Cyllid a Chymorth
Mae YB&A yn darparu cymorth ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd ariannu i alluogi staff a myfyrwyr y brifysgol i ddilyn ymchwil ac arloesi o safon fyd-eang. Mae rhestr o’r cyrff ariannu rydym yn eu cefnogi i’w gweld isod.
Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI)
Ymchwil Trawsfudol
Defnyddir cyllid trawsfudol i bontio’r ‘bwlch’ rhwng ymchwil prifysgol cyfnod cynnar a’i fasnacheiddio. Trwy ddefnyddio cyllid trawsfudol, mae'r risg yn cael ei leihau i bartneriaid masnachol posibl. Mae hyn yn gwneud y cyfle yn fwy deniadol ac yn gwneud canlyniad llwyddiannus yn fwy tebygol.
SMART Expertise - Mae SMARTExpertise yn cynnig cymorth ariannol i brosiectau cydweithredu arloesol sy’n galw am arbenigedd eang i brofi syniad neu ddatrys problem o fewn diwydiant.
Mae’r alwad hon i gystadlu ym meysydd allweddol SMARTExpertise yn ceisio cefnogi diwydiant i weithio gyda sefydliadau ymchwil o Gymru i fynd i’r afael â her/iau technegol strategol o fewn y diwydiant gan ganolbwyntio’n glir ar fasnacheiddio, datblygu a thwf.
Innovate UK - Innovate UK yw asiantaeth arloesi genedlaethol y DU. Rydym yn cefnogi arloesi a arweinir gan fusnes ym mhob sector, technoleg a rhanbarth y DU. Rydym yn helpu busnesau i dyfu trwy ddatblygu a masnacheiddio cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd, a gefnogir gan ecosystem arloesi ragorol sy'n ystwyth, yn gynhwysol ac yn hawdd i'w llywio. Cyfleoedd Presennol.
Adrannau a Chyrff Cyhoeddus y Llywodraeth
Cyllid Rhyngwladol
Mae'r Uned Ewropeaidd o fewn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi yn dîm sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid gan anelu at gynyddu lefel y gwasanaeth i'r gymuned ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth drwy leihau'r baich gweinyddol sy'n gysylltiedig â gwneud cais a rheoli grantiau Ewropeaidd.
Horizon Europe - Horizon Europe yw rhaglen ymchwil ac arloesi saith mlynedd nesaf yr Undeb Ewropeaidd, a fydd yn rhedeg o 2021 i 2027 gyda chyllideb o € 95.5 biliwn. Amcan cyffredinol y rhaglen yw cyflawni gwyddonol, technolegol, economaidd ac effaith gymdeithasol buddsoddiadau'r Undeb mewn Ymchwil a Datblygu, i gryfhau seiliau gwyddonol a thechnolegol yr Undeb, a meithrin ei gystadleurwydd.
Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd - Pwrpas y cronfeydd hyn yw buddsoddi mewn creu swyddi ac economi ac amgylchedd Ewropeaidd cynaliadwy ac iach.
Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd - Rhaglen gyllido yw INTERREG sydd â’r nod o gryfhau cydlyniant economaidd a chymdeithasol trwy hyrwyddo cydweithrediad rhyngwladol a thrawsffiniol.
'Green Deal' Ewrop - Mae 'Green Deal' Ewrop yn ariannu prosiectau ymchwil ac arloesi sy’n ymateb i’r argyfwng hinsawdd ac yn helpu i warchod ecosystemau a bioamrywiaeth unigryw Ewrop.
SCoRE Cymru - Mae SCoRE Cymru yn rhoi cymorth ariannol i sefydliadau sydd am gymryd rhan mewn rhaglenni ymchwil ac arloesi Ewropeaidd.
Ser Cymru II - Mae rhaglen Ser Cymru II yn gyfres o gynlluniau a ariennir yn rhannol gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy'r cynllun COFUND o Weithrediadau Marie Sklodowska-Curie Horizon 2020 (MSCA) neu Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) o dan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF). Bydd y rhaglen yn cefnogi mwy na 150 o swyddi newydd i weithio gydag ymchwilwyr radd flaenaf mewn prifysgolion yng Nghymru.
