Newyddion Ymchwil
Samplu aer byd-eang mwyaf erioed yn mapio lledaeniad ffyngau
Mae ymchwil newydd wedi canfod bod madarch a ffyngau eraill yn lledaenu eu sborau mewn ffordd llai eang nag a dybiwyd gynt, ac yn fwy tebyg i sut mae anifeiliaid a rhywogaethau planhigion yn mudo.
Darllen erthygl![Delwedd Loeren o Faes Iâ Juneau
Credyd: Delweddau Landsat drwy law Canolfan Hedfan Gofod NASA Goddard ac Arolwg Daearegol yr Unol Daleithiau](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/Credyd_Credit_NASA-300x212.png)
Dadmer rhewlifoedd Alaska yn gynt nag a dybiwyd
Mae dadmer rhewlifoedd mewn maes iâ mawr yn Alaska wedi cyflymu a gallai gyrraedd pwynt di-droi'n-ôl yn gynt nag a dybiwyd yn flaenorol, yn ôl ymchwil newydd.
Darllen erthygl![Llong ymchwil y Syr David Attenborough, credyd llun Jenna Plank, Arolwg Antarctig Prydain.](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/Llun-terfynol-1-300x168.jpg)
Morloi yn datgelu oedran dŵr yr Antarctig am y tro cyntaf
Mae oedran dŵr yr Antarctig wrthi’n cael ei ddatgelu gan forloi am y tro cyntaf.
Darllen erthygl![](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/Hidden-Harms-BSL-Cymraeg-300x168.png)
Prosiect ymchwil i drais a cham-drin domestig yn rhyddhau adnodd newydd yn Iaith Arwyddion Prydain
Mae Prosiect Dewis Choice yn nodi Diwrnod Byd-eang Ymwybyddiaeth am Gam-drin Pobl Hŷn (15 Mehefin) trwy ryddhau fersiwn yn Iaith Arwyddion Prydain o'i animeiddiad trawiadol sy'n tynnu sylw at yr heriau unigryw y mae oedolion hŷn yn eu hwynebu lle y mae camdriniaeth yn digwydd ar yr aelwyd.
Darllen erthygl![Heather Heap, sy'n rhedeg yr astudiaeth.](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/Heather-Heap-300x168.png)
A yw cellweiriau ymosodol yn broblem i gyplau hyn? Dechrau ymchwil newydd
O jociau ‘cnoc cnoc’ i gellweirio am y fam-yng-nghyfraith, mae ymchwilwyr yn ystyried sut y gall digrifwch effeithio ar berthnasau cyplau hŷn.
Darllen erthygl![Dr Sarah Dalesman, Prifysgol Aberystwyth](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/Dr-Sarah-Dalesman--300x200.jpg)
Mae llygredd gwrthfiotig yn gwneud malwod yn anghofus trwy newid microbiom eu perfedd.
Mae gwrthfiotigau'n rhwystro malwod rhag ffurfio atgofion newydd trwy darfu ar ficrobiom eu perfedd - y gymuned o facteria llesol a geir yn eu perfedd.
Darllen erthyglInterniaethau ymchwil rhyngwladol mawreddog i fyfyrwyr o Aberystwyth
Mae dau fyfyriwr israddedig o Brifysgol Aberystwyth yn mynd i fod yn treulio'r haf yn gweithio yng Nghanada ar ôl derbyn interniaethau ymchwil mawreddog.
Darllen erthygl![Helyg](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/willow-web-300x168.jpg)
Ymchwil cnydau biomas â nod i roi hwb i’r economi wledig
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn edrych ar allu cnydau, megis helyg a gwern, fel ffynhonnell incwm amgen i ragor o ffermwyr.
Darllen erthygl![Dr Jaykumar Patel](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/Dr-Jay-Patel-2-300x190.jpg)
Grawn sy’n gwrthsefyll sychder yn ‘hanfodol’ wrth i’r boblogaeth gynyddu - cymrawd ymchwil newydd
Mae ymchwil byd-enwog planhigion Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn hwb gyda chymrodoriaeth ymchwil sy’n cael ei hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd.
