Polisi Absenoldeb Ymchwil Prifysgol Aberystwyth

Mae Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol yn gyfnod o o leiaf un semester i ffwrdd o ddyletswyddau a neilltuwyd ar gyfer llwyth gwaith a ariennir gan Brifysgol Aberystwyth trwy gyflog.

Mae’r Ffurflen Gais a’r Ffurflen Adrodd ar gyfer Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol ar gael yma.

Mae'r polisi llawn ar gael i'w lawrlwytho yma.

Bydd yr egwyddorion a'r gweithdrefnau isod yn berthnasol:

 

Terminoleg

‘Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol’: cyfnod o semester[1] o leiaf i ffwrdd o’r dyletswyddau llwyth gwaith a ddyrannwyd, wedi’i ariannu gan Brifysgol Aberystwyth drwy gyflog. Bydd dyddiadau penodol y cyfnod o absenoldeb fel arfer yn cyd-fynd â dyddiadau’r semestrau yng nghalendr y Brifysgol, ond gall adran yr ymgeisydd argymell dyddiadau penodol er mwyn cyd-fynd â’r anghenion.

‘Absenoldeb Ymchwil Byr’: cyfnod rhwng 1 wythnos ac uchafswm o 4 bedair wythnos o hyd o fewn semester. Gall fod yn gyfnod nad yw’n cael ei ariannu, neu’n gyfnod sy’n cael ei ariannu’n allanol – er enghraifft, os yw 10% o amser ymchwilydd wedi’i bennu i brosiect ymchwil a ariennir yn allanol, gallant ddewis treulio’r cyfnod hwnnw fel bloc o amser.[2]

‘Absenoldeb Ymchwil a Ariennir yn Allanol’: cyfnod pan fydd aelod o staff yn canolbwyntio (yn llwyr, fwy na heb) ar ymchwil. Bydd yn gyfnod sy’n semester o hyd, o leiaf, fel arfer, a bydd cost darparu’r dyletswyddau dysgu (ac/neu weinyddol) yn ystod absenoldeb yr aelod o staff yn cael ei hariannu’n allanol.

'Absenoldeb Effaith Ymchwil': Mae hwn yn gynllun ar wahân sydd ar gael i staff er mwyn galluogi creu effaith a chyfnewid gwybodaeth. Ceir rhagor o fanylion yma.

'Absenoldeb Hybu Ymchwil': Cynllun cystadleuol, ar wahân, nad yw’n cael ei drafod yn y papur hwn. Mae’r manylion ar gael yma.

Dyletswyddau Llwyth Gwaith a Ddyrannwyd: Yn y ddogfen hon, mae’r dyletswyddau hyn yn cyfeirio at y dyletswyddau a nodwyd yn y Model Dyrannu Llwyth Gwaith (WAMM), ac eithrio ymchwil, arloesi, effaith a chyfnewid gwybodaeth.

[1] Gellir caniatáu cyfnodau o absenoldeb (byrrach nag un semester o hyd) o’r dyletswyddau llwyth gwaith a ddyrannwyd ar gyfer cyflawni gwaith ymchwil, ar sail ad hoc, yn ôl disgresiwn yr adran / cyfadran ond bydd hyn y tu hwnt i drefn Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol a ddisgrifir yn y polisi hwn.

[2] Gall adrannau hefyd ystyried absenoldeb ymchwil byr fel modd o gefnogi staff sydd ar gontractau Addysgu ac Ysgolheictod sy’n symud i gontractau Addysgu ac Ymchwil.

