Ein Rhoddwyr

Gallwch chi fod yn rhan o’r Apêl hanesyddol hon a chael effaith barhaol ar genedlaethau i ddod.

Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau y bydd yr Hen Goleg, unwaith eto, yn lle y bydd llu o bobl yn elwa ohono, mewn amgylchedd unigryw o fawreddog.

Gwrandewch ar rai o’n rhoddwyr sy’n ymfalchïo o fod yn rhan o’r ymgyrch eiconig hon i godi arian.

  • Fe wnaeth fy ngŵr a fi gyfarfod a phriodi yn y Brifysgol. Mae gen i lawer o atgofion hapus am ddarlithoedd drama yn yr Hen Goleg. Mae’r ddau ohonom yn gobeithio y bydd yr adeilad ardderchog hwn yn rhan bwysig o’r Brifysgol i genedlaethau’r dyfodol.

    Linda a David Rose (BA Drama a BA Economeg, 1988)
  • Yr Hen Goleg seliodd fy mhrofiad i o Aber. Byddwn yn mynd yno bob dydd i weithio yn y Llyfrgell ac amsugno’r awyrgylch. Rwy’n dwli ar yr adeilad a’i nodweddion a’i fannau cudd, ac wrth fy modd i wybod y bydd yn cael bywyd newydd.

    Gabriel Schenk (BA Llenyddiaeth Saesneg, 2008)
  • Yn 66 oed (45 o flynyddoedd ers graddio) teimlais ei bod yn hen bryd i mi ad-dalu rhan o leiaf o’r ddyled sydd gen i i Aber. Mae’r Hen Goleg yn adeilad eiconig mewn safle gwirioneddol eiconig. Mae’n haeddu dyfodol disglair iawn.

    Paul Stephenson (BScEc Gwleidyddiaeth ac Athroniaeth, 1975)
  • Fe ges i brofiad hyfryd yn fyfyriwr israddedig yn Aberystwyth – mae cefnogi adeilad hanesyddol yr Hen Goleg yn ffordd o ddweud “diolch” am dair blynedd orau ‘mywyd!

    James Scotney (BA Llenyddiaeth Saesneg, 2012)
  • Rydw i'n cyn-fyfyriwr yn yr adran addysg - wrth fy modd yn yr hen goleg! Mae addysg Cymraeg yng Nghymru yn holl bwysig.

    Ceri Blunden (PGCE, 2006)
  • Mae'n adeilad eiconig i'n cenedl.

    Nigel Stapley (cyn-fyfyriwr, 1985)
  • Effallai i mi gymryd yr Hen Goleg ynganiataol pan astudiais i yn Aber. Effallai nawr mod i'n teimlo angen cryfach i ddangos fy ngwerthfawrogiad. Fe hoffwn ifod ynrhan o'r etifeddiaeth a chyfranuat rywbeth fydd yma ar fy ôl i!

    Stephen Neale (BSc Bioleg Amgylcheddol, 1991)
  • Mae'r Hen Goleg yn rhan bwysig o dirlun Aberystwyth. Mae'n adeilad arbennig ac mae gofodau yn haeddu bod yn ol mewn defnydd fel adnoddau addysgiadol, cymdeithasol a diwylliannol unwaith eto.

    Dr Catrin Huws (Uwch-Ddarlithydd yn y Gyfraith)
  • Roedd fy nghyrsiau i gyd yn adeilad hardd Yr Hen Goleg. Atgofion hyfryd.

    Victoria Richards (BA Cymraeg, 1980)
  • Cofio mynd i lyfrgell y Clasuron yn y saithdegau!

    Rhoddwr dienw
  • Wedi astudio'r Gymraeg yno, hen adeilad godidog mewn man canolog sy'n haeddu cael ei achub a'i ddefnyddio i'w lawn potensial!

    Haf Elgar (BA Cymraeg A Gwleidyddiaeth Ryngwladol, 2000)
  • Rydw i wedi rhoi i’r Apêl yn arwydd o ddiolch am y cwbl a wnaeth Prifysgol Aber i mi dros 6 mlynedd yn fyfyriwr BSc ac PhD, a chyda’r Hen Goleg yn galon eiconig i’r brifysgol yn y dref.

    David Evans (BSc Botaneg, 1978)
  • Cyfarfu fy ngwraig, Jane (née Evans) a minnau yn Aber. Chwaraeodd y brifysgol ran fawr i’n gwneud ni’r hyn rydyn ni heddiw. Pan welsom yr Apêl roedden ni’n dymuno cynorthwyo i ddod â bywyd yn ôl i’r adeilad eiconig hwn.

