Cynnig ar y cyd i sefydlu Ysgol Ddeintyddol newydd yng Nghymru

03 Tachwedd 2025

Mae Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth wedi datblygu cynnig cychwynnol ar y cyd i Lywodraeth Cymru sefydlu Ysgol Ddeintyddol newydd.

Gwnaeth trychinebau argaeau’r 1920au gronfeydd dŵr yn fwy diogel – nawr mae’r argyfwng hinsawdd yn cynyddu’r risg eto

03 Tachwedd 2025

Mewn erthygl yn The Conversation, mae'r Athro Stephen Tooth yn egluro sut, ers Dolgarrog, mae gan y DU record diogelwch cronfeydd dŵr rhagorol ond mae trychinebau'n dal i ddigwydd.

Cyfryngau Rwsia yn ‘tawelu’ gwrthwynebiad mamau i ryfel – adroddiad

03 Tachwedd 2025

Mae cyfryngau gwladwriaeth Rwsia yn tawelu gwrthwynebiad mamau i’r rhyfel yn Wcrain, yn ôl astudiaeth newydd.

Sut y meistrolodd y gwleidydd Charles Fox, o'r 18fed ganrif, wleidyddiaeth personoliaeth ymhell cyn Trump a Farage

04 Tachwedd 2025

Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Callum Smith yn trafod Charles Fox, gwleidydd carismatig, dadleuol ac yn adnabyddus am ei ddyfyniadau diddiwedd, a sut y gwnaeth adeiladu mudiad gwleidyddol o’i gwmpas ei hun.

Mae uwchgynhadledd hinsawdd y Cenhedloedd Unedig sydd ar ddod i Frasil yn tynnu sylw at ba mor anodd yw cadw at addewidion hinsawdd

05 Tachwedd 2025

Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Hannah Hughes yn egluro sut mae gan lywyddiaeth Cop30 Brasil rôl hanfodol i'w chwarae fel cyfryngwr ac adeiladwr pontydd i gynyddu uchelgais gyfunol llywodraethau.

Lansio arolwg ar fusnesau cefn gwlad Cymru

06 Tachwedd 2025

Mae tîm o academyddion a arweinir gan y Brifysgol yn cynnal ymchwil newydd i gyflwr busnesau cefn gwlad yng Nghymru.

Gallai model mathemateg ddatgloi triniaethau meddygol newydd

12 Tachwedd 2025

Gellir gwneud i ronynnau sydd mor wahanol â swigod sebon a phelferynnau drefnu eu hunain yn union yn yr un modd, yn ôl astudiaeth newydd a allai ddatgloi’r broses o greu deunyddiau newydd sbon - gan gynnwys y rhai hynny sydd â dibenion biofeddygol addawol.

Pam y dylai'r DU edrych y tu hwnt i dwf at 'economeg newydd' sy'n gweithio i bawb

14 Tachwedd 2025

Mewn erthygl yn The Conversation, mae'r Athro Jasper Kenter yn trafod sut ni all economeg draddodiadol ymateb i argyfyngau byd-eang fel anghydraddoldeb a newid hinsawdd.

Coffáu ffoaduriaid rhyfel mewn arddangosfa Senedd

14 Tachwedd 2025

Mae arddangosfa yn y Senedd am effaith rhyfel a dadleoli yng Nghymru sy’n coffáu ffoaduriaid rhyfel wedi’i hagor gan Weinidog o Lywodraeth Cymru.

Taith gerdded elusennol y Brifysgol yn codi arian ar gyfer HAHAV

20 Tachwedd 2025

Cyflwynodd staff Prifysgol Aberystwyth siec am dros £5,000 i HAHAV Ceredigion, Elusen y Flwyddyn y Brifysgol ar gyfer 2024-25. 

Ioan Mabbutt o Aberystwyth yn ennill Ysgoloriaeth ‘Defi Fet’ y Coleg Cymraeg

24 Tachwedd 2025

Ioan Mabbutt, 18 oed o Aberystwyth, sydd wedi ennill ysgoloriaeth gwerth £2,500 i astudio Milfeddygaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.  

Ymchwilio i hanes meddygaeth lysieuol yng Nghymru cyn y GIG

24 Tachwedd 2025

Bydd prosiect ymchwil newydd yn craffu ar hanes meddygaeth lysieuol yng Nghymru, gan ystyried sut y defnyddiwyd planhigion i drin salwch a hybu iechyd cyn sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Llunio addysg nyrsio yng nghanolbarth Cymru

25 Tachwedd 2025

Gofynnir i ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd rannu eu profiadau i helpu i lunio dyfodol addysg nyrsio yng nghanolbarth Cymru.