80. Aur Melyn – cynhyrchu galanthamine yn deillio o gennin pedr ar dir uchel
Yr Athro Mariecia Fraser

Daffodiliau

Mae Galantamine yn gyfansoddyn fferyllol sydd wedi bod yn driniaeth cymeradwy ar gyfer Clefyd Alzheimer ers 1998.

Caiff galantamine ei gynhyrchu'n bennaf o blanhigion gan fod synthesis cemegol yn anodd ac yn ddrud.

Cennin pedr yw'r unig ffynhonnell fyd-eang sy'n hyfyw yn economaidd ar gyfer galantamine.

Profodd y prosiect hwn, a ariannwyd gan Innovate UK, ddull newydd o gynhyrchu galanthamine yn seiliedig ar hau cennin pedr i borfa ucheldir presennol a chynaeafu yn y gwanwyn.

Roedd yn gydweithrediad rhwng staff PA ym Mhwllpeiran, peirianwyr o Brifysgol Harper Adams ac Agroceutical Products Ltd. 

Aur Melyn – cynhyrchu galanthamine yn deillio o gennin pedr ar dir uchel

Facebook – Pwllpeiran

Mwy o wybodaeth

Yr Athro Mariecia Fraser

Adran Academaidd

IBERS

Nesaf
Blaenorol