Cymorth Menopos

Mae stigma o gwmpas y menopos ers tro byd, sy’n arwain at gywilydd ac embaras ac sy’n golygu bod llawer o bobl yn dioddef yn dawel. Yn ffodus, ceir symudiad bellach at “newid” er gwell, a ddechreuwyd yn benodol gyda rhaglenni dogfen diweddar Davina McCall ar Sianel 4 yn amlygu’r problemau mae menywod yn eu hwynebu a dod â’r menopos i’r parth cyhoeddus yn llawn. 

Grŵp Cymorth

Rydym ni wedi sefydlu grŵp cymorth peri-/ôl-/fenopos PA i’r holl staff a myfyrwyr; bydd hwn yn gyfle i rannu profiadau a chynnig amgylchedd diogel a chefnogol.

Cyfarfodydd sydd i ddod:

  • Dydd Mercher 26 Mehefin
  • Dydd Mercher 24 Gorffennaf
  • Dydd Mercher 21 Awst
  • Dydd Mercher 18 Medi
  • Dydd Mercher 23 Hydref 
  • Dydd Mercher 20 Tachwedd
  • Dydd Mercher 18 Rhagfyr

Bydd yr holl sesiynau mewn Cledwyn 0.25 am 3-4yp ac ar MS Teams. Bydd dolenni yn cael eu postio ar Grŵp Cymorth Fenopos ar Microsoft Teams

Cysylltu

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu sylwadau, cysylltwch â ni’n ddi-oed.