Darllen erthygl![Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yr Athro Jon Timmis yn derbyn y wobr o'i Mawrhydi'r Frenhines ym Mhalas Buckingham](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/QAP-Photo-300x420.png)
Y Frenhines yn rhoi gwobr i Brifysgol Aberystwyth am ymchwil parasitoleg
Mae’r Frenhines Camilla wedi cyflwyno gwobr o fri i Brifysgol Aberystwyth am ei gwaith parasitoleg arloesol mewn seremoni ym Mhalas Buckingham heddiw (dydd Iau, 22 Chwefror).
Darllen erthygl![Prawf EEG yn Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth.](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/AU1324-300x200.jpg)
Ydy te gwyrdd yn gallu atal clefydau mewn pobl hŷn? Prosiect ymchwil
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn profi sut y gall maetholion mewn te gwyrdd effeithio ar afiechydon sy’n gysylltiedig â heneiddio drwy fonitro gweithgaredd ymennydd pobl.
Darllen erthygl![Canolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion, IBERS, Prifysgol Aberystwyth](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/028dwpps_gog_50714-1-300x153.jpg)
Datgloi potensial meillion i leihau defnydd gwrtaith ffermydd - nod ymchwil
Mae gwyddonwyr yn anelu at ddatgloi potensial meillion a chodlysiau eraill i leihau defnydd gwrtaith ac allyriadau da byw mewn amaeth, diolch i grant o £3.3 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol.
Darllen erthygl![Llun o’r awyr o gampws Gogerddan Prifysgol Aberystwyth.](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/prifysgol-aberystwyth-university-gogerddan-campus-aerial-1-300x225.jpg)
Buddsoddiad ymchwil mawr i drawsnewid defnydd tir ym Mhrifysgol Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth yn rhan o gonsortiwm arbenigol newydd a sefydlwyd i helpu Llywodraeth Cymru a gweinyddiaethau eraill y DU i fynd i’r afael ag allyriadau nwyon tŷ gwydr o ddefnydd tir ac amaethyddiaeth.
Darllen erthygl![Dr Onyinyechukwu Durueke](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/Dr-Onyinyechukwu-Durueke---web-300x153.png)
Ymchwilio i effaith trais ar sail rhywedd ar ddynion a bechgyn yn Nigeria
Effaith trais ar sail rhywedd ar ddynion a bechgyn yn Nigeria yw ffocws astudiaeth newydd yn y Brifysgol yn sgil dyfarnu cymrodoriaeth o fri.
Darllen erthygl![Morloi eliffant yn yr Antarctig](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/IMG_3384-web-300x200.jpg)
Morloi’r Antarctig yn helpu gwyddonydd Aberystwyth i fonitro cynhesu’r môr
Bydd morloi yn cynorthwyo academydd o Brifysgol Aberystwyth i fonitro cynhesu’r môr yn yr Antarctig yn ystod taith llong ymchwil y Syr David Attenborough.
Darllen erthygl![Yr Athro Luis Mur](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/Professor-Luis-Mur-1-300x446.png)
£1 miliwn ar gyfer ymchwil ar brawf diagnosis cynnar o ganser yr ysgyfaint
Mae gwaith gwyddonwyr i ddatblygu pecyn diagnosis cyflym newydd er mwyn canfod canser yr ysgyfaint yn gynharach wedi derbyn hwb gyda grant gwerth £1 miliwn.
Darllen erthygl![](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/941-Aber_Town_Students-_AU_5810_54675---web-300x166.jpg)
Ymchwil yn dangos fod cymunedau gwledig yn cael eu gadael ar ôl oherwydd seilwaith digidol gwael
Mewn erthygl yn The Conversation, Dr Aloysius Igboekwu, Dr Maria Plotnikova a Dr Sarah Lindop o Ysgol Fusnes Aberystwyth yn trafod sut mae cymunedau gwledig yn cael eu gadael ar ôl oherwydd seilwaith digidol gwael.
