Symudedd rhyngwladol a chyllid rhwydweithio

Mae mynediad at alwadau cyllid rhyngwladol mwy yn aml yn ddibynnol ar gael perthynas gref gydag ymchwilwyr eraill yn Ewrop ac ymhellach. Mae cyllid ar gael drwy wahanol ffynonellau i ganiatáu symudedd i gryfhau'r rhwydweithiau presennol, ymuno ag eraill sydd eisoes yn gweithio gyda'i gilydd, neu i feithrin perthnasoedd rhyngwladol newydd. Mae pob un o’r cynlluniau canlynol yn cynnig cyfleoedd gwahanol ar gyfer symudedd a rhwydweithio.

Os oes angen cyngor pellach arnoch ar sut i wneud cais ar gyfer pob un o'r rhain cysylltwch â Scott Tompsett