Astudiaethau Gwybodaeth

Beth fydda i’n ennill o’m pwnc?

Yn ogystal â’ch sgiliau sy’n seiliedig ar ymarfer, a’r wybodaeth y byddwch yn ei dysgu, bydd eich gradd yn darparu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Mae’r sgiliau trosglwyddadwy yn cynnwys datrys problemau, hunan-reoli, cyfathrebu a gwaith tîm. Mae eich sgiliau trosglwyddadwy a’r lefel o gyrhaeddiad deallusol a enilloch drwy astudio eich pwnc yn golygu y bydd gennych lawer o wahanol ddewisiadau gyrfa pan fyddwch yn graddio. Mae canran uchel o’r holl swyddi gwag lefel gradd yn agored i raddedigion unrhyw ddisgyblaeth.

Beth alla i ei wneud gyda’m pwnc?

Mae eich gradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o lwybrau gyrfaol. Ceir swyddi sy’n ymwneud yn uniongyrchol â phynciau gradd, swyddi lle gall pynciau penodol fod yn ddefnyddiol a hefyd ystod gyflawn o swyddi sy’n agored i raddedigion mewn unrhyw ddisgyblaeth.

 

Pa gymorth sydd ar gael?

Mae gennych Ymgynghorydd Gyrfaoedd penodedig sy’n gweithio’n agos â’ch adran i ddarparu cymorth, cyngor a gwybodaeth. Cynhelir gweithdai a digwyddiadau gyrfaoedd yn eich adran i hyrwyddo cyfleoedd profiad gwaith, eich helpu i gynllunio’ch gyrfa, ac sydd hefyd yn gyfle i rwydweithio gyda phobl broffesiynol sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol. Cyflwynir rhaglen addysg gyrfaoedd yn ganolog hefyd, a gall uwchraddedigion fanteisio ar y rhaglen Hyfforddi Sgiliau Uwchraddedig. Mae croeso i chi alw heibio’r Gwasanaeth Gyrfaoedd  i gael cymorth neu wybodaeth bellach.

Ble ydw i’n dechrau chwilio am brofiad gwaith a swyddi i raddedigion? – Adnoddau defnyddiol

Mae’r dolenni isod yn fan cychwyn i chi pan fyddwch yn chwilio am gyfleoedd sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch pwnc; mae mwy o adnoddau cyffredinol ar gael yn ein hadran profiad gwaith. Cofiwch fod cymorth ar gael oddi wrth y Gwasanaeth Gyrfaoedd pan fyddwch yn gwneud cais am swyddi a phrofiad gwaith.

DU

Tramor

Cymdeithasau a chyrff proffesiynol

Mae'r cyrff hyn yn hyrwyddo diddordebau pobl sy'n gweithio mewn galwedigaethau penodol. Mae gan rai ohonynt restrau o gyflogwyr sy'n aelodau o'r gymdeithas ac a allai hysbysebu swyddi tra bod eraill yn ffynonellau defnyddiol o wybodaeth wrth ymchwilio i gyflogwyr ar gyfer gwneud ceisiadau neu ystyried ceisiadau ar hap.

Beth mae graddedigion Aber yn ei wneud?

Dyma rai enghreifftiau o swyddi a gafwyd gan ein Graddedigion:

  • Archifydd
  • Catalogydd
  • Cynorthwy-ydd Adnoddau
  • Dadansoddwr Cofnodion
  • Darlithydd
  • Golygydd Intranet
  • Gweinyddwr Cynnal Logisteg
  • Is-Reolwr Cofnodion
  • Llyfrgellydd
  • Llyfrgellydd Cangen
  • Llyfrgellydd Cefnogi Systemau Digidol
  • Llyfrgellydd Datblygu'r Gymuned
  • Llyfrgellydd Derbyniadau
  • Llyfrgellydd E-Adnoddau a Chyfathrebu
  • Llyfrgellydd Metadata
  • Llyfrgellydd Plant
  • Llyfrgellydd Pwnc
  • Llyfrgellydd Ysgol
  • Pennaeth Adran TG
  • Rheolwr Canolfan Adnoddau Dysgu
  • Rheolwr Canolfan Gwybodaeth
  • Rheolwr Cofnodion
  • Rheolwr Gwasanaethau Ymwelwyr
  • Rheolwr Gwybodaeth
  • Rheolwr Llyfrgell dros dro
  • Swyddog Cyfrifon dan Hyfforddiant
  • Swyddog Datblygu
  • Swyddog Gweinyddol
  • Swyddog Mynediad i Gasgliadau
  • Swyddog Rheoli Gwybodaeth
  • Ymchwilydd

Enghreifftiau o'r cyflogwyr yr aeth graddedigion ac uwchraddedigion astudiaethau gwybodaeth Aberystwyth i weithio iddynt:

  • Adran Cofnodion Prydain
  • Amgueddfa Brydeinig
  • Amryw Awdurdodau Lleol
  • Amryw Brifysgolion
  • Amryw Lyfrgelloedd
  • Amryw Sefydliadau Addysg Uwch
  • Amryw Ysgolion
  • Archifau Swydd Caer a Chaer
  • Banc Canolog Malta
  • BBC
  • Blackwell's
  • Cafcass
  • Cyllid a Thollau EM
  • Gweinyddiaeth Amddiffyn
  • IBM
  • International Baccalaureate Organization
  • Linklaters
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Museums Galleries Scotland
  • Swyddfa Cofnodion Dyfnaint
  • Swyddog Cynorthwyo Cadwrfa
  • Tŷ Opera Brenhinol
  • Ymddiriedolaeth Genedlaethol