Seicoleg

Beth fydda i'n ennill o'm pwnc?

Mae myfyrwyr Seicoleg yn amryddawn ac yn tueddu i fod yn chwilfrydig, yn ddadansoddol ac yn hapus wrth ymdrin â materion 'darlun mawr' yn ogystal â manylion. Trwy astudio seicoleg rydych yn meithrin ystod eang o sgiliau sy'n rhychwantu’r gwyddorau a’r celfyddydau, ac sy’n cynnig cyfleoedd gydag amrywiaeth eang o gyflogwyr.

 Dyma rai sgiliau byddwch yn ennill yn ystod eich cwrs y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi:

  • Sgiliau Cyfathrebu (ysgrifenedig a llafar)
  • Sgiliau ymchwil
  • Sgiliau dadansoddi, casglu data a datrys problemau
  • Ymwybyddiaeth foesegol
  • Gwaith tîm ac ymwybyddiaeth o brosesau grŵp
  • Arweinyddiaeth
  • Llunio adroddiadau
  • Dehongli a gwerthuso digwyddiadau, gwybodaeth a syniadau
  • Rheoli amser a sgiliau trefnu
  • Bod â meddwl agored

 

Beth alla i ei wneud gya'm pwnc?

Mae graddedigion Seicoleg yn rhagori mewn swyddi lle y mae’n rhaid iddynt ymdrin ag ystod o faterion cymhleth a datblygu dealltwriaeth drylwyr am feysydd a allai fod yn newydd iddynt mewn cyfnod cymharol fyr. Dyma rai o’r meysydd posibl:

  • Hysbysebu/marchnata
  • Bancio ac yswiriant
  • Rheoli Busnes
  • Gwaith Elusennol
  • Addysg
  • Meysydd sy'n ymwneud ag iechyd
  • Llywodraeth leol a chenedlaethol
  • Ymchwil y farchnad
  • Y Cyfryngau
  • Gweinyddu (e.e. Cynorthwyydd Personol)
  • Gwleidyddiaeth
  • Adwerthu a gwerthu

Opsiynau Swydd (proffesiynau siartredig - sy'n gofyn am astudiaeth ôl-radd):

Opsiynau Swydd (sy'n berthnasol i'ch gradd):

Mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr yn derbyn ceisiadau gan raddedigion unrhyw bwnc gradd, felly peidiwch â chyfyngu eich hun i’r swyddi a restrir yma. Ystyriwch eich cryfderau ac edrychwch ar y proffiliau swydd i weld a yw’r swyddi hyn yn addas ar eich cyfer a sut y gallech ddatblygu'r sgiliau a/neu’r wybodaeth angenrheidiol.

Profiad Gwaith

Mae'n syniad da adeiladu eich profiad gwaith cyn gynted ag y gallwch. Gall gweithio ar sail wirfoddol yn gyntaf eich helpu i gael profiad, ond mae hefyd yn werth gwneud cais am interniaethau, lleoliadau gwaith dros yr haf, a gwaith yn cysgodi rhywun tra’ch bod yn y brifysgol. Os oes gennych ddiddordeb mewn swyddi Siartredig, yna mae'n bwysig cael profiad gwaith perthnasol. Ceir isod adnoddau defnyddiol ar gyfer dod o hyd i brofiad gwaith sy'n ymwneud â seicoleg.

Astudiaethau pellach

Mae hyfforddiant ac astudiaethau ôl-radd yn ofyniad i fod yn seicolegydd siartredig. Oherwydd gofynion mynediad y cwrs, mae llawer o raddedigion seicoleg yn treulio blwyddyn neu fwy yn cael profiad gwaith cyn cychwyn ar eu hastudiaethau ôl-radd. Gall graddedigion seicoleg hefyd ddewis ymgymryd â chymhwyster ôl-radd mewn meysydd gyrfaol eraill, e.e. addysgu, hysbysebu, marchnata neu Adnoddau Dynol. I gael rhagor o wybodaeth am astudiaethau pellach ac i ddod o hyd i gwrs sydd o ddiddordeb i chi, gweler graddau Meistr a chwilio am gyrsiau ôl-raddedig.

Adnoddau Defnyddiol

Cymdeithasau a chyrff proffesiynol

Mae’r cyrff hyn yn hyrwyddo buddiannau pobl sy’n gweithio mewn proffesiynau penodol. Mae rhai yn cynnwys rhestrau o gyflogwyr sy’n aelod o’r gymdeithas dan sylw, ac mae’n bosib y byddant yn hysbysebu swyddi. Gall eraill fod yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol wrth ymchwilio i gyflogwyr ar gyfer ceisiadau neu os ydych yn ystyried cyflwyno cais ar hap.

Beth mae graddedigion Aber yn ei wneud?

Mae dwy ran o dair o raddedigion seicoleg Aber mewn swyddi neu’n ymgymryd ag astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, sy’n uwch na’r cyfartaledd ar gyfer y DU. Maent yn mynd ymlaen i gael amrywiaeth eang o yrfaoedd mewn meysydd amrywiol. Cymerwch olwg isod ar yr hyn y mae graddedigion ac ôl-raddedigion seicoleg Aberystwyth yn mynd ymlaen i’w wneud.

  • Cydlynydd Gweithgareddau
  • Cynorthwyydd Dysgu Anghenion Arbennig
  • Cynorthwyydd Marchnata
  • Cynorthwyydd Ymchwil
  • Dadansoddwr Cyswllt (Mewnfudiad)
  • Gweinyddwr
  • Gweithiwr Addysg Breswyl
  • Gweithiwr Cymorth
  • Gweithiwr Cymorth Myfyrwyr
  • Gweithiwr Gofal Therapiwtig
  • Gweithredwr Datblygu Cyfrif Busnes
  • Gweithredwr Gwasanaeth Cwsmeriaid
  • Hyfforddai Masnachol
  • Myfyriwr Graddedig dan Hyfforddiant
  • Oedolyn Priodol
  • Partner Trosglwyddo Gwybodaeth
  • Rheolwr Cleientiaid
  • Rheolwr Cynadleddau Graddedig
  • Seicolegydd Chwaraeon (Lleoliad Lefel 1)
  • Seicolegydd Clinigol Cynorthwyol
  • Seicolegydd Cynorthwyol
  • Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol
  • Swyddog Datblygu
  • Tiwtor Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol (ABA) dan Hyfforddiant
  • Ymchwilydd
  • Ymgynghorydd Gwasanaeth Cwsmeriaid

 

Enghreifftiau o'r cyflogwyr yr aeth graddedigion ac uwchraddedigion seicoleg Aberystwyth i weithio iddynt:

  • Age Cymru
  • Alliance Boots
  • Amryw Ysgolion, Colegau a Phrifysgolion
  • Baschruch Care
  • Canolfan IMAP
  • Care UK
  • Cartrefi Cymru
  • Chester Therapy Centre
  • Debenhams
  • Gwasanaeth Iechyd Gwladol
  • Heddlu West Mercia
  • Next
  • Premier Healthcare Solutions
  • Sainsburys
  • Swyddfa Gartref
  • Young Epilepsy