Cyllid Cyfnewid Gwybodaeth
Mae cyfnewid gwybodaeth yn broses sy’n dod â staff academaidd, defnyddwyr ymchwil a grwpiau a chymunedau ehangach at ei gilydd i gyfnewid syniadau, tystiolaeth ac arbenigedd. Isod mae rhai cyfleoedd ariannu ar gyfer Cyfnewid Gwybodaeth.
Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth KESS II - Mae Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESSII) yn weithgaredd sylweddol ar draws Cymru a gefnogir gan gronfeydd Cymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth Cymru. Mae'n cysylltu cwmniau a sefydliadau gydag arbenigedd academaidd yn y sector Addysg Uwch yng Nghymru i ymgymryd â phrosiectau ymchwil ar y cyd.
Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) - Mae’r Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) yn un o’r cynlluniau mwyaf hir sefydlog sydd ar gael i academyddion a chwmnïau sy’n dymuno cydweithio.
Rhaglen Cyd-ddealltwriaeth Strategol (SIP) - Mae'r SIP yn fenter Cymru gyfan sy'n cefnogi ac yn hwyluso lleoliadau tymor byr o staff prifysgol (academaidd ac anacademaidd) i sefydliadau allanol yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector ac i'r gwrthwyneb yma yn y DU ac yn rhyngwladol.
Elusennau a Sefydliadau
Cronfeydd Cymorth YBA
Mae’r Brifysgol yn gweinyddu ystod o gronfeydd er mwyn meithrin a chryfhau gwaith ymchwil y Brifysgol ac i gefnogi aelodau o staff sy’n dymuno mynychu cynadleddau ymchwil, ymgymryd ag ymweliadau ymchwil neu waith maes, neu astudio mewn canolfannau ar wahân i Aberystwyth.
Cronfa Gynadledda - Nod y gronfa hon yw darparu cyfraniad tuag at treuliau aelodau staff sy'n mynychu Cynadleddau Ymchwil, yn enwedig y rhai a fydd yn gwella proffil ymchwil yr unigolyn.
Cronfa Ymchwil y Brifysgol - Mae Cronfa Ymchwil y Brifysgol (CYB) yn darparu cefnogaeth ddethol ar gyfer gweithgarwch ymchwil achlysurol, ac ystyrir ei fod o bwysigrwydd strategol i broffil ymchwil gyffredinol y Brifysgol.
Dyfarniadau Syr David Hughes Parry - Nod y dyfarniadau yw annog astudiaethau sy'n cyfrannu at anghenion diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd Cymru.
Cronfa Gooding - Mae Cronfa Gooding yn gymynrodd i gefnogi aelodau o staff mewn adrannau gwyddoniaeth, ac yn achlysurol myfyrwyr ymchwil, sy’n mynychu cynadleddau academaidd.
Cronfa Cymynrodd R. D. Roberts - Mae Cronfa Cymynrodd R. D. Roberts yn galluogi aelodau o’r staff academaidd uwch i wneud cais am absenoldeb a chymorth ymchwil, am gyfnod o ddim llai na chwe mis, ar gyflog llawn, gyda chostau cyflenwi eu dyletswyddau yn cael eu talu o incwm y gronfa.
Absenoldeb Hybu Ymchwil - Er mwyn cynyddu gweithgaredd ymchwil yn PA ac annog rhagoriaeth ymchwil, cymeradwyodd Gweithrediaeth y Brifysgol gynllun newydd ar gyfer absenoldeb ymchwil ychwanegol.
Cyllid ar gyfer Effaith Ymchwil
Cyllid ar gyfer Effaith Ymchwil - Mae cyllid penodol wedi'i neilltuo i gefnogi gweithgareddau effaith ymchwil ac arloesi ac rydym yn cynnig cymorth ariannol uniongyrchol ar ffurf Ymchwil ac Arloesi.