Mae llygredd gwrthfiotig yn gwneud malwod yn anghofus trwy newid microbiom eu perfedd.

Dr Sarah Dalesman, Prifysgol Aberystwyth

Dr Sarah Dalesman, Prifysgol Aberystwyth

RhannuAberystwyth University - facebookAberystwyth University - XAberystwyth University - Email

30 Mai 2024

Mae gwrthfiotigau'n rhwystro malwod rhag ffurfio atgofion newydd trwy darfu ar ficrobiom eu perfedd - y gymuned o facteria llesol a geir yn eu perfedd.  

Mae'r ymchwil newydd, dan arweiniad Prifysgol East Anglia mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth, yn tynnu sylw at yr effeithiau niweidiol y gallai llygredd fod yn ei gael ar fywyd gwyllt dyfrol.

Yn yr astudiaeth, rhoddwyd sudd moron i falwod y pwll - un o’i hoff fwydydd - ond bu'n rhaid iddynt ddysgu'n gyflym a chofio nad oedd hwn bellach yn ddiogel i'w fwyta.  

Roedd y malwod mewn dŵr glân yn gwneud yn dda, gan osgoi bwydo ar y sudd moron pan oedd wedi'i baru â chemegyn nad oeddent yn ei hoffi.  

Fodd bynnag, roedd y malwod a gyflwynwyd i grynodiadau uchel o wrthfiotigau yn y dŵr wedi methu dysgu na ffurfio cof gan barhau i ddangos ymddygiad bwydo arferol hyd yn oed ar ôl cael eu hyfforddi. 

Dywedodd Dr Sarah Dalesman, cyd-awdur o Adran Gwyddorau Bywyd, Prifysgol Aberystwyth: 

"Mae’r dŵr gwastraff sy'n mynd i mewn i'n nentydd a'n hafonydd yn cynnwys cymysgedd o gemegau a ddefnyddir i drin pobl ac anifeiliaid.  Fodd bynnag, dydyn ni ddim yn gwybod o hyd faint o'r cemegau hyn sy'n effeithio ar yr anifeiliaid sy'n byw mewn amgylcheddau dŵr croyw.

"Nod ein hymchwil oedd penderfynu a yw llygredd gwrthfiotig yn gallu newid microbiom perfedd anifeiliaid dyfrol ac a allai hyn fod yn niweidiol i’w goroesiad".

Dywedodd Dr Gabrielle Davidson, y prif awdur, o Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol East Anglia:

"Mae'n hysbys bod microbiom iach yn y perfedd yn bwysig i iechyd pobl, a'n hastudiaeth ni yw'r cyntaf i ddangos bod hyn hefyd yn wir i falwod."

Canfu’r ymchwilwyr fod y gwrthfiotigau yn newid microbiom y perfedd yn sylweddol ac yn newid helaethrwydd y bacteria y canfuwyd eu bod yn ymwneud â ffurfio cof iach mewn anifeiliaid eraill, gan gynnwys bodau dynol.   

Gelwir y berthynas hon rhwng y bacteria a geir yn y perfedd a gweithrediad yr ymennydd yn echelin y microbiom-perfedd-ymennydd.  Gall y cemegau a gynhyrchir gan facteria da yn y perfedd wrth iddynt dorri bwyd wella iechyd yr ymennydd a’i weithrediad gwybyddol.   

Mae lleihau amlder y bacteria iach hyn yn y perfedd yn atal effeithiau microbiomau'r perfedd a fyddai fel arall yn fuddiol i’r ymennydd.  

Mae’r astudiaethau blaenorol ar y cysylltiad rhwng microbiom y perfedd a gweithrediad yr ymennydd wedi canolbwyntio ar rywogaethau tirol.  Fodd bynnag, mae bywyd gwyllt dyfrol yn fwy tebygol o gael ei effeithio'n uniongyrchol gan y gwrthfiotig a ddaw i’w ran yn yr amgylchedd.  

Nid yw gwrthfiotigau'n cael eu gwaredu’n effeithiol gan driniaeth wastraff, ac felly maent yn cyrraedd yr amgylchedd dŵr croyw. 

Roedd lefelau’r gwrthfiotigau a gyflwynwyd i’r malwod yn yr arbrawf yn debyg i’r lefelau a ganfuwyd mewn dŵr croyw yn y DU, Ewrop ac yn fyd-eang. 

Os yw llygredd dŵr croyw yn atal malwod rhag cael microbiom iach, ni fyddant yn gallu defnyddio eu hymennydd i addasu eu hymddygiad pan fyddant yn dod ar draws gwybodaeth newydd.  

Dywedodd Dr Sarah Dalesman:  "Mae ymchwil flaenorol wedi canfod bod malwod y pwll yn gorfod dysgu am ysglyfaethwyr, am beth sy'n dda neu'n ddrwg i'w fwyta, a hyd yn oed cofio gyda phwy maen nhw wedi paru.  

"Bydd unrhyw beth sy'n ymyrryd â'u cof yn lleihau eu goroesiad." 

Dywed yr ymchwilwyr fod hyn yn arbennig o bryderus yn wyneb yr heriau amgylcheddol newydd niferus y mae anifeiliaid yn eu profi oherwydd gweithgareddau dynol.  

Ychwanegodd Dr Davidson:  "Os ydyn ni'n gweld yr effaith yma mewn malwod, mae'n debygol iawn bod gwrthfiotigau'n cael effeithiau tebyg ar anifeiliaid dyfrol eraill. 

"Ein gobaith yw y bydd yr astudiaeth hon yn annog mwy o bwyslais ar bwysigrwydd microbiomau iach yn y perfedd i fywyd gwyllt ac y bydd yn cynyddu’r ymdrechion i leihau'r cemegau sy'n cyrraedd ein hamgylchedd."

Ariannwyd yr astudiaeth gan y Gymdeithas Astudio Ymddygiad Anifeiliaid.

Cyhoeddir ‘Antibiotic-altered gut microbiota explain plasticity in host memory and disrupt the covariation of pace-of-life traits in an aquatic snail’ yn The ISME Journal: Multidisciplinary Journal of Microbal Ecology.

Cynhaliwyd yr ymchwil hon yn unol â Chanllawiau Cymdeithas Astudio Ymddygiad Anifeiliaid i Drin Anifeiliaid mewn Ymchwil ac Addysgu Ymddygiadol.