Ymchwil i rym ‘iaith gariad’ mewn barddoniaeth hynafol Cymru

Rhywedd mewn Llenyddiaeth Ynysol Ganoloesol. Credyd: Princes Czartoryski Library – National Museum in Kraków, 2920 IV Rkps.
08 Mehefin 2026
Mae defnydd beirdd Cymru o iaith gariad ac agosatrwydd i ddisgrifio eu perthnasoedd â noddwyr pwerus yn cael ei astudio fel rhan o ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae'r prosiect ymchwil yn edrych ar farddoniaeth fawl Gymreig ganoloesol lle roedd beirdd llys - beirdd a oedd yn gweithio i arglwyddi neu dywysogion lleol - yn defnyddio iaith rhamant, hoffter a phriodas wrth ysgrifennu am eu noddwyr.
Mewn rhai testunau, mae beirdd yn cyflwyno eu hunain fel priod neu gymdeithion agos i'w noddwyr. Mae patrymau tebyg wedi'u nodi mewn llenyddiaeth Wyddelig ganoloesol, tra bod y deunydd Cymreig wedi derbyn llai o sylw.
Nod yr academyddion yw olrhain tarddiad a datblygiad y traddodiadau ysgrifennu hyn yn ystod yr Oesoedd Canol, a'r hyn maent yn ei ddatgelu am sut roedd perthnasoedd rhwng dynion yn cael eu deall yn y gorffennol.
Mae'r ymchwil hefyd yn edrych ar sut mae syniadau am wrywdod a rhywedd yn cael eu mynegi yn y farddoniaeth, yn enwedig rôl y bardd fel ffigur proffesiynol sy'n gweithio yn y llys.
Mae'r prosiect yn ystyried sut mae'r farddoniaeth hon yn ymwneud â thraddodiadau ysgrifennu Ewropeaidd ehangach, gan gynnwys dylanwadau o lenyddiaeth Groeg a Rhufain hynafol, a sut y caiff y gorffennol ei gofio a'i ddelfrydu.
Dywedodd Dr Simon Rodway o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd a Phrif Ymchwilydd:
“Mae barddoniaeth fawl Gymreig ganoloesol yn defnyddio iaith farddonol ddatblygedig iawn i ddisgrifio perthnasoedd rhwng beirdd a noddwyr. I ddarllenwyr modern, gall yr iaith hon ymddangos yn syndod, ond mae'n adlewyrchu ffyrdd sefydledig o ysgrifennu barddoniaeth o fewn diwylliant y llys, lle mynegwyd teyrngarwch a statws mewn ffyrdd dychmygus ac arddulliedig.
“Drwy astudio’r patrymau hyn, gallwn ni gael gwell dealltwriaeth o sut y defnyddiodd awduron iaith farddonol i lunio syniadau am statws a pherthnasoedd yng nghymdeithas Cymru yn yr Oesoedd Canol.”
Dywedodd Dr Kit Kapphahn, Cymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Mae'r cerddi hyn yn dangos bod y berthynas rhwng bardd a noddwr, er yn wleidyddol ac yn economaidd, hefyd wedi'i mynegi drwy farddoniaeth. Defnyddiwyd iaith gariad a phriodas i fynegi teyrngarwch, statws a chysylltiad yng Nghymru ganoloesol gan ddefnyddio delweddaeth o gysylltiad personol.
"Yr hyn sy'n drawiadol yw pa mor gyson yw'r iaith hon ar draws gwahanol destunau a chyfnodau. Mae'n rhan o draddodiadau barddonol sefydledig lle chwaraeodd y bardd ran bwysig yng nghymdeithas y llys. Mae astudio hyn yn ein helpu i ddeall sut roedd cymdeithas Gymreig yr Oesoedd Canol yn ystyried syniadau am awdurdod, hunaniaeth a pherthyn, a thrwy ei astudio ein hunain, o ble mae rhai o'n syniadau modern yn dod."
Mae'r ymchwil yn rhan o brosiect Iaith Gariad a Rhamant mewn Barddoniaeth Fawl Gymreig, a ariennir gan Marie Skłodowska-Curie Actions.
