Cyllid ar gyfer Effaith Ymchwil

Rydym yn cydnabod bod angen cymorth ariannol ar staff o dro i dro er mwyn ymgymryd â gweithgareddau effaith ymchwil ar arloesi. Nod ein strategaeth ar gyfer effaith ymchwil yw darparu'r gefnogaeth hon. Mae cyllid penodol wedi'i neilltuo i gefnogi gweithgareddau effaith ymchwil ac arloesi ac rydym yn cynnig cymorth ariannol uniongyrchol ar ffurf y Gronfa Teithio Effaith Ymchwil ac Arloesi a'r Gronfa Hybu Effaith Ymchwil ac Arloesi. 

Cronfeydd y Brifysgol

Cronfa Teithio Effaith Ymchwil ac Arloesi

Bydd symiau bach ar gael ar fyr rybudd ar gyfer teithio, wedi eu llofnodi gan y Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi) neu eilydd dynodedig arall. Gellir gwneud cais am uchafswm o £600 ar gyfer teithiau o fewn y DU a £2000 ar gyfer teithiau rhyngwladol. 

Cronfa agored yw hon a gellir gwneud cais amdani ar unrhyw adeg o'r flwyddyn.

I wneud cais, defnyddiwch ffurflen gais teithio a hybu effaith ymchwil ac arloesi.

Cronfa Hybu Effaith Ymchwil ac Arloesi

Symiau mwy hyd at £10,000 (e.e. ar gyfer rhedeg gweithdai neu ddigwyddiadau eraill) a fydd yn destun cystadleuaeth flynyddol a reolir gan Grŵp Gorchwyl y Pwyllgor Ymchwil. Rhaid cyflwyno ceisiadau fis o flaen llaw y pwyllgor perthnasol (cynhelir cyfarfodydd ym mis Hydref, Rhagfyr, Ionawr, Mawrth, Ebrill a Mehefin).

I wneud cais, defnyddiwch ffurflen gais teithio a hybu effaith ymchwil ac arloesi

Cyllid Mynediad Agored ar gyfer Ymchwil Greiddiol

Bellach gellir gofyn am arian i gefnogi costau cyhoeddi Mynediad Agored, megis taliadau prosesu erthyglau, ar gyfer allbynnau ymchwil sy'n allweddol i danategu'r effaith a hawlir mewn astudiaeth achos effaith (unai'n gyfredol neu'n botensial). I wneud cais am y gronfa hon, defnyddiwch Effaith: ffurflen gais taliadau cyhoeddi Mynediad Agored.

Cronfeydd Allanol

Dylai gweithgareddau effaith ymchwil fod yn rhan o'ch prosiect ymchwil o'r cychwyn a dylent fod yn rhan annatod o unrhyw gais am grant.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu Ymchwil (rdostaff@aber.ac.uk neu +44 (0)1970 6228734) yn y lle cyntaf. Gall y Swyddogion Effaith Ymchwil hefyd ddarparu menbwn. 

Mae cyfleoedd hefyd i wneud cais am gyllid dilynol i gefnogi gwaith effaith ymchwil (er bod y cronfeydd hyn fel rheol yn targedu gweithgareddau sy'n ymdrin â'r cyhoedd). Rydym wedi rhestru rhai o'r cronfeydd isod.

Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC)

Arian Dilynol  

Mae Cynllun Arian Dilynol ar gyfer Effaith Ymchwil ac Ymgysylltu yr AHRC yn darparu arian ar gyfer ymrwymiadau arloesol a chreadigol sy'n ysgogi llwybrau at effaith ymchwil. Dyfernir cyllid ar gyfer gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth ac ymgysylltu â'r cyhoedd sy'n 'codi'n annisgwyl yn ystod oes neu yn dilyn prosiect a ariennir gan yr AHRC'.

Cynllun Meddylwyr Cenhedlaeth Newydd 

Cynllun ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar a myfyrwyr PhD sy'n rhoi'r cyfle i fynychu gweithdai AHRC a'r BBC gyda'r nod o ddatblygu sgiliau ar gyfer y cyfryngau a syniadau ar gyfer rhaglenni newydd. Mae'r hyfforddiant hwn wedyn yn arwain at gyfleoedd newydd yn y cyfryngau.

Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC)

Dim ffynhonellau ychwanegol ond gweler Public Engagement Training Handbook y BBSRC.

Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC)

Holmes Hines Memorial Fund Mae Cronfa Goffa Holmes Hines yn gymynrodd elusennol gyda'r nod o ddarparu arian i gefnogi datblygiad gwyddoniaeth.

Gwyliau  Mae EPSRC yn cefnogi nifer o wyliau gwyddoniaeth i ymgysylltu â'r cyhoedd - nid ydynt yn cymryd ceisiadau i gymryd rhan yn y gwyliau gan academyddion. Mae'r gwyliau y maent yn eu cefnogi yn cynnwys y Cheltenham Science Festival, Edinburgh International Science Festival a’r Big Bang Fair

Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC)

Cynllun Cymrodoriaeth Cyfnewid Gwybodaeth

Mae'r cynllun yma yn rhoi'r cyfle i staff academaidd gael eu trosglwyddo i Swyddfa Dramor y DU i weithio ochr yn ochr a llunwyr polisi.  

Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC)

Funding for public engagement  Mae NERC yn cefnogi rhaglen ymgysylltu â'r cyhoedd strategol.

Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC)

Gweler hefyd https://stfc.ukri.org/public-engagement/public-engagement-grants/pe-funding-opportunities/ 

Leadership Fellows in Public Engagement  Mae Cymrodyr Arweinyddiaeth STFC mewn Ymgysylltu â'r Cyhoedd yn ymgymryd â rhaglenni ymgysylltu ac allgymorth o ansawdd uchel tra ar yr un pryd yn gweithredu fel hyrwyddwyr ar gyfer gwerth ac ymarfer ymgysylltu ag ymchwil yn eu sefydliad a'u cymuned ymchwil.

Public Engagement Spark Awards  Cyllid ar gyfer rhaglenni o ansawdd uchel o ymgysylltu cyhoeddus newydd sy'n ysbrydoli ac yn cynnwys cynulleidfaoedd.

Public Engagement Legacy Awards  Mae Gwobrau hyn yn caniatáu i ddeiliaid dyfarniadau ymgysylltu cyhoeddus blaenorol y STFC wneud cais am gyllid i barhau â'u rhaglenni, ac esblygu'r rhaglenni hynny sy'n seiliedig ar ddysgu a gwerthuso.

Public Engagement Reaction Awards Ariannu rhaglenni ymgysylltu â'r cyhoedd sy'n ymateb cyflym i ddatblygiadau arwyddocaol newydd a / neu annisgwyl.