Cadw’n ddiogel rhag sgamiau a thwyll
Gall myfyrwyr gael eu targedu gan sgamwyr (troseddwyr sy’n ceisio dwyn eich arian a’ch gwybodaeth bersonol), felly mae’n bwysig gwybod sut i adnabod sgamiau posibl, sut i’ch diogelu eich hun rhagddynt, a sut i roi gwybod amdanynt. Mae’r dudalen hon yn disgrifio rhai o’r sgamiau mwyaf cyffredin sy’n effeithio ar fyfyrwyr ac yn rhoi arweiniad ynghylch sut i gadw’n ddiogel.
Sgamiau cyffredin sy’n effeithio ar fyfyrwyr
Bydd sgamwyr yn aml yn esgus bod yn sefydliadau neu’n unigolion y gellir ymddiried ynddynt, a hynny er mwyn ennill eich ymddiriedaeth a chael gafael ar eich arian neu’ch gwybodaeth bersonol. Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, mae’n bosibl y byddwch yn cael eich targedu’n benodol gan sgamiau sy’n ymwneud â phroblemau fisa, statws mewnfudo, llety, neu ffïoedd dysgu.
Byddwch yn arbennig o ofalus os byddwch yn cael galwadau ffôn, negeseuon ebost neu negeseuon testun annisgwyl neu’n cael negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol gan bobl sy’n honni eu bod yn cynrychioli’r canlynol:
Banciau
Mae’n bosibl y bydd sgamwyr yn honni bod yna broblem gyda’ch cyfrif ac y byddant yn gofyn am eich rhif adnabod personol, eich cyfrinair, codau diogelwch neu wybodaeth bersonol. Mae’n bosibl hefyd y byddant yn dweud wrthych am drosglwyddo eich arian i “gyfrif diogel”.
Cofiwch: Ni fydd eich banc byth yn gofyn i chi rannu eich rhif adnabod personol, eich cyfrinair neu’ch gwybodaeth ddiogelwch, ac ni fydd byth yn gofyn i chi symud eich arian i gyfrif arall am resymau diogelwch.
Adrannau’r llywodraeth
Mae’n bosibl y bydd sgamwyr yn esgus eu bod yn perthyn i wasanaethau mewnfudo, Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, Y Swyddfa Gartref, neu hyd yn oed yr heddlu. Mae’n bosibl y byddant yn bygwth eich arestio, eich allgludo, eich dirwyo neu gymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn oni bai eich bod yn gwneud taliad yn syth neu’ch bod yn darparu eich manylion personol.
Cofiwch: Ni fydd sefydliadau cyfreithlon yn rhoi pwysau arnoch i wneud taliadau’n syth dros y ffôn, a byddant fel rheol yn cysylltu â chi drwy’r post.
Y Brifysgol neu ddarparwyr llety
Gwyliwch rhag negeseuon sy’n gofyn am ffïoedd dysgu brys, manylion banc, cyfrineiriau, neu wybodaeth bersonol. Mae’n bosibl hefyd y bydd sgamwyr yn hysbysebu llety ffug neu’n gofyn am flaendaliadau cyn i chi weld yr eiddo.
Cofiwch: Os ydych yn teimlo bod rhywbeth o’i le, cysylltwch yn uniongyrchol â Phrifysgol Aberystwyth neu’r darparwr llety gan ddefnyddio manylion cyswllt swyddogol i gadarnhau bod y cais yn ddilys.
Swyddi a gynigir
Gwyliwch rhag cyfleoedd i gael swyddi sy’n addo llawer o arian am ychydig o waith, yn enwedig os byddant yn gofyn i chi dalu ymlaen llaw am hyfforddiant, offer, neu archwiliadau cefndir.
Cofiwch: Os cewch gynnig sy’n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae’n fwy na thebyg mai dyna ydyw.
Recriwtio mulod arian
Un o’r sgamiau mwyaf difrifol sy’n effeithio ar fyfyrwyr yw cael eu recriwtio i fod yn fulod arian. Mulod arian yw pobl sy’n caniatáu i arian o ffynonellau anhysbys neu amheus gael ei dalu i’w cyfrif banc a’i drosglwyddo i rywle arall wedyn, a hynny’n aml yn gyfnewid am dâl neu gomisiwn.
Er ei fod yn ymddangos yn ffordd rwydd o wneud arian, mae’n ddull o wyngalchu arian, sy’n drosedd. Gallai gwneud hynny olygu bod eich cyfrif banc yn cael ei gau, bod eich hanes o ran credyd yn cael ei niweidio, ac y bydd yn anodd i chi gael gwasanaethau ariannol yn y dyfodol, a gallai arwain hefyd at ganlyniadau cyfreithiol difrifol.
