Cyllid ar gyfer Effaith Ymchwil

Cyllid ar gyfer Effaith Ymchwil - Mae cyllid penodol wedi'i neilltuo i gefnogi gweithgareddau effaith ymchwil ac arloesi ac rydym yn cynnig cymorth ariannol uniongyrchol ar ffurf Ymchwil ac Arloesi. Mae'r gronfa hon ar gau dros dro.

Cynllun Absenoldeb Effaith Ymchwil - O dan y Cynllun Absenoldeb Effaith Ymchwil gall aelod o staff ymgeisio am gyfnod o absenoldeb hyd at chwe mis i ganolbwyntio ar gynhyrchu effaith yn deillio o’u hymchwil. Mae'r gronfa hon ar gau dros dro.

Cronfeydd cymorth a reolir gan YBA

Mae’r Brifysgol yn gweinyddu ystod o gronfeydd er mwyn meithrin a chryfhau gwaith ymchwil y Brifysgol ac i gefnogi aelodau o staff sy’n dymuno mynychu cynadleddau ymchwil, ymgymryd ag ymweliadau ymchwil neu waith maes, neu astudio mewn canolfannau ar wahân i Aberystwyth.

Dyfarniadau Syr David Hughes Parry - Nod y dyfarniadau yw annog astudiaethau sy'n cyfrannu at anghenion diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd Cymru.

Cronfa Gooding - Mae Cronfa Gooding yn gymynrodd i gefnogi aelodau o staff mewn adrannau gwyddoniaeth, ac yn achlysurol myfyrwyr ymchwil, sy’n mynychu cynadleddau academaidd.

Cronfa Cymynrodd R. D. Roberts - Mae Cronfa Cymynrodd R. D. Roberts yn galluogi aelodau o’r staff academaidd uwch i wneud cais am absenoldeb a chymorth ymchwil, am gyfnod o ddim llai na chwe mis, ar gyflog llawn, gyda chostau cyflenwi eu dyletswyddau yn cael eu talu o incwm y gronfa. 

AberCollab - Nod AberCollab yw helpu ymchwilwyr i adeiladu a chryfhau cydweithrediadau a rhannu gwybodaeth yn effeithiol i gefnogi arloesedd ac effaith.

AberSeed - Mae AberSeed yn rhaglen hyblyg ar gyfer staff academaidd y Brifysgol i ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd, adeiladu rhwydwaith effeithiol, cynnal ymchwil i'r farchnad, a datblygu cynllun masnachol.

Cronfa Ymchwil y Brifysgol - Mae Cronfa Ymchwil y Brifysgol (CYB) yn darparu cefnogaeth ddethol ar gyfer gweithgarwch ymchwil achlysurol, ac ystyrir ei fod o bwysigrwydd strategol i broffil ymchwil gyffredinol y Brifysgol. Mae'r gronfa hon ar gau dros dro.