CYF: 66-2402-1124426 - Melinau Traed Desg

Dy sylw: As a final year student this couldn't be implemented in time to help me, but treadmill desks in the sport centre would be incredible for student health; I'm missing out on the exercise I normally do and gaining weight because I have to spend all my time sat down working on my dissertation, but having a treadmill desk available would help a lot with that.

Ein hymateb:

Diolch am yr e-bost ac rwy'n gwerthfawrogi bod addasiadau yn cael eu gwneud i offer campfa yn y cartref, yn anffodus nid wyf yn gweld hyn fel cyfeiriad y byddem yn ei gefnogi o ran iechyd a diogelwch. Mae manteision y gellir eu defnyddio o fewn yr apiau a osodir ar y consolau melinau traed ar gyfer gwaith darllen ond nid ar gyfer ysgrifennu. Rwy'n credu gydag ychydig o gynllunio, y gallai'r gwaith a'r ymarfer corff gefnogi ei gilydd ar wahân yn hytrach na cheisio cyflawni'r ddau ar yr un pryd. Bydd amser i ffwrdd o astudio i ymarfer corff yn eich helpu i ymlacio'n feddyliol ynghyd â rhoi hwb o ran egni, hwyliau a chymhelliant i chi. Mae lefelau ocsigen isel yn lleihau ein gallu i ganolbwyntio, mae gweithgarwch corfforol yn cynyddu llif ocsigen i'ch ymennydd a gwella lefelau canolbwyntio pan fyddwch chi'n dychwelyd i astudio.