    Jon a Jane Brighton (BSc Sŵoleg, 1983; BSc Bioleg, 1984)
  • Yr Hen Goleg yw calon fyw y Brifysgol rwy’n ei charu, y Brifysgol a’m rhoddodd i ar ben ffordd i lwyddiant a boddhad.

    Keith Pritchard (BSc Botaneg, 1967)
  • Fel cyn fyfyriwr o Aber, mae’r Hen Goleg yn agos at fy nghalon a hoffwn gweld y cynlluniau newydd cyffrous yma yn cael y gefnogaeth angenrheidiol er budd y myfyrwyr presennol ac er budd Aberystwyth ac i Geredigion yn ehangach.

    Ellen ap Gwynn (BSc Addysg, 1969)
  • Rydw i’n trysori’r atgofion annwyl sydd gen i o’r cyfnod y treuliais yn astudio yn y Brifysgol. Mae’n bleser gen i roi cyfraniad bach i ddangos fy ngwerthfawrogiad.

    Chi Leung (BSc Cyfrifiadureg, 1991)
  • Rwy'n cefnogi'r Apêl oherwydd gwaddol unigryw yr adeilad a'r Brifysgol i Gymru ac yn y gobaith y bydd yr Hen Goleg yn gwneud cyfraniad mawr at ddysg a'n diwylliant i'r dyfodol.

    Rhodri Morgan (BA Hanes, 1992)
  • Mae hi mor bwysig i galon Aberystwyth a’i threftadaeth addysgiadol Gymreig y bydd myfyrwyr yn gallu defnyddio’r lle hwn eto.

    Rachel Phillips (BSc Cadwraeth Cefn Gwlad, 2003)
  • Mae’r Hen Goleg yn golygu llawer i mi. Mae’n lle hardd i ddysgu ynddo ac fe hoffwn i fyfyrwyr eraill y dyfodol gael yr un profiad ag a gefais i.

    Louisa Backway (BA Drama, 2003)
  • Hoff iawn o'r hen adeiladu. Atgofion da.

    Maralyn Davies (BA Ffrangeg & Sbaeneg, 1972)
  • Ron i’n fyfyriwr TAR yn 1981/2 ac yn dwli ar yr adeilad: y grisiau troellog ac yn fwyaf arbennig y llyfrgell. Wrth geisio disgrifio’r lle rwy’n dweud “Meddyliwch am Hogwarts”!

    Sheila Hurley (TAR Addysg, 1982)
  • Fe ges i’r fraint o gerdded ei goridorau ac astudio yno pan oeddwn yn Aber, ac fe hoffwn i eraill gael rhannu hynny.

    Leigh Manley (BA Saesneg a Hanes, 1998)
  • Roedd fy nghyfnod yn Aberystwyth yn hapus iawn. Ron i’n arbennig o hoff o’r hen adeiladau hynod fel yr Hen Goleg. Byddwn wrth fy modd i’r rhain gael eu cadw a’u gwella er mwyn bod yn rhan o brofiad Aber i israddedigion y dyfodol gael eu mwynhau!

    Alexander Hull (BA Hanes Ewropeaidd, 2012)
  • Mae’r Hen Goleg yn lle eiconig. Byddai gwneud gwelliannau iddo er mwyn darparu mwy o adnoddau astudio i fyfyrwyr yn ddefnydd rhagorol o’r hen adeilad hwn.

    Richard Orton (BSc Economeg a Daearyddiaeth, 1969)
  • Cawsom sawl blwyddyn hapus yn fyfyrwyr yn Aber. Pleser gennym gefnogi’r achos wn.

    Sarah ac Adrian Shaw (BA Ffrangeg ac Almaeneg, 1979; BA Daearyddiaeth, 1976 )
  • Treuliais rai o flynyddoedd hapusaf fy mywyd yn Aber, a nifer o oriau hapus yn adeilad yr Hen Goleg, yn y darlithfeydd, y llyfrgell, yn actio ar lwyfan y neuadd arholiadau neu’n loetran yn y Cwad.

    Peter Walton (BA Athroniaeth, 1964)
  • Mae Prifysgol Aberystwyth yn lle gwych i fyw ac i ddysgu. Mae’r Hen Goleg yn adeilad hardd a gobeithio y bydd ei harddwch a’i serenedd yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau o fyfyrwyr am flynyddoedd i ddod.

    Matthew Vernon (LLB Y Gyfraith, 2013)
  • Doedd fy narlithoedd ddim yn yr hen goleg ond roeddwn i yn dwli arno yn fy nghyfnod yn Aberystwyth o 1980 – 1983. Hoffwn i fyfyrwyr y dyfodol ac ymwelwyr ei fwynhau hefyd.

    Abdul K Almutawa (BScEc Economeg a Gwleidyddiaeth Ryngwladol, 1983)