Dy Ddosbarthiadau Meddwl a'r Corff

Mae 'na drosolwg byr o bob dosbarth Meddwl a’r Corff wedi' eu restru yn nhrefn yr wyddor islaw. Am bob dosbarth, fe gei di wybodaeth am y math o weithgaredd, ei hyd arferol a'i leoliad. Mae'r wybodaeth wedi ei gynllunio i ddarparu cyfeirnod cyflym i dy helpu i ddeall beth yw pob dosbarth a'r dewis o weithgareddau sy'n addas i dy ddiddordebau a'th anghenion.

SYMUDEDD A SYMUDIAD

  • MATH: Meddwl a'r Corff
  • HYD: 45 munud
  • LLEOLIAD: Stiwdio 1
  • TROSOLWG BYR: Wedi'i gynllunio i gefnogi symudiad bob dydd ac atal cwympiadau, mae Symudedd a Symudiad yn defnyddio ymarferion ysgafn i wella hyblygrwydd, cydbwysedd, cydsymud a symudedd y cymalau. Yn ddelfrydol ar gyfer oedolion hŷn neu unrhyw un sydd eisiau symud yn fwy cyfforddus, gall y dosbarth croesawgar hwn eich helpu i gadw'n heini, cynnal annibyniaeth a theimlo'n fwy hyderus yn eich gweithgareddau bob dydd.

ARCHEBU NAWR

PILATES

  • MATH: Meddwl a'r Corff 
  • HYD: 45-60 Munud
  • LLEOLIAD: Stiwdio 1
  • TROSOLWG BYR: Mae hwn yn ddosbarth cymysg lle byddi di'n dysgu cyfres o ymarferion sy'n cyfuno cryfder, ymestyn a symudedd ar gyfer cyhyrau hir heb lawer o fraster. Mae hwn yn ymarfer i’r corff cyfan sy’n canolbwyntio ar osgo a'r abdomenau. Mae'n sesiwn i’r corff cyfan sy'n adeiladu cryfder craidd, symudedd, a chyhyrau hir heb lawer o fraster. Mae ymarferion â ffocws yn gwella osgo, aliniad a rheolaeth. Addas ar gyfer pob lefel.

ARCHEBU LLE

YMESTYN A LLIF

  • MATH: Meddwl a'r Corff 
  • HYD: 60 Munud
  • LLEOLIAD:  Stiwdio 1
  • TROSOLWG BYR: Dyma ddosbarth symudedd sydd wedi ei gynllunio i wella hyblygrwydd, ystod gweithredol o symudiad ac iechyd cymalau. Mae'r dosbarth yn gymysgedd o ymestyn, gwaith cryfder penodol ar y cymalau a llif symudiad a fydd yn dy herio, ac yn gwneud i ti deimlo wedi ymlacio ac wedi dy adnewyddu. P'un a wyt yn newydd i ymarfer corff neu'n mynychu’r gampfa’n rheolaidd, bydd y dosbarth hwn yn edy helpu i gadw’ch cymalau’n rhydd ac osgoi anafiadau er mwyn i ti allu parhau i hyfforddi'n galed a chyflawni dy nodau ffitrwydd.

ARCHEBU LLE

IOGA

  • MATH: Meddwl a'r Corff
  • HYD: 45-60 Munud
  • LLEOLIAD: Stiwdio 1 | Swit Stapledon (Gogerddan)
  • TROSOLWG BYR: Mae Ioga yn ddosbarth ysgafn ond effeithiol sy'n canolbwyntio ar wella hyblygrwydd, cryfder, cydbwysedd a lles cyffredinol trwy gyfres o symudiadau dan reolaeth, ystumiadau a ymarferion anadlu. Mae'r dosbarth yn dy annog i gysylltu'r meddwl a'r corff, gan helpu i leihau straen, gwella swyddogaeth a hybu symudedd. Yn addas i bob lefel o ran profiad.

ARCHEBU LLE