Egwyddorion

  • Rhaid i ymchwil fod yn weithgaredd parhaus, sy’n rhan annatod o fywyd academaidd Prifysgol Aberystwyth ac yn creu diwylliant addysgu a arweinir gan ymchwil. Ni ddylai ymgymryd â gwaith ymchwil o ansawdd uchel ddibynnu ar amser i ffwrdd o’r dyletswyddau llwyth gwaith a ddyrannwyd.[1]
  • Pwrpas Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol yw gwella ymchwil a chyfrannu at Strategaeth Ymchwil ac Arloesi y Brifysgol, gan gefnogi a sbarduno aelodau o’r staff academaidd i ddarparu allbynnau ymchwil a cheisiadau am grantiau ymchwil.
  • Mae Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol yn agwedd benodol ar gefnogaeth academaidd Prifysgol Aberystwyth i ymchwil. Nid hawl mohono, a dim ond ar sail cais sy’n dangos gwaith arfaethedig o ansawdd ac uchelgais rhagorol o ran ei wreiddioldeb, ei arwyddocâd a’i fanylder, neu waith sydd â phosibilrwydd gwirioneddol o ddenu grantiau sylweddol, y bydd absenoldeb ymchwil yn cael ei ganiatáu.
  • Dylai pob cais nodi manylion prosiect neu raglen waith sy’n uchelgeisiol ac yn gredadwy o safbwynt deallusol, ac sy’n gydnaws â’r amser y gwneir cais amdano.
  • Mae hwn yn gynllun ar gyfer y Brifysgol gyfan, ond mae’n cael ei reoli a’i weithredu ar lefel Cyfadrannau.
  • Gan na chyflenwir fel arfer ar gyfer staff fydd ar Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol, ceir effaith ar drefniadau dysgu a gweinyddu’r adrannau. Pennaeth yr Adran berthnasol (gan weithio gyda Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran) fydd yn gyfrifol am reoli’r trefniadau hyn i sicrhau bod pob aelod o staff yn gallu manteisio ar gynllun Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol. Diben hyn yw sicrhau cydraddoldeb ledled y Brifysgol. Yr ydym yn cydnabod, fodd bynnag, y gall y cynllun gael effaith sylweddol mewn rhai adrannau (fel arfer oherwydd bod yr adran yn un fechan), ac felly gall adran benderfynu bod y gost gyffredinol i ymchwil yn yr adran yn uwch os defnyddir ‘1 ym mhob 6’ fel trefn arferol, yn hytrach na chadw lefel y ddarpariaeth fel y mae ar hyn o bryd. Byddai angen i Ddirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran berthnasol yn ogystal â’r Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi) gymeradwyo hyn.
  • Gall Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol gael ei dreulio ym Mhrifysgol Aberystwyth, neu fe all olygu bod y cyfnod cyfan, neu rannau ohono, yn cael ei dreulio ymaith o Brifysgol Aberystwyth. (Sylwer: Os bydd rhywfaint o’r absenoldeb, neu’r cyfnod cyfan, yn cael ei dreulio ymaith o Aberystwyth, bydd disgwyl i staff ddilyn y canllawiau asesu risg sydd mewn grym ar y pryd.)
  • Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu ddwywaith y flwyddyn gan y Pwyllgor Ymchwil, a gwneir argymhellion i Weithrediaeth a Senedd y Brifysgol, fel y bo’n briodol.

[1] Fe ellid sicrhau cyfnodau eraill o amser ymchwil dwys drwy gyfrwng amserlennu adeiladol a rhannu’r gwaith dysgu’n hyblyg rhwng cyd-weithwyr.

Absenoldeb Ymchwil Byr

Yr ydym yn cydnabod y gall yna fod gyfleoedd i staff academaidd ar gontractau Addysgu ac Ymchwil dreulio cyfnodau byrion i ffwrdd o’r dyletswyddau llwyth gwaith a ddyrannwyd iddynt er mwyn canolbwyntio ar ymchwil yn unig. Gall hyn fod yn sgil ymrwymiadau ffracsiynol i grantiau ymchwil a ariennir yn allanol, yn sgil cyfleoedd o fewn y rhaglen ddysgu a’r rhaglen weinyddol, neu i fynd i’r afael ag angen penodol (e.e. galwad am geisiadau am grantiau ar fyr rybudd).

Dylai pob cais nodi manylion prosiect neu raglen waith sy’n uchelgeisiol ac yn gredadwy o safbwynt deallusol, ac sy’n gydnaws â’r amser y gwneir cais amdano.

Defnyddir proses ymgeisio ‘ysgafn’, ar wahân, ar gyfer cyfnodau absenoldeb ymchwil byr.  

Yr adrannau fydd yn asesu ceisiadau, a bydd pob adran yn rhoi adroddiad blynyddol i’r Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadrannol a’r Pwyllgor Ymchwil perthnasol.

Cymhwysedd

Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol: Byddwn yn gweithio tuag at lefel o ddarpariaeth lle mae gan unrhyw aelod o staff a gyflogir ar gontract Addysgu ac Ymchwil 0.2 CALl neu’n uwch yr hawl i wneud cais am un semester o Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol ym mhob chwe semester. Hynny yw, ar ôl pum semester o ddyletswyddau llwyth gwaith a ddyrannwyd, maent yn gymwys i wneud cais am gyfnod o Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol. Os bydd ymchwilydd yn cael cyfnod o absenoldeb ymchwil a ariennir yn allanol, absenoldeb effaith ymchwil neu absenoldeb hybu ymchwil yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd y cyfnod hwnnw’n cyfrif tuag at y pum semester; fodd bynnag, bydd pob semester a gasglwyd cyn y mathau eraill hyn o absenoldeb yn dal i gyfrif tuag at y cyfanswm cyffredinol.

