Ethol academydd o Aberystwyth yn Gymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol
04 Tachwedd 2026
Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi’i hethol yn Gymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol i gydnabod ei chyfraniad at ysgolheictod hanesyddol.
Dirgelwch tarddiad Allorfaen eiconig Côr y Cewri yn dyfnhau wrth i’r chwilio gulhau
05 Tachwedd 2026
Mae’r gwaith o ddod o hyd i darddiad Allorfaen hynod Côr y Cewri nawr ar drywydd newydd ar ôl i wyddonwyr wrthod sawl un o’r lleoliadau sydd eisoes wedi’u cynnig gan symud un cam yn nes at nodi ei fan cychwyn.
Cyfnewid carcharorion yn rhyfel Wcráin-Rwsia – astudiaeth newydd
10 Tachwedd 2026
Bydd prosiect newydd dan arweiniad academyddion o Brifysgol Aberystwyth yn astudio sut mae teuluoedd yn helpu carcharorion rhyfel a milwyr coll i ddychwelyd o ryfel Wcráin-Rwsia.
Astudiaeth newydd yn mapio tirwedd enetig TB mewn gwartheg ledled Cymru
11 Tachwedd 2026
Yn ôl y dadansoddiad manylaf a wnaed hyd yn hyn ar y twbercwlosis mewn gwartheg, mae’r bacteriwm yn esblygu mewn gwahanol ffyrdd ar draws gwahanol ranbarthau o Gymru.
Prifysgol Aberystwyth yn cyhoeddi rhagor o gynlluniau ailstrwythuro
11 Tachwedd 2026
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi cylch arall o ailstrwythuro’r sefydliad – gyda'r bwriad o gynyddu effeithlonrwydd a diwallu anghenion myfyrwyr wrth iddi gyflawni cynaliadwyedd ariannol.
Bygythiad mosgito sy'n brathu yng ngolau dydd yn sbarduno chwiliad genetig newydd
18 Tachwedd 2026
Mae gwyddonwyr yn ceisio datgloi cyfrinachau mosgitos sy'n brathu yng ngolau dydd sy'n trosglwyddo malaria, mewn ymdrech newydd i fynd i'r afael â'r clefyd.
Yn It, mae'r clown Pennywise yn drosiad pwerus o anhwylder obsesiynol-gorfodaethol (OCD)
17 Tachwedd 2026
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Aisleen Sturrock, ymchwilydd ôl-raddedig yn ein Hadran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, yn edrych ar sut mae angenfilod yn aml yn cael eu defnyddio mewn llenyddiaeth a ffilm i gynrychioli heriau iechyd meddwl.
‘Roedd Novaya Gazeta yn byw yma’: mae ecosystem gyfryngol Rwsia wedi cael ei datgymalu'n raddol dros y degawd diwethaf
18 Tachwedd 2026
Ymchwil yn datgelu’r ffactorau cudd sy’n creu risg o lyngyr yr afu ar ffermydd Cymru
23 Tachwedd 2026
Yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Aberystwyth, gallai nodweddion pridd, mathau o laswellt a hyd yn oed ymddygiad pori defaid unigol ddylanwadu ar y risg o ddatblygu haint llyngyr yr afu mewn da byw yng Nghymru.
Prosiect arloesol yn monitro afonydd Cymru o’r gofod
24 Tachwedd 2026
Mae rhai o afonydd mwyaf anghysbell Cymru yn cael eu monitro ar y pryd, bron, drwy ddefnyddio synwyryddion a gysylltir â lloerenni, mewn prosiect arloesol sy'n gwella ein dealltwriaeth am ansawdd dŵr.
Prifysgol Aberystwyth yn rhan o raglen fawr i yrru arloesedd mewn perfformio byw
26 Tachwedd 2026
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn bartner yn Amgen, rhaglen fawr bum mlynedd sy'n dod â phrifysgolion a sefydliadau creadigol ledled Cymru ynghyd i yrru arloesedd a thwf yn y diwydiannau creadigol.
