102. Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi’r frwydr yn erbyn malaria drwy fapio gyda dronau
Dr Andy Hardy

Brwydr yn erbyn malaria

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yn cefnogi awdurdodau yn Zanzibar gyda thechnoleg drôn a ffonau clyfar i helpu i ddod o hyd i byllau dŵr y mae mosgitos yn eu defnyddio i fridio.

Roedd hyn yn cynnwys gweithio gyda Rhaglen Dileu Malaria Zanzibar i hedfan dronau dros fannau problemus hysbys o falaria.

Mae angen i awdurdodau iechyd cyhoeddus allu lleoli a mapio safleoedd bridio mosgito mewn mannau problemus o falaria er mwyn targedu ymdrechion dileu.

Ariannwyd y prosiect gan y Consortiwm Rheoli Fector Arloesol a sefydlwyd yn 2005 gyda grant cychwynnol o $50 miliwn gan Sefydliad Bill & Melinda Gates.

Spatial Intelligence System (SIS) for malaria vector control

Trydar – Aber Uni EOED Lab

Mwy o wybodaeth

Dr Andy Hardy

Adran Academaidd

Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

Nesaf
Blaenorol