Yr ydym yn cydnabod y bydd y drefn ‘1 ym mhob 6’ hon yn heriol, ond mae’n darged y dylai’r adrannau anelu a gweithio tuag ato, a ninnau’n brifysgol sy’n cael ei harwain gan ymchwil. Gall gymryd amser inni symud tuag at drefn o ‘1 ym mhob 6’, ac yn y cyfamser gellir defnyddio trefn ‘1 ym mhob 8’.

Mae’r ystyriaethau canlynol yn berthnasol wrth ystyried pwy sy’n gymwys i wneud cais am Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol:

  • Gellir cronni gwasanaeth di-dor drwy gontractau cyfnod penodol neu benagored cymwys, neu gyfuniad o’r ddau. Rhaid i staff a gyflogir ar gontract cyfnod penodol fod â chontract sy’n cwmpasu’r cyfnod absenoldeb ymchwil y gwneir cais amdano.
  • Mae Prifysgol Aberystwyth eisiau cefnogi datblygiad ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa, ac mae’n cydnabod y pwysau penodol sydd arnynt. Felly bydd ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa yn gymwys i wneud cais am eu semester cyntaf o Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol wedi pedwar semester o gyflawni’r dyletswyddau llwyth gwaith a ddyrannwyd.

Absenoldeb Ymchwil Byr: Mae unrhyw aelod o staff a gyflogir ar gontract Addysgu ac Ymchwil 0.2 CALl neu’n uwch yn gymwys i wneud cais am absenoldeb ymchwil byr. Bydd cyfnod o absenoldeb ymchwil byr yn cyfrif tuag at gronni semestrau cyn cyfnod o Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol – hynny yw, ‘fydd y cloc ddim yn stopio’. Bydd yr absenoldeb fel arfer yn rhan o’r dyraniad WAMM, ond dan amgylchiadau eithriadol gall fod yn ychwanegol ato, gan ddibynnu ar benderfyniad Pennaeth yr Adran (oni bai ei fod yn cael ei ariannu yn rhan o grant ymchwil).

Absenoldeb Ymchwil a Ariennir yn Allanol: Mae gan unrhyw aelod o staff a gyflogir ar gontract Addysgu ac Ymchwil 0.2 CALl neu’n uwch yr hawl i wneud cais am Absenoldeb Ymchwil a Ariennir yn Allanol o unrhyw hyd, yn amodol ar yr ystyriaethau canlynol:

  • Bydd yn rhaid i ymgeiswyr am Absenoldeb Ymchwil a Ariennir yn Allanol sicrhau cymeradwyaeth eu Pennaeth Adran neu lofnod enwebai’r Gyfadran ar ffurflen RG1 yn rhan o’r weithdrefn arferol ar gyfer ymgeisio am grantiau ym Mhrifysgol Aberystwyth.
  • Rhaid treulio semester o leiaf ar Absenoldeb Ymchwil a Ariennir yn Allanol.
  • Rhaid i Absenoldeb Ymchwil a Ariennir yn Allanol gwmpasu’r holl ddyletswyddau dysgu a gweinyddu, man lleiaf, ac yn ddelfrydol dylai dalu am gyfran sylweddol o amser yr aelod o staff. Dylid trafod hyn â Phennaeth yr Adran neu Ddirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran cyn dechrau gwneud cais am gyllid allanol. Rhaid cynllunio digon o amser ar gyfer recriwtio staff ychwanegol cyn i’r absenoldeb ymchwil ddechrau.