Darllen erthygl![Y tîm yn derbyn y wobr.](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/2)-Team-award-web-300x225.jpg)
Myfyrwyr Aberystwyth yn ennill gwobr ryngwladol am ymchwil ffliw adar
Mae myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill gwobr fawreddog Fforwm Bwyd y Byd am eu gwaith ymchwil ar fynd i’r afael â ffliw adar.
Darllen erthyglGwobr Frenhinol i Brifysgol Aberystwyth am ymchwil arloesol ym maes parasitoleg
Mae Gwobr Pen-blwydd y Frenhines wedi'i dyfarnu i Brifysgol Aberystwyth am ei gwaith arloesol yn mynd i’r afael ag effaith andwyol llyngyr lledog parasitig.
Darllen erthygl![Dr Dilan Okcuoglu](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/Dr-Dilan-Okcuoglu-300x200.png)
Ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth ar y gwrthdaro yn ardaloedd ffindirol Cwrdaidd
Effaith y gwrthdaro yn ardaloedd ffindirol Cwrdaidd Twrci fydd canolbwynt ymchwil newydd, yn dilyn dyfarnu cymrodoriaeth uchel ei bri.
Darllen erthygl![Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn cyflwyno Gwobr Effaith Ymchwil Eithriadol i’r Athro Ryszard Piotrwicz.](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/AU31623-Research-Impact-Award-300x162.jpg)
Gwobrau rhagoriaeth am effaith ymchwil ar bolisïau byd-eang
Mae gwaith arloesol gan ddau ymchwilydd ym meysydd bioamrywiaeth fyd-eang a rheoleiddio masnachu mewn pobl wedi cael cydnabyddiaeth arbennig.
Darllen erthygl![Ysgrifennydd Cymru David TC Davies (dde) a Dr Kerrie Farrar o Brifysgol Aberystwyth (chwith)](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/David-TC-Davies-a-Kerrie-Farrar-(2)-300x225.jpg)
Prifysgol Aberystwyth yn dangos ymchwil i Weinidogion yn Llundain
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi trafod eu hymchwil gyda Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol mewn digwyddiad yn Llundain yn arddangos y gorau o ymchwil ac arloesi Cymru.
Darllen erthygl![Aelodau o’r gymuned Hakka o Taiwan yn ystod eu hymweliad â Phrifysgol Aberystwyth i ddysgu am y gwaith sy’n cael ei wneud i hyrwyddo’r Gymraeg.](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/DSC_2641-web-300x156.jpg)
Aberystwyth yn rhannu ymchwil a phrofiadau gyda chymuned siaradwyr Hakka
Bu aelodau o’r gymuned sy’n siarad yr iaith Hakka yn Taiwan yn ymweld â Phrifysgol Aberystwyth ddydd Iau 19 Hydref i ddysgu am ymchwil ac am brofiadau ymarferol wrth hybu’r defnydd o’r Gymraeg.
Darllen erthygl![Credyd: Yr Athro Bryn Hubbard](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/Greenland-ice-sheet-300x147.jpg)
Beth fydd yn digwydd i len iâ yr Ynys Las os byddwn yn methu ein targedau cynhesu byd-eang
Mewn erthygl ar gyfer The Conversation, mae'r Athro Bryn Hubbard o'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn son am astudiaeth newydd sy'n awgrymu y bydd yr iâ yn goroesi os yw'r tymheredd yn dod yn ôl i lawr yn fuan.
Darllen erthyglNi ddaeth Maen Allor Côr y Cewri o Gymru – ymchwil
Mae ansicrwydd am darddiad y “garreg las” fwyaf sydd yng nghanol Côr y Cewri yn sgil ymchwil newydd o Brifysgol Aberystwyth.