Peidiwch byth â chaniatáu i bobl eraill ddefnyddio eich cyfrif banc a pheidiwch byth â throsglwyddo arian ar eu rhan oni bai eich bod yn gwybod o ble’n union y mae’r arian wedi dod a pham y mae’n cael ei symud.
- Byddwch yn amheus – Os ydych yn teimlo bod rhywbeth o’i le, dilynwch eich greddf. Bydd sgamwyr yn aml yn dibynnu ar greu ymdeimlad o frys neu’n cynnig cyfleoedd sy’n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir. Os nad ydych yn siŵr, camwch yn ôl a gofynnwch am gyngor gan ffrind, aelod o’r teulu, neu aelod o staff y Brifysgol yr ydych yn ymddiried ynddo/ynddi.
- Cofiwch ddiogelu eich gwybodaeth bersonol – Peidiwch byth â rhannu eich manylion banc, eich rhifau adnabod personol, eich cyfrineiriau, codau diogelwch neu ddogfennau personol (gan gynnwys eich pasbort, eich fisa, neu ddogfennau adnabod eraill) ag unrhyw bobl nad ydych yn eu hadnabod neu nad ydych yn ymddiried ynddynt.
- Cadarnhewch â phwy yr ydych yn siarad – Os byddwch yn cael galwad ffôn, neges ebost neu neges destun amheus, neu’n cael neges amheus ar gyfryngau cymdeithasol, gan rywun sy’n honni ei fod/ei bod yn cynrychioli sefydliad swyddogol, peidiwch â theimlo dan bwysau i ymateb yn syth. Yn hytrach, chwiliwch am fanylion cyswllt swyddogol y sefydliad a chysylltwch ag ef yn uniongyrchol i wirio’r cais. Cofiwch ei bod yn iawn i chi anwybyddu neu derfynu galwad ffôn os nad ydych yn siŵr â phwy yr ydych yn siarad.
- Meddyliwch cyn clicio – Byddwch yn ofalus wrth agor dolenni cyswllt neu atodiadau mewn negeseuon ebost, negeseuon testun, neu negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol. Bydd sgamwyr yn aml yn defnyddio gwefannau a chyfeiriadau ebost ffug i ddwyn gwybodaeth bersonol, cyfrineiriau, a manylion bancio. Gwe-rwydo yw enw’r math hwn o dwyll.
- Peidiwch byth â throsglwyddo arian ar ran pobl eraill – Peidiwch byth â chaniatáu i bobl eraill ddefnyddio eich cyfrif banc i gael neu drosglwyddo arian, waeth beth yw’r rheswm y maent yn ei roi neu’r wobr ariannol y maent yn ei chynnig. Mae hynny’n arwydd cyffredin o sgam i recriwtio mulod arian, a gallai arwain at ganlyniadau cyfreithiol difrifol.
- Cadwch eich dyfeisiau’n ddiogel – Defnyddiwch gyfrineiriau cryf ac unigryw ar gyfer eich cyfrifon ar-lein, a chofiwch alluogi cyfleuster dilysu dau ffactor pryd bynnag y bo modd. Gall sicrhau bod eich dyfeisiau a’ch meddalwedd wedi’u diweddaru bob amser fod o gymorth hefyd i’ch diogelu rhag seiberfygythiadau.
- Cymerwch eich amser – Yn aml, bydd sgamwyr yn rhoi pwysau ar bobl i wneud penderfyniadau sydyn. Cyn gwneud taliad, rhannu gwybodaeth bersonol, neu ymateb i gais annisgwyl, stopiwch am eiliad i feddwl a gwirio bod y cais yn ddilys.
- Peidiwch â theimlo cywilydd – Os ydych wedi cael eich targedu gan sgam, cofiwch y gall ddigwydd i unrhyw un. Mae sgamwyr yn dda iawn am ddylanwadu ar bobl, a byddant yn aml yn defnyddio tactegau argyhoeddiadol i ennill ymddiriedaeth rhywun. Y peth pwysicaf y gallwch ei wneud yw gofyn am help cyn gynted ag sy’n bosibl.
- Stopiwch bob cyswllt – Os ydych yn amau bod rhywun yn ceisio eich sgamio, stopiwch gyfathrebu â’r person yn syth. Dewch â’r alwad ffôn i ben, peidiwch ag ymateb i negeseuon ebost, negeseuon testun, negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol nac unrhyw fathau eraill o gyswllt, a blociwch nhw os oes modd. Hyd yn oed os bydd y sgamiwr yn dechrau eich bygwth neu’n parhau i gysylltu â chi, peidiwch ag ymateb.
- Cysylltwch â’ch banc – Os ydych wedi rhannu manylion banc, wedi trosglwyddo arian, neu’n credu y gallai eich gwybodaeth ariannol fod yn y dwylo anghywir, cysylltwch â’ch banc yn syth. Gall eich helpu i ddiogelu eich cyfrif, monitro gweithgarwch amheus, a’ch cynghori am y camau nesaf y dylech eu cymryd.
