Pedair canrif o farddoniaeth menywod yn yr ieithoedd Celtaidd

Dr Cathryn Charnell-White
28 Gorffennaf 2026
Mae casgliad newydd o gerddi yn taflu goleuni ar leisiau barddonol menywod ledled Cymru, Iwerddon a'r Alban rhwng 1400 a 1800.
Mae’r flodeugerdd newydd yn ffrwyth cydweithio rhwng academyddion ym mhrifysgolion Aberystwyth, Connecticut, Coleg Prifysgol Dulyn, Caeredin, a Galway, a’i bwriad yw ail-lunio ein dealltwriaeth o draddodiadau barddonol benywaidd. Y gobaith yw symud y ffocws hirsefydlog oddi wrth awduron Saesneg eu hiaith i greu canon datganoledig o farddoniaeth gan fenywod.
Mae’r flodeugerdd newydd yn ffrwyth cydweithio rhwng academyddion ym mhrifysgolion Aberystwyth, Connecticut, Coleg Prifysgol Dulyn, Caeredin, a Galway, a’i bwriad yw ail-lunio ein dealltwriaeth o draddodiadau barddonol benywaidd. Y gobaith yw symud y ffocws hirsefydlog oddi wrth awduron Saesneg eu hiaith i greu canon datganoledig o farddoniaeth gan fenywod.
Mae'r casgliad hefyd yn cynnig cipolwg ar fywyd pob bardd, gan alluogi darllenwyr i wneud cysylltiadau rhwng ffigurau unigol ar draws traddodiadau barddonol cenedlaethol.
O iarllesau i forynion, ac o farddoniaeth grefyddol a gwleidyddol i gerddi personol a chwareus, mae'r casgliad yn cyflwyno cerddi cyfoethog sy’n rhychwantu pedair canrif, mewn sawl iaith a thraddodiad cenedlaethol.
Sefydlwyd y prosiect ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2013 gan Yr Athro Sarah Prescott, sydd bellach yn Ddirprwy Brifathro a Phennaeth Coleg Celfyddydau, Dyniaethau, a Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caeredin. Dywedodd yr Athro Prescott:
"Mae ein blodeugerdd yn rhoi golwg eang ar weithgarwch barddonol menywod ar draws cenhedloedd ac ieithoedd Iwerddon, yr Alban a Chymru rhwng 1400 a 1800. Drwy gynnwys menywod adnabyddus a menywod ymylol, mae'n annog darllenwyr i edrych ar yr amrywiaeth o leisiau, y genresa’r traddodiadau a siapiodd ysgrifennu menywod yn y cyfnod hwn.
“Mae’r casgliad yn cynrychioli newid sylweddol yn ein dealltwriaeth o hanes ysgrifennu menywod, ac yn paratoi’r ffordd ar gyfer casgliad golygedig arfaethedig o draethodau a fydd yn darparu dadansoddiad manwl a chymharol o’r deunydd sydd yn y flodeugerdd.”
Ychwanegodd un o’r cyd-olygyddion, Dr Cathryn Charnell-White, o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Mae'r flodeugerdd hon yn tynnu sylw at ehangder lleisiau beirdd benywaidd ar draws Iwerddon, yr Alban a Chymru yn yr Oesoedd Canol hwyr a'r cyfnod modern cynnar. Drwy gyflwyno eu cerddi yn eu hieithoedd gwreiddiol ochr yn ochr â chyfieithiadau Saesneg, bydd darllenwyr yn gallu gwerthfawrogi drostynt eu hunain ehangder ymarfer barddonol menywod.
"Mae rhai o’r cerddi hyn wedi eu cadw mewn llawysgrif, neu heb gael eu cyfieithu o'r blaen, felly rydym ni’n gobeithio y bydd y casgliad yn rhoi darlun mwy cyflawn i ddarllenwyr, nid yn unig o'r diwylliannau llenyddol a lywiodd farddoniaeth menywod, ond hefyd o'r modd y cafodd y diwylliannau llenyddol hynny eu cyfoethogi, yn eu tro, gan feirdd benywaidd. Mae'r cerddi yn ein blodeugerdd yn datgelu cysylltiadau rhwng cymunedau, traddodiadau a phrofiadau sydd wedi cael eu hanwybyddu'n aml, ac rydym wrth ein bodd yn dod â'r lleisiau hyn i sgwrs ehangach am hanes ysgrifennu menywod."
Datblygwyd y flodeugerdd mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth, Coleg Prifysgol Dulyn, Prifysgol Caeredin, Prifysgol Galway, a Phrifysgol Connecticut, ac mae'n rhan o brosiect o'r un enw a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Leverhulme (2013–17).
