Cymorth Costau Byw

Rydym yn ymwybodol bod yr argyfwng costau byw eisoes yn effeithio ar lawer yng nghymuned y Brifysgol yn ogystal a’r gymdeithas ehangach.

Mae’r cymorth sydd ar gael gan y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr wedi restru isod - cymorth ariannol, cyfleusterau am ddim yn ogystal a gostyngiadau ar draws y campws.

Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon yn rheolaidd.

I fwcio apwyntiad gydag ymgynghorwyr i drafod eich materion, cliciwch y botwm ar y dde. 

Beth alla i wneud os ydw i'n cael trafferth fforddio talu fy rhent a bwyd ?

Os ydych yn cael trafferthion ariannol, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy anfon e-bost at student-adviser@aber.ac.uk

Sut alla i gael cefnogaeth gyda chyllidebu?

Adnoddau arlein I greu cyllideb bersonnol -. Gallwch ddod o hyd i wahanol lwybrau Cyllidebu a chyfrifiannell cyllideb ar www.blackbullion.com. Edrych ar ffyrdd o arbed arian ar siopa h.y. edrych ar apiau fel Too Good To Go. ArchebU blwch bwyd drwy Aber Food Surplus, Edrych am ffyrdd o gael tariffau ffôn / rhyngrwyd rhatach , Edrych am gyfrif banc sy'n cynnig cyfleuster gorddrafft di-log i fyfyrwyr. 

Pa fannau astudio sydd ar gael ar y campws?

Mae amrywiaeth o fannau 24 awr yn Llyfrgell Hugh Own I astudio’n dawel, unigol ac astudio mewn grwp  astudio 24 awr yn llyfrgell Hugh Owen; https://www.aber.ac.uk/en/is/library-services/hughowen/studyspaces/;

  • Y Weithfan; Mae man gweithio 24 awr ar gael I fyfyrwyr yng nghanol Aberystwyth, wrth ymyl yr Orsaf Rheilffordd. Mae’n cynnwys 10 desg a chyfrifiadur, 6 desg astudio , offer argraffu, llungopïo a sganio, lolfa, bin dychwelyd llyfrau llyfrgell, ystafell gwaith grŵp.

 

Sut ydw i'n cael cefnogaeth i dalu fy biliau ynni?

Mae'r Cynllun Cymorth Biliau Ynni yn darparu gostyngiad o £400 i aelwydydd cymwys i helpu gyda'u biliau ynni dros aeaf 2022/2023.