysgol Aberystwyth.

Mae Dr Gillian McFadyen yn un o'r ymchwilwyr sy'n arwain y prosiect ‘Motherhood Quilt and Guilt’, ar y cyd ag academyddion o Brifysgolion Abertawe a Northumbria. 

Roedd y prosiect arloesol yn gwahodd mamau i gyflwyno recordiad llais yn sôn am eu profiadau o fwydo eu babanod, a chyfrannu hen ddilledyn babygro y gellid ei bwytho i'r cwilt. 

Yna, cynhaliwyd gweithdai cymunedol yn Aberystwyth ac Abertawe a fu’n gyfle i famau lleol ddod at ei gilydd i rannu eu profiadau o fod yn fam ac o fwydo babanod tra’n pwytho'r cwilt. 

Bydd y cwilt gorffenedig yn cynnwys synwyryddion digidol a fydd yn caniatáu i bobl glywed clipiau sain gan famau yn sôn am eu taith fwydo.

Mae Dr McFadyen, sy’n ddarlithydd Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn ymchwilio i'r defnydd o frodwaith gwleidyddol fel dull o wrthsefyll, cofio, ymgyrchu ac adrodd straeon. Mae'n esbonio:

"Mae sut mae mamau yn bwydo eu babanod yn bwnc sy’n gallu hollti barn ac ennyn emosiynau a safbwyntiau cryf, ac mae’n destun trafod cyson ymhlith llunwyr polisi, academyddion, mamau, a'r cyhoedd. Yr hyn sy’n unigryw am y Motherhood Quilt and Guilt yw ei fod yn gwyro oddi wrth y cyngor a geir yn y llenyddiaeth mwyaf dylanwadol ar fwydo ar y fron, sy'n tueddu i ganolbwyntio ar yr emosiynau cadarnhaol sy'n gysylltiedig â bondio, gan gynnig llwyfan i chwyddo lleisiau mamau a'u hystod o brofiadau yn ymwneud â bwydo.

"Mae'r prosiect yn dilyn y traddodiad cwiltio cymunedol Cymreig, oherwydd trwy'r gweithdai pwytho rydym yn creu lle i famau ddod at ei gilydd i rannu eu straeon wrth wnïo."   

Mae Dr Sophia Komninou, Darlithydd Maeth Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Abertawe, yn cydweithio ar y prosiect, a ariannwyd gan Crwsibl Cymru. Dywedodd:

“Canfuwyd drwy ymchwil flaenorol fod mamau, sut bynnag y maent yn bwydo eu babanod, i gyd yn cael teimladau o euogrwydd. I'r rhai sy'n bwydo’u babanod â llaeth fformiwla neu gyfuniad o laeth fformiwla a llaeth o’r fron, yn aml maent yn teimlo eu bod wedi methu  dilyn cyngor iechyd cyhoeddus, yn enwedig os yr oeddent, cyn cael y babi, wedi bwriadu bwydo ar y fron. Fodd bynnag, mae'r mamau hynny sy'n bwydo ar y fron hefyd yn aml yn teimlo eu bod yn gwneud cam ag eraill - er enghraifft, maent yn teimlo'n euog bod bwydo ar y fron yn eu tynnu oddi wrth eu plant eraill, yn eu gwneud yn bartner llai sylwgar, ac yn golygu eu bod yn canolbwyntio llai ar eu gyrfa.”

Mae gan ei chydweithwraig, Dr Angelika Strohmayer, Athro Cynorthwyol yn yr Ysgol Ddylunio ym Mhrifysgol Northumbria, ddiddordeb mewn arferion crefft cydweithredol a chrefft sy’n defnyddio cyfryngau digidol. Dywedodd:

"O fewn y cwilt, rydym yn cynnwys nifer o droellau, gan ddefnyddio motiff traddodiadol. Mae’r patrwm yn arwain pobl i ryngweithio â’r synwyryddion cyffwrdd cudd, ac ar yr un pryd maent hefyd yn drosiad am yr emosiynau a brofir gan famau. Yng nghanol pob troell, rydym yn cynnwys synhwyrydd electronig y gall pobl ei gyffwrdd i glywed clip sain a recordiwyd ymlaen llaw o un o’r mamau yn adodd ei stori."

Ar ôl ei gwblhau, mae tîm y prosiect yn bwriadu arddangos y cwilt digidol mewn lleoliadau ledled Cymru i annog trafodaeth gyhoeddus, empathi a dealltwriaeth o’r dewisiadau wrth fwydo babanod, a phrofiadau emosiynol cymhleth mamolaeth.