Darllen erthygl![Yr Is-Ganghellor yr Athro Elizabeth Treasure (canol) ac Dr Eva De Visscher, Rheolwr Ymddiriedolaethau a Sefydliadau ym Mhrifysgol Aberystwyth (ail o’r dde) yn nodi lansio gwaddol newydd Joy Welch yng nghwmni rhai sydd wedi derbyn cefnogaeth eisoes; Dr Valerie Rodrigues (Gwyddorau Bywyd), Dr Alice Vernon (Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol), yr Athro Stephen Tooth (Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear), Tracy Knight, Dr Sarah Dalesman a Dr Rhys Thatcher (Gwyddorau Bywyd) a Dr Rachel Cross (Ffiseg).](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/AU20423-Joy-Welsh-Trust-presentation-web-300x179.jpg)
£3 miliwn gan un o dorwyr cod Enigma ar gyfer ymchwil Prifysgol Aberystwyth
Mae un o raddedigion o Aberystwyth a gyfrannodd at dorri cod Enigma yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd wedi gadael dros £3m i'w chyn-Brifysgol.
Darllen erthygl![Yr Athro Luis Mur](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/Professor-Luis-Mur-300x446.png)
Prawf newydd yn anelu at ddiagnosis cynnar o ganser yr ysgyfaint
Gallai fod yn bosibl canfod canser yr ysgyfaint yn gynharach diolch i brosiect a arweinir gan wyddonwyr o Gymru sy’n datblygu pecyn diagnosis cyflym newydd.
Darllen erthygl![Y gylfinir, aderyn hirgoes mwyaf Ewrop gyda'i big crwm hir nodedig, sydd i'w weld yn ystod y gaeaf yn bwydo ar fflatiau llaid llanw, morfeydd heli a thir fferm cyfagos. Cafodd ei ychwanegu at restr Goch Adroddiad Statws Cadwraeth y DU yn 2015.](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/Curlew-web-300x142.jpg)
Adar o Gymru ac Iwerddon sydd dan fygythiad yn cael eu gyrru i gynefinoedd newydd oherwydd newid hinsawdd
Mae aderyn sy’n frodorol i Gymru ac Iwerddon a dan fygythiad gwirioneddol yn cael eu gorfodi i gynefinoedd peryclach o ganlyniad i newid hinsawdd yn ôl ymchwil newydd.
Darllen erthygl![Dr Danny Thorogood, Prifysgol Aberystwyth](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/Danny-Thorogood-Portrait-300x301.jpg)
Datgloi cyfrinach atal mewnfridio mewn planhigion a thaflu goleuni ar Darwin
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi helpu i adnabod y genynnau sy’n atal planhigion rhag bridio â glaswelltau sy’n perthyn yn agos, gan gynnig cyfle i ddatblygu mathau gwell o reis, ŷd, siwgr a gwenith.
Darllen erthygl![Darlun yn dangos sut y bydd Telesgop Solar Ewrop yn edrych ar ôl iddo gael ei adeiladu yn yr arsyllfa yn La Palma, Sbaen. Credyd: IDOM](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/EST---credit-IDOM---web-300x168.jpg)
Ffisegwyr o Aberystwyth yn cydweithio ar brosiect telesgop solar
Mae Prifysgol Aberystwyth yn rhan o gydweithrediad rhyngwladol i adeiladu'r telesgop solar mwyaf a adeiladwyd yn Ewrop erioed.
Darllen erthygl![Fferm wynt ar y môr](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/IMG-20210622-WA0019-300x225.jpg)
Ffermydd gwynt ar y môr yn gynefinoedd da i gimychiaid – ymchwil
Gall ffermydd gwynt ar y môr gynnig cynefinoedd newydd i gimychiaid a buddion bioamrywiaeth posibl, yn ôl ymchwil newydd sydd wedi cael ei arwain gan academyddion o Brifysgol Aberystwyth.
Darllen erthygl![Yr Athro Inseop Shin a’r Athro Peter Merriman gyda’r Memorandwm o Ddealltwriaeth a lofnodwyd rhwng Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Konkuk](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/Llofnodi-Grwp-2-300x191.png)
Hwb i ymchwil trafnidiaeth gyda phartneriaeth rhwng Aberystwyth a De Korea
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu partneriaeth newydd gyda Phrifysgol Konkuk yn Ne Korea fel hwb mawr i’w hymchwil trafnidiaeth a symudedd.
