Dy Ddosbarthiadau Cryfder a Cardio
Mae 'na drosolwg byr o bob dosbarth Cryfder a Cardio wedi' eu restru yn nhrefn yr wyddor islaw. Am bob dosbarth, fe gei di wybodaeth am y math o weithgaredd, ei hyd arferol a'i leoliad. Mae'r wybodaeth wedi ei gynllunio i ddarparu cyfeirnod cyflym i dy helpu i ddeall beth yw pob dosbarth a'r dewis o weithgareddau sy'n addas i dy ddiddordebau a'th anghenion.
YMARFER Y CORFF
- MATH: Cryfder a Cardio
- HYD: 60 Munud
- LLEOLIAD: Stiwdio 1
- TROSOLWG BYR: Mae hwn yn ddosbarth ffitrwydd deinamig, swyddogaethol gwych, yn seiliedig ar y fformiwla Muscle Max (Body Pump, Body Max ac ati) lle cei di dy dywys drwy ymarfer corff strwythuredig gyda phwysau rhydd a dymbelau. Fe'i cynlluniwyd i orlwytho pob un o dy gyhyrau yn eu tro i ffyrfhau’r corff. Mae hwn yn ddosbarth cymysg i ddynion a menywod. Cyfrifir pob set mewn munudau gan ailadrodd pob symudiad gymaint o weithiau â phosibl ym mhob adran i gael ymarfer corff caled a chyflawn.
HYFFORDDI CYLCHOL
- MATH: Cryfder a Cardio
- HYD: 60 Munud
- LLEOLIAD: Y Neuadd
- TROSOLWG BYR: Dosbarth ffrwydrol a fydd yn profi dy lefelau ffitrwydd. Cyfuniad o ymarferion ar gyfer rhannau uchaf ac isaf y corff wedi'u cymysgu â gorsafoedd aerobig ac anaerobig ar gyfer ymarfer y corff i gyd. Gorsafoedd egni uchel sy'n cymysgu rhannau uchaf ac isaf y corff, a ffrwydradau cardio. Her i’r corff cyfan sy'n adeiladu cryfder, stamina, a dycnwch ar gyfer ymarfer corff cyffredinol.
HITT
- MATH: Cryfder a Cardio
- HYD: 45 Munud
- LLEOLIAD: Stiwdio 1 | Neuadd William Davies (Gogerddan)
- TROSOLWG BYR: Mae’r hyfforddiant yn fath o hyfforddiant ysbeidiol, strategaeth ymarfer corff sy'n newid rhwng cyfnodau byr o ymarfer corff anaerobig dwys (20 eiliad) a chyfnodau o adferiad llai dwys (10 eiliad). Mae HIIT yn fath o ymarfer corff cardiofasgwlaidd. Rowndiau byr, cyflym, dwysedd uchel wedi'u cynllunio i gael y canlyniadau gorau mewn ychydig o amser. Cardio, pŵer, a chwys.
HYROX
- MATH: Cryfder a Cardio
- HYD: 60 Munud
- LLEOLIAD: Y Gromen
- TROSOLWG BYR: Mae HYROX yn dosbarth ffitrwydd llawn egni sydd wedi ei ysbrydoli gan y fformat ras HYROX adnabyddus sy’n fyd-eang, ac mae’n cyfuno ymarferion cryfder gweithredol efo hyfforddiant cardiofasgwlaidd i ddarparu ymarfer corff cyfan sy’n heriol ac yn werthfawr. Galle di ddisgwyl cymysgedd o redeg, gwthio a thynnu sled, a symudiadau gweithredol eraill wedi eu cynllunio i adeiladu cryfder, dygnwch a ffitrwydd cyffredinol. Yn addas ar gyfer amrywiaeth o alluoedd, gellir addasu'r dosbarth i lefelau ffitrwydd unigol, sy’n ddelfrydol i ddechreuwyr ac i gystadleuwyr profiadol sy'n paratoi ar gyfer cystadleuaeth HYROX. Rydym hefyd yn Glwb Hyfforddi Hyrox achrededig.
AWR BWER
- MATH: Cryfder a Cardio
- HYD: 60 Munud
- LLEOLIAD: Y Neuadd
- TROSOLWG BYR: Mae’r Awr Bwer yn ddosbarth sy’n ymarfer yr holl gorff ac sy’n hwyl a heriol sy'n cyfuno cyfres o AMRAPiau (Cymaint o Rowndiau/Adreddiadau  phosib) efo cylched ar ddiwedd y sesiwb. Mae'r adrannau AMRAP yn caniatáu i ti weithio ar gyflymder dy hunain tra'n adeiladu cryfder, ffitrwydd a dygnwch cyhyrol, cyn gorffen efo cylched egniol wedi ei gynllunio i godi curiad calon. Addas ar gyfer ystod o lefelau ffitrwydd.
NADDU
- MATH: Cryfder a Chardio
- HYD: 45-60 munud
- LLEOLIAD: Stiwdio 1
- TROSOLWG BYR: Ffyrfhau - Mae Pilates x Cryfder yn ymarfer i’r corff cyfan sy'n cyfuno symudiadau wedi'u hysbrydoli gan Pilates gyda ffyrfhau wedi'i dargedu, hyfforddiant cryfder a chardio. Trwy gyfuniad o ymarferion rheoledig a dilyniannau deinamig, mae'r dosbarth wedi'i gynllunio i herio dy gyhyrau, adeiladu dygnwch a pheri i ti deimlo'n egnïol. Mae'r ffocws ar ddatblygu cryfder main, gwella sefydlogrwydd a chydbwysedd, a sicrhau’r teimlad boddhaol hwnnw bod dy gyhyrau ar dân. Mae'n ymarfer corff effaith isel ond effeithiol sy'n dod â Pilates, cryfder a chardio at ei gilydd ar gyfer sesiwn gref, egnïol.
CYFLYMDER
- MATH: Cryfder a Cardio
- HYD: 60 Munud
- LLEOLIAD: Neuadd Chwaraeon
- TROSOLWG BYR: Mae Cyflymder yn ddosbarth ffitrwydd swyddogaethol penodol, dwysedd uchel. Mae'r ymarfer hwn fel arfer yn cyfuno symudiadau byr, cyflym wedi’u cynllunio’n fwriadol i wthio pŵer, hyfforddiant cryfder a chyflyru metabolig dros sesiwn 45 i 60 munud, gyda chyfle digonol i ystwytho’r corff cyn ac ar ôl ymarfer corff.
