Cynnydd ‘calonogol’ mewn gorchudd mangrof byd-eang er gwaethaf colledion mewn rhanbarthau allweddol, yn ôl data

Coedwig fangrof
20 Awst 2026
Mae gorchudd mangrof byd-eang - llystyfiant sy'n hanfodol i fynd i'r afael â newid hinsawdd - wedi cynyddu dros y 40 mlynedd diwethaf, er gwaethaf colledion sylweddol mewn rhai rhanbarthau allweddol, yn ôl dadansoddiad newydd.
Canfu'r ymchwil gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, fel rhan o'r Global Mangrove Watch, bod cynnydd net o 47,720 hectar mewn gorchudd mangrof ledled y byd rhwng 1985 a 2025.
Mae'r mapiau manwl, sydd newydd eu lansio, yn dangos newidiadau mewn gorchudd mangrof dros bedwar degawd. Wedi'u datblygu drwy gydweithrediad rhyngwladol, cynhyrchwyd y mapiau gan ddefnyddio data lloeren a thechnegau dadansoddi uwch i olrhain ardaloedd lle mae mangrofau wedi’u colli, eu hadfer neu wedi aros yn sefydlog.
Mae gwyddonwyr wedi croesawu’r newyddion yn ofalus. Mae mangrofau ymhlith ecosystemau arfordirol pwysicaf y byd, gan gefnogi bioamrywiaeth, amddiffyn cymunedau arfordirol rhag stormydd a chynnydd yn lefel y môr, cynnal bywoliaethau a storio symiau sylweddol o garbon.
Fodd bynnag, mae'r cynnydd cyffredinol mewn gorchudd mangrof yn cuddio dirywiad mawr mewn rhai gwledydd. Mae Indonesia, sydd â’r ardal fwyaf o fangrofau yn y byd, wedi colli 2,044 km² o orchudd mangrof ers 1985, tra bod Myanmar, Malaysia a Nigeria hefyd wedi cofnodi dirywiad sylweddol.
Dywedodd Dr Pete Bunting, Darllenydd mewn Synhwyro o Bell yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth, sydd wedi cyfrannu drwy ei ymchwil at ddatblygu’r Global Mangrove Watch:
“Mae’r diweddariad diweddaraf gan y Global Mangrove Watchyn rhoi darlun llawer cliriach i ni o sut mae ecosystemau mangrof yn newid ledled y byd. Mae’r cynnydd cyffredinol mewn gorchudd mangrof yn galonogol, ond mae hefyd yn dangos bod cynnydd yn anwastad, gyda rhai rhanbarthau yn parhau i brofi colledion sylweddol. Mae’r canfyddiadau hefyd yn amlygu cymhlethdod y newidiadau mewn mangrofau, gyda chynnydd mewn rhai ardaloedd yn gysylltiedig ag ymdrechion adfer a phrosesau naturiol.”
Mae'r diweddariad diweddaraf i fapio’r Global Mangrove Watch, a elwir yn GMW v4.1, yn defnyddio delweddau lloeren gwell a thechnegau dysgu peirianyddol i ddarparu gwybodaeth fanylach a mwy cywir am ble mae mangrofau'n cael eu colli, yn adfer neu'n aros yn sefydlog. Gellir gweld mapiau’r Global Mangrove Watch ar-lein yn https://www.globalmangrovewatch.org.
Bydd yr wybodaeth hon yn helpu ymchwilwyr, sefydliadau cadwraeth a llunwyr polisi i ddeall newidiadau mewn ecosystemau mangrof yn well a chefnogi ymdrechion i'w diogelu a'u hadfer.
Ychwanegodd Dr Bunting:
“Mae gwybodaeth ddibynadwy am fangrofau yn hanfodol er mwyn deall beth sy’n sbarduno’r newidiadau hyn ac er mwyn cefnogi cadwraeth effeithiol. Mae galluoedd mapio gwell y Global Mangrove Watch yn helpu i nodi ble gall ymdrechion cadwraeth gael yr effaith fwyaf.”
Mae’r sefydliadau sy’n cydweithio ar brosiect Global Mangrove Watch yn cynnwys Prifysgol Aberystwyth, Wetlands International, The Nature Conservancy, soloEO, Asiantaeth Archwilio Awyrofod Japan, NASA, WWF a'r IUCN, gyda chefnogaeth Oak Foundation, COmON Foundation, GreenChoice, DOB Ecology a Loteri Cod Post yr Iseldiroedd.