Darllen erthyglRhewlifoedd bregus wedi’u gorchuddio gan gerrig yn destun ymchwil gan wyddonwyr Aberystwyth
Mae gwyddonwyr yn ymchwilio i’r cynnydd yn y cerrig sy’n gorchuddio rhewlifoedd sy’n gallu effeithio ar ba mor gyflym maent yn dadmer wrth i’r hinsawdd newid.
Darllen erthygl![Dr Roger Santer, Prifysgol Aberystwyth](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/Dr-Roger-Santer-300x200.jpg)
Dirgelwch am pam fo trapiau glas yn dal pryfed wedi’i ddatrys – ymchwil
Mae’r dull traddodiadol o ddefnyddio trapiau glas i dal pryfed yn gweithio oherwydd bod y pryfed yn drysu’r lliw gydag anifeiliaid y maen nhw’n dymuno eu cnoi, yn ôl ymchwil newydd a gafodd ei arwain gan academyddion o Brifysgol Aberystwyth.
Darllen erthygl![Dr Arwyn Edwards (dde)](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/Arwyn-Edwards-300x200.jpg)
Erthygl - Safle trosedd yw’r Arctig sy’n dadmer
Wrth ysgrifennu yn The Conversation, mae Dr Arwyn Edwards o’r Adran Gwyddorau Bywyd yn cymharu’r Arctig sy’n dadmer ag ymchwiliad troseddol cymhleth, ac yn disgrifio ei waith maes gwyddonol fel dogfennu safleoedd trosedd.
Darllen erthygl![Miscanthus yng nghaeau Prifysgol Aberystwyth](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/Cae-miscanthus-300x224.jpg)
Hwb hanner miliwn i ymchwil cnydau deallusrwydd artiffisial yn Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn hwb o hanner miliwn o bunnau gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar gyfer ymchwil i swyddogaeth deallusrwydd artiffisial mewn bridio cnydau.
Darllen erthygl![Mae Nancy Segal yn Athro Seicoleg ym Mhrifysgol Talaith California, Fullerton.](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/Segal,-Wang-Award,-Color,-1,2016-300x497.jpg)
Arbenigydd blaenllaw ar astudiaethau gefeillio yn cyflwyno ymchwil yn Aberystwyth
Bydd arbenigydd blaenllaw ar y berthynas rhwng gefeilliaid yn siarad am ei hymchwil diweddaraf ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Mehefin 2023.
Darllen erthygl![Tirwedd Wledig, Cymru](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/Welsh-Landscape-web-300x131.jpg)
Ymchwilwyr yn chwilio am wirfoddolwyr er mwyn taclo unigrwydd gwledig
Mae academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gofyn i bobl rannu eu profiadau fel rhan o ymchwil am sut y gellid goresgyn unigrwydd mewn ardaloedd gwledig.
Darllen erthygl![Pys yn tyfu yng Ngogerddan, Prifysgol Aberystwyth](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/Pea-plants-webcrop-300x131.jpg)
Prosiect ymchwil ar brotein pys gwerth £1 filiwn am leihau mewnforion soia
Bydd prosiect newydd gwerth £1 filiwn yn ymchwilio i fathau newydd o bys i leihau dibyniaeth y Deyrnas Gyfunol ar fewnforion soia, cyhoeddwyd heddiw.
Darllen erthygl![Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/028dwpps_gog_50714-300x131.jpg)
IBERS yn dod yn ganolfan ragoriaeth ymchwil ffermio cynaliadwy
Mae Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth yn ymuno â rhwydwaith ffermio cynaliadwy y Deyrnas Gyfunol o ganolfannau arloesi a ffermydd arddangos sy’n arwain y byd.
Darllen erthygl![Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/IBERS-gwe-maint-iawn-300x200.jpg)
Hwb o £9.8 miliwn ar gyfer ymchwil cnydau IBERS yn Aberystwyth
Mae Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi derbyn hwb ariannol o £9.8 miliwn ar gyfer eu gwaith ar gnydau gwydn.