- Cofiwch ddiogelu eich cyfrifon – Os ydych wedi rhannu unrhyw wybodaeth bersonol, newidiwch eich cyfrineiriau, eich rhifau adnabod personol, a’ch cwestiynau diogelwch cyn gynted ag sy’n bosibl. Sicrhewch eich bod yn defnyddio cyfrineiriau cryf ac unigryw a’ch bod yn galluogi cyfleuster dilysu dau ffactor os oes un ar gael. Mae hefyd yn syniad da adolygu eich cyfrifon i chwilio am weithgarwch amheus, a pharhau i’w monitro yn ystod yr wythnosau sy’n dilyn.
- Rhowch wybod am y sgam – Dylech roi gwybod am sgamiau a thwyll drwy gysylltu â Report Fraud, sef gwasanaeth y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll a seiberdroseddu. Gallwch ffonio’r gwasanaeth ar 0300 123 2040, neu roi gwybod ar-lein. Er na fydd rhoi gwybod am sgamiau a thwyll yn arwain yn awtomatig at ymchwiliad gan yr heddlu, mae’n bosibl y bydd y wybodaeth yn cael ei rhannu â’r heddlu oherwydd ei bod yn bwysig i helpu awdurdodau i adnabod tueddiadau, atal troseddau pellach a thargedu gweithgarwch troseddol.
- Cysylltwch â’r heddlu os oes angen – Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosibl y bydd yn briodol cysylltu â’r heddlu, yn enwedig os ydych yn teimlo bod rhywun yn eich bygwth neu’n aflonyddu arnoch neu os ydych yn credu eich bod mewn perygl yn y fan a’r lle. Mae rhagor o arweiniad ar gael gan Heddlu Dyfed-Powys: https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/fo/v2/riportio-twyll-llwgrwobrwyo-neu-lygredd/?&rid=&cid=&lid=&stepId=1
- Gofynnwch am gymorth – Os oes sgam wedi effeithio ar eich lles, eich materion ariannol neu’ch astudiaethau, cofiwch fod cymorth ar gael gan eich ffrindiau, eich teulu, neu staff y Brifysgol.
Mae cael eich targedu gan sgamiau’n gallu cael effaith fawr ar eich materion ariannol, eich lles, a’ch astudiaethau. Os oes sgam wedi effeithio arnoch, mae cymorth ar gael ar draws y Brifysgol.
- Cymorth ariannol – Os ydych wedi colli arian drwy sgam neu os ydych yn ei chael yn anodd talu eich costau byw o ganlyniad i sgam, cysylltwch â’r Tîm Cyngor ac Arian. Bydd y tîm yn gallu rhoi arweiniad i chi ar reoli eich materion ariannol ac yn gallu eich helpu i archwilio’r cymorth a allai fod ar gael i chi.
- Cymorth o ran lles – Mae profiadau sy’n ymwneud â sgamiau a thwyll yn gallu achosi llawer o straen a gofid a gwneud i chi deimlo’n agored i niwed. Os hoffech gael cymorth emosiynol a chyngor am ymdopi ag effaith sgam, gallwch gysylltu â’r Tîm Lles.
- Cymorth academaidd – Os yw’r profiad wedi effeithio ar eich gallu i astudio, mynychu dosbarthiadau, cwblhau asesiadau, neu ymwneud â’ch cwrs, siaradwch â’ch Tiwtor Personol neu aelod arall o staff yn eich adran, yr ydych yn ymddiried ynddo/ynddi. Gall y sawl dan sylw drafod yr opsiynau sydd ar gael o ran cymorth a’ch helpu i gael gafael ar arweiniad academaidd priodol.
- Cymorth gan y Brifysgol o ran ebost a TG – Os ydych yn credu bod eich cyfrif ebost yn y Brifysgol yn y dwylo anghywir, cysylltwch yn syth â’r Tîm Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth. Gall gweithredu’n gyflym helpu i ddiogelu eich cyfrif ac atal mynediad diawdurdod pellach.
- Elusen annibynnol yw Cymorth i Ddioddefwyr, sy’n cynorthwyo pobl y mae troseddu wedi effeithio arnynt. Mae’r elusen yn darparu llinell gymorth rad ac am ddim 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Gallwch gael gafael ar y llinell gymorth drwy ffonio 0808 168 9111 neu ddefnyddio ei chyfleuster sgwrsio ar-lein.
- Gwasanaeth cynghori am ddim ar-lein yw Cyngor ar Bopeth, sydd wrth law i’ch helpu i ddod o hyd i ffordd ymlaen, beth bynnag fo’r broblem. Gallwch ffonio’r gwasanaeth ar 0808 223 1133 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8:00am a 6:00pm, neu ddefnyddio ei gyfleuster sgwrsio ar-lein.