Amodau cyffredinol

  1. Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran berthnasol sy’n gyfrifol am ganiatáu Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol yn y pen draw.
  2. Mae caniatáu Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol yn amodol ar argyhoeddi Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran y gellir gwneud trefniadau digonol yn, neu ar gyfer, adran yr ymgeisydd er mwyn cwmpasu dyletswyddau yn ystod y cyfnod y bydd yr aelod o staff yn ei dreulio i ffwrdd o’r dyletswyddau llwyth gwaith a ddyrannwyd (dyletswyddau dysgu, arholi a gweinyddu fel arfer). Rhaid i’r trefniadau ar gyfer cwmpasu’r dyletswyddau dysgu hefyd gydymffurfio â’r canllawiau dysgu ac addysgu sydd mewn grym ar y pryd, a rhaid iddynt beidio â gostwng ansawdd profiad dysgu’r myfyrwyr, yn enwedig o ran darparu dysgu a chymorth i fyfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg.
  3. Bydd staff sydd ar Absenoldeb Ymchwil fel arfer yn parhau i oruchwylio eu myfyrwyr PhD oni bai fod trefniadau boddhaol yn bodoli o fewn yr adran ac yn cael eu cadarnhau â Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran.
  4. Disgwylir i’r aelodau hynny o staff a fydd yn cael cyfnod o Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol gynllunio ymhell ymlaen llaw. Dylai hyn gynnwys cynllunio ceisiadau am grantiau ymchwil i gynorthwyo â chostau ymchwil a theithio, gan nad yw Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol yn cefnogi nac yn cyfrannu at deithio na threuliau eraill.
  5. Ni ellir dal swydd gyflogedig arall yn ystod cyfnod yr Absenoldeb Ymchwil, ac eithrio gyda chaniatâd y Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi). Bydd rheolau arferol y Brifysgol yn berthnasol ar gyfer unrhyw waith ymgynghorol a wneir.
  6. Bydd amser a dreulir ar Absenoldeb Ymchwil a Ariennir yn Allanol yn cyfrif tuag at gronni gwasanaeth ar gyfer Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol h.y. yn rhan o’r cyfnod di-dor o wasanaeth dros wyth semester.
  7. Bydd amser a dreulir ar absenoldeb mamolaeth neu dadolaeth yn cyfrif tuag at gronni gwasanaeth ar gyfer Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol h.y. yn rhan o’r cyfnod di-dor o wasanaeth dros wyth semester.
  8. Bydd amser a dreulir ar Absenoldeb Effaith Ymchwil yn cyfrif tuag at gronni gwasanaeth ar gyfer Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol h.y. yn rhan o’r cyfnod di-dor o wasanaeth dros wyth semester.

Trefn ymgeisio

  1. Bydd Dirprwy Is-Gangellorion y Cyfadrannau (neu’r Deoniaid Cysylltiol - Ymchwil) yn gwahodd aelodau cymwys eu Cyfadrannau i wneud cais am Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol ar ddechrau pob blwyddyn academaidd.
  2. Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 21 Rhagfyr bob blwyddyn, er mwyn caniatáu digon o amser i ystyried y ceisiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.
  3. Fel arfer, dylai ymgeiswyr ar gyfer Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol gyflwyno eu ceisiadau i arweinydd ymchwil yr adran yn y lle cyntaf. Mae’r Ffurflen Gais a’r Ffurflen Adrodd ar gyfer Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol ar gael yma.
  4. Dylai ymgeiswyr nodi’r rheswm dros Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol, yr allbynnau disgwyliedig, a’r amserlenni ar gyfer mesur effeithiolrwydd yr amser a dreuliwyd ar ymchwil. Rhaid i ymgeiswyr drafod eu hachos â chydweithredwyr, arweinwyr ymchwil, Deoniaid Cysylltiol - Ymchwil, mentor a / neu gyd-weithwyr eraill bob amser, a’i drafod o fewn strategaethau ymchwil ehangach priodol.
  5. Gofynnir i arweinydd ymchwil yr adran, arweinydd dysgu ac addysgu’r adran, a’r Pennaeth Adran (os yw’r rhain yn unigolion ar wahân): gadarnhau bod yr ymgeisydd yn gymwys i wneud cais; rhoi sylwadau ar gryfder ac uchelgais y cais mewn perthynas â pherfformiad ymchwil yr unigolyn yn y gorffennol; cadarnhau bod y ddarpariaeth arfaethedig i gwmpasu’r absenoldeb ar gael ac yn ddigonol, e.e. cwmpasu’r dysgu o fewn y canllawiau dysgu ac addysgu sydd mewn grym ar y pryd.
  6. Dylai pob cais ar gyfer Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol o fewn i Gyfadran gael eu hanfon i’w hystyried gan Grŵp Cloriannu Absenoldeb Ymchwil a enwebwyd gan Ddirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran (awgrymir y dylai’r aelodaeth gynnwys: Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran, Deon Cysylltiol – Ymchwil, ac arweinwyr ymchwil adrannol, yn ogystal â Phennaeth yr Adran o bosibl).
  7. Bydd Grŵp Cloriannu Absenoldeb Ymchwil y Gyfadran yn ystyried y cais ar sail: sylwadau’r adran ar gryfder y cais a’r trefniadau ar gyfer cwmpasu dyletswyddau; perthnasedd y cais i strategaeth ymchwil y Brifysgol a blaenoriaethau ymchwil y Gyfadran; llwyddiant adroddiadau ynghylch cyfnodau blaenorol o Absenoldeb Ymchwil; a gyflwynwyd yr ymgeisydd ar gyfer y FfRhY blaenorol ai peidio.
  8. Bydd Grŵp Cloriannu Absenoldeb Ymchwil y Gyfadran yn rhoi gwybod i bob ymgeisydd a’r Pennaeth Adran perthnasol am ganlyniadau’r drefn cymeradwyo ceisiadau.
  9. Bydd pob cyfnod o Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol y gwnaethpwyd cais llwyddiannus amdano yn cael ei gofnodi ar gyfer yr aelod perthnasol o staff yn PoblAberPeople.

