Prosiect cydweithredol rhyngwladol i ymdrin â chlefyd dinistriol
Yr Athro Karl Hoffmann, Cyfarwyddwr Canolfan Barrett ar gyfer Rheoli Llyngyr ym Mhrifysgol Aberystwyth
20 Mai 2026
Mae prosiect ymchwil rhyngwladol newydd gwerth £9.9 miliwn wedi’i lansio i ddatblygu triniaethau y mae taer angen amdanynt i drin clefyd marwol sy'n effeithio ar filiynau o bobl ledled y byd.
Achosir sgistosomiasis gan lyngyr parasitig a geir mewn dŵr croyw halogedig, ac mae'n endemig o hyd mewn rhannau o Affrica, De America ac Asia.
Mae pobl yn cael eu heintio trwy ddod i gysylltiad â dŵr sy’n cynnwys y llyngyr yn ystod eu gweithgareddau beunyddiol fel ymdrochi, nofio neu bysgota. Mae’r symptomau cynnar yn gallu cynnwys twymyn a phoen yn y cyhyrau, ond os nad yw’r haint yn cael ei drin, neu os yw’n digwydd dro ar ôl tro, gall arwain at gymhlethdodau difrifol gan gynnwys clefyd yr afu, methiant yr arennau, canser y bledren ac anffrwythlondeb.
Bydd gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn chwarae rhan allweddol yn y fenter uchelgeisiol hon, a gynlluniwyd i ddatblygu cyffur cyn-glinigol newydd ac addawol a fydd yn trawsnewid yr opsiynau triniaeth i'r rhai yr effeithir arnynt.
Wedi'i ariannu gan Wellcome, mae'r prosiect yn cael ei arwain gan yr Uned Darganfod Cyffuriau ym Mhrifysgol Dundee ac mae'n dwyn ynghyd arbenigwyr blaenllaw o Brifysgol Aberystwyth a Chanolfan Feddygol y De-orllewin, Prifysgol Tecsas.
Meddai Karl Hoffmann, Cyfarwyddwr Canolfan Barrett ar gyfer Rheoli Llyngyr ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae sgistosomiasis yn parhau i osod baich trwm, sy’n aml yn cael ei anwybyddu, ar rai o gymunedau mwyaf bregus y byd. Mae'r prosiect hwn yn ein galluogi i gymhwyso ein harbenigedd hir sefydlog ym maes bioleg parasitiaid i un o'r heriau mwyaf taer ym maes iechyd byd-eang. Trwy ddyfnhau ein dealltwriaeth ynghylch sut mae'r llyngyr hyn yn goroesi, datblygu a rhyngweithio â'r corff dynol, gallwn ddarganfod ffyrdd newydd a mwy effeithiol i’w targedu.
“Bydd y dirnadaethau sy’n deillio o’r cydweithio hwn yn hanfodol i hyrwyddo datblygiad triniaethau newydd a allai drawsnewid canlyniadau i’r miliynau o bobl yr effeithir arnynt gan y clefyd dinistriol hwn.”
Dywedodd Dr Beatriz Baragaña, Prif Ymchwilydd ac Arweinydd Portffolio yn Uned Darganfod Cyffuriau Prifysgol Dundee:
“Er efallai nad yw llawer o bobl yn Ewrop yn gwybod am sgistosomiasis, mae'n achosi dioddefaint i filiynau o bobl, yn aml yn rhai o'r rhannau mwyaf difreintiedig o'r byd. Ar hyn o bryd, dim ond un cyffur sydd wedi'i gymeradwyo ar gyfer atal a thrin sgistosomiasis, ond mae'r posibilrwydd y gallai ymwrthedd i’r cyffur hwn gynyddu yn golygu bod yna angen taer i ddatblygu cyffuriau eraill.
“Heb os, mae hon yn her sylweddol, ond trwy fanteisio ar y sgiliau a'r wybodaeth sydd gennym yma yn Dundee, a chydweithio â'n partneriaid yn Aberystwyth ac yn Thecsas, mae gennym gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i helpu'r rhai sydd cael eu heffeithio gan y clefyd creulon hwn.”
Dywedodd Sabrina Lamour-Julien, Arweinydd Ymchwil Therapiwteg yn nhîm Clefydau Heintus Wellcome:
“O’r clefydau trofannol sydd wedi’u hesgeuluso, sgistosomiasis yw un o’r rhai sy’n cael yr effaith fwyaf ledled y byd; er hynny, ni fu digon o fuddsoddiad ynddo ers amser maith. Salwch hirdymor sy’n achosi gwendid mawr yw sgistosomiasis, ond serch hynny dim ond un driniaeth sydd ar gael, ac nid yw honno’n hollol effeithiol. Er mwyn dileu'r clefyd hwn mae angen cyffuriau ar frys sy'n gweithio yn erbyn y gwahanol gyfnodau yng nghylch bywyd y llyngyr sy'n achosi’r clefyd mewn pobl. Gallai defnyddio technolegau arloesol newydd i ddarganfod cyffuriau helpu i roi gobaith newydd i'r rhai yr effeithir arnynt.”
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi meithrin enw da yn rhyngwladol fel un o lond dwrn yn unig o ganolfannau ledled y byd sy'n canolbwyntio’n benodol ar effaith ddinistriol llyngyr lledog parasitig ar bobl, anifeiliaid ac economïau.
Yn 2023, cydnabuwyd ei gwaith arloesol ym maes parasitoleg â Gwobr Pen-blwydd y Frenhines – yr anrhydedd uchaf ym maes addysg uwch yn y DU – a ddyfarnwyd am ragoriaeth, arloesedd a gwaith eithriadol a oedd o fudd i’r byd ehangach.