Darllen erthygl![Yr Athro Richard Lucas](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/Lucas-crop-300x215.png)
Academyddion Cymru yn helpu asiantaethau gofod i fesur carbon coedwigoedd y byd
Mae cyfraniad academyddion Aberystwyth at fapio biomas coedwigoedd y byd ar gyfer Asiantaeth Gofod Ewrop (ESA) yn cynorthwyo ymdrechion i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Darllen erthygl![Yr Athro Colin McInnes a Dr Patricia Shaw ar safle adeiladu y labordy cartref clyfar](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/Smart_home-300x191.jpg)
Prifysgol Aberystwyth i agor labordy cartref clyfar er mwyn profi technoleg ansawdd bywyd i'r henoed
Bydd cadeiriau olwyn ac anifeiliaid anwes awtonomaidd ymhlith y dechnoleg a fydd yn cael ei dreialu mewn cartref clyfar newydd a blaengar ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy'n anelu at wella ansawdd bywyd i'r henoed neu bobl â chyflyrau iechyd.
Darllen erthygl![Dr Ruth Wonfor](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/dr-ruth-wonfor-senedd-hydref22-wholepicture-web-300x200.jpg)
Grant ymchwil i helpu i gynhyrchu bwydydd cynaliadwy newydd
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cyfrannu at brosiect ymchwil gwerth miliynau o bunnoedd i gynhyrchu protein amgen cynaliadwy i helpu i fwydo poblogaeth gynyddol y byd.
Darllen erthygl![Yr Athro Angela Hatton](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/Yr-Athro-Angela-Hatton-300x186.jpg)
Penodi Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi newydd
Mae’r Athro Angela Hatton wedi’i phenodi’n Ddirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesedd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Darllen erthygl![Dr John Scullion](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/John-Scullion-2-300x200.jpg)
Rhybudd perygl llifogydd am drin tir â chalch ar yr ucheldir – ymchwil
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi rhybuddio y gallai llifogydd waethygu oni bai bod yr arfer o drin tiroedd uwch â chalch yn cael ei gynnal.
Darllen erthygl![](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/Richard-Wyn-Huw-a-Dr-Amanda-Lloyd-(002)web-300x153.jpg)
Profi gwydr a wnaed o lechi ar gyfer cynhyrchwr gwin a seidr o Gymru
Mae math newydd o wydr sydd wedi ei wneud o wastraff llechi ar gyfer gwinllan o Gymru wedi cael ei brofi am ei rinweddau cadw bwyd gan ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth.
Darllen erthygl![JUICE mewn cynhwysydd trafnidiaeth.](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/Juice_web-300x186.jpg)
Gwyddonwyr Aberystwyth yn helpu i warchod taith ofod i’r blaned Iau rhag ymbelydredd eithafol
Bydd taith ofod arloesol i astudio lleuadau’r blaned Iau yn cael ei gwarchod rhag peth o’r ymbelydredd llymaf yng Nghysawd yr Haul, diolch i gyfrifiadau gan ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth.
Darllen erthygl![Yr Athro Michael Woods o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth.](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/michael-woods-llai-300x245.jpeg)
Ymchwil ar gefnogaeth wledig i wleidyddiaeth aflonyddgar yn ennill grant Ewropeaidd sylweddol
Bydd y berthynas rhwng anfodlonrwydd etholwyr mewn ardaloedd gwledig a chefnogaeth i symudiadau gwleidyddol aflonyddgar yn Ewrop a’r Unol Daleithiau, yn destun astudiaeth o bwys gan athro o Brifysgol Aberystwyth, yn sgil dyfarnu grant uchel ei fri.
Darllen erthygl![Safle ymchwil tir mawn, Prifysgol Aberystwyth](/cy/rbi/research/aber-research/news/erthyglaunewyddion/Tir-Mawn-Pwllpeiran-llai-300x225.jpg)
Prosiect adfer tir mawn i daclo newid hinsawdd yn dechrau ym Mhrifysgol Aberystwyth
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cychwyn ar brosiect i adfer tir mawn fel rhan o ymdrech i dynnu nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer.
Darllen erthygl