Y drefn adrodd ar ôl y cyfnod o absenoldeb ymchwil

  • Bydd Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran (neu’r sawl a enwebwyd o fewn y Gyfadran) yn atgoffa staff ar ddiwedd eu cyfnod o Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol i gyflwyno adroddiad ar eu gweithgaredd o fewn mis i ddiwedd cyfnod yr absenoldeb. Dylid gwneud hyn drwy ddiweddaru eu ffurflen gais, sy’n cynnwys lle i roi adroddiad ar sail y gweithgaredd a gynlluniwyd.
  • Dylai’r adroddiad gael ei ddychwelyd, fel arfer, at arweinydd ymchwil yr adran. Bydd Grŵp Cloriannu Absenoldeb Ymchwil y Gyfadran yn ei adolygu, a rhoddir adborth i’r aelod o staff. Dylid atodi’r adroddiad cwblhau Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol a’r adolygiad ohono i Gynllun Ymchwil Personol yr unigolyn.
  • Dylai Grŵp Cloriannu Absenoldeb Ymchwil y Gyfadran gwrdd fel arfer ddwywaith y flwyddyn (unwaith bob semester) er mwyn adolygu adroddiadau cwblhau Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol ynghylch cyfnodau o absenoldeb a gymerwyd yn ystod y semester blaenorol.
  • Yna, dylai Grŵp Cloriannu Absenoldeb Ymchwil y Gyfadran baratoi crynodeb o’r holl adroddiadau cwblhau Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol a’r adolygiadau ohonynt, ar gyfer cyfarfod cyntaf Gweithrediaeth y Pwyllgor Ymchwil yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
  • Dylai Gweithrediaeth y Pwyllgor Ymchwil gadarnhau eu bod yn cymeradwyo’r cloriannu a wnaed gan bob Cyfadran, gan gynnwys cadarnhau a yw pob unigolyn wedi sicrhau canlyniad boddhaol ar gyfer eu cyfnod o Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol ai peidio.
  • Os bernir nad yw unigolyn wedi sicrhau canlyniad boddhaol ar gyfer eu cyfnod o Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol, dylai’r Gyfadran berthnasol sicrhau bod yr unigolyn yn cael ei fentora er mwyn iddo/iddi fedru cyflawni’r canlyniadau a bennwyd, lle bo’r rheiny’n dal i fod yn berthnasol.
  • Os nad oes modd sicrhau canlyniad boddhaol wedi hynny hyd yn oed, gall hyn gyfrif yn erbyn unrhyw gais gan yr unigolyn am Absenoldeb Ymchwil yn y dyfodol (naill ai Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol neu Absenoldeb Ymchwil Allanol).

Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb

Bydd Adnoddau Dynol yn darparu asesiad blynyddol o’r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer cyfarfod cyntaf Gweithrediaeth y Pwyllgor Ymchwil yn nhrydydd tymor academaidd y flwyddyn (a chyn dechrau’r flwyddyn academaidd nesaf/y cyfnodau cyntaf o Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol a fydd yn cael eu cymryd) ar sail cymhwysedd yr ymgeiswyr a dosbarthiad Absenoldeb Ymchwil y Cyfadrannau. Gwneir hyn er mwyn asesu unrhyw wahaniaethu anfwriadol ar sail rhyw, cam gyrfa / swydd, ethnigrwydd, statws CALl, ac ati.