Hiwmor yn helpu oedolion hŷn i ymdopi â heneiddio – ymchwil

Credyd: Centre for Ageing Better - Pexels

Credyd: Centre for Ageing Better - Pexels

01 Ebrill 2026

Mae hiwmor yn chwarae rôl hanfodol wrth helpu oedolion hŷn i ymdopi â’r heriau sy’n gysylltiedig â heneiddio a chynnal cysylltiadau cymdeithasol, yn ôl ymchwil newydd.  

Defnyddiodd y tîm ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth gyfweliadau manwl gydag oedolion hŷn ledled Cymru, yr Alban a Lloegr i ddangos y ffyrdd y mae hiwmor yn effeithio ar les yn ddiweddarach mewn bywyd.

Dangosodd yr astudiaeth fod pobl hŷn yn ei ddefnyddio fel dull ymdopi, ac fel ffordd o gynnal urddas yn wyneb profedigaeth ac wrth i les anwyliaid ddirywio.  

Canfu’r academyddion hefyd fod pobl dros 60 oed yn defnyddio comedi i leddfu pryderon ynghylch iechyd a’i fod yn cynnig achubiaeth gymdeithasol iddynt.  

Roedd menywod yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn ei ddefnyddio i ddelio â sefyllfaoedd emosiynol sensitif neu i osgoi teimladau anodd, tra bod dynion yn tueddu i bwysleisio ei rôl wrth greu cysylltiadau cymdeithasol. Roedd menywod hefyd yn fwy ymwybodol na dynion o’r ochr negyddol i ddweud jôcs.

Dywedodd yr awdur arweiniol Heather Heap, o Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth:

“Wrth wrando ar gyfranogwyr yn siarad am hiwmor yn eu bywydau bob dydd, daeth yn amlwg ei fod yn rhan annatod o’u profiad o heneiddio. Dywedodd llawer ‘pe na bawn i’n chwerthin, byddwn i’n crio’, ac mae hynny’n dangos pa mor bwysig yw hiwmor wrth leddfu’r pwysau emosiynol ar bobl hŷn. Yr hyn a welsom yn y cyfweliadau yw nad yw hiwmor yn rhyddhad ysgafn yn unig – mae’n ffordd o ymdopi, mae’n ffordd o ddod â phobl at ei gilydd, ac mae rhai yn ei ddefnyddio fel masg ar yr hyn y maen nhw’n ei alw’n ‘ddyddiau tywyll’.

“Ar yr un pryd, roedd y cyfranogwyr yn deall bod hiwmor yn gallu codi calon, ond gall hefyd fod yn niweidiol pan mae’n targedu pobl yn hytrach na sefyllfaoedd. Mae deall y cydbwysedd hwnnw’n bwysig os ydyn ni am ddeall ei rôl go iawn mewn lles yn ddiweddarach mewn bywyd.” 

Heather Heap, Adran Seicoleg, Prifysgol Aberystwyth

Canfu’r astudiaeth bod chwerthin ar y cyd yn cryfhau perthnasoedd ac yn annog oedolion hŷn i fynd allan i gymdeithasu.

Roedd y rheini â gwell lles yn tueddu i ddefnyddio hiwmor i godi calon eraill, meithrin cysylltiadau a chynnal agwedd bositif. Mewn cyferbyniad, roedd y rhai â lefel is o les yn fwy tebygol o ddefnyddio hiwmor mewn ffordd amddiffynnol, fel math o fasg neu darian i ymdopi.  

Roedd nifer yn teimlo nad oeddent yn deall hiwmor y genhedlaeth iau. Roedd rhai yn poeni nad yw’r hiwmor y maen nhw’n ei fwynhau yn cael ei ystyried yn dderbyniol bellach, gan olygu eu bod nawr yn ofalus ynglŷn â mynegi eu hunain rhag ofn iddynt achosi tramgwydd.

 

Canfu'r ymchwil hefyd ddarlun cymhleth o ran y mathau o jôcs a chomedi y mae pobl hŷn yn eu ffafrio. Dywedodd y cyd-awdur Dr Gil Greengross:

“Er bod rhai pobl hŷn wedi dweud wrthym eu bod yn mwynhau hiwmor sych neu dywyll, nid oedd llawer yn hoffi jôcs a oedd yn targedu unigolion, yn defnyddio rhegfeydd, neu'n dibynnu ar arddulliau comig ymosodol. Ac, er bod rhai'n teimlo bod jôcs a stereoteipiau sy'n gysylltiedig ag oedran yn gallu atgyfnerthu delwedd negyddol o'u hunain, roedd eraill yn teimlo bod jôcs o'r fath yn berthnasol - yn enwedig pan gânt eu rhannu gydag unigolyn hŷn arall.”  

“Mae’r canfyddiadau’n dangos bod angen cymryd hiwmor o ddifrif mewn ymchwil ar heneiddio. Mae angen mwy o astudiaethau amrywiol i edrych ar y gwahaniaethau rhwng grwpiau o oedolion hŷn yn fanylach.”

 

AU8826