Gwybodaeth i Rhieni, Gwarchodwyr a Chefnogwyr

Fel rhiant / cefnogwr, gall dechrau taith prifysgol eich person ifanc deimlo’n gyffrous a hefyd yn llethol. Tra bo rhai pobl ifanc yn addasu’n gyflym ac yn ffynnu, mae eraill yn gallu wynebu heriau, boed wrth wneud ffrindiau, ymgartrefu, neu ymdopi â’u hastudiaethau. Mae’n naturiol i boeni os yw eich person ifanc yn ymddangos yn anhapus, ond mae digon o ffyrdd ymarferol y gallwch chi eu cefnogi wrth iddyn nhw ddechrau yn y brifysgol.

Paratoi ar gyfer Bywyd Prifysgol

Rydym yn argymell eich bod yn cymryd amser i ymgyfarwyddo â’r adnoddau y mae’r brifysgol yn eu cynnig i fyfyrwyr. Bydd gwybod ble i droi am gymorth – boed academaidd, emosiynol neu ymarferol – yn golygu y gallwch gynnig arweiniad pan fydd ei angen ar y person ifanc.

Dod yn Gyfarwydd â Gwasanaethau’r Brifysgol: Gwasanaethau Myfyrwyr

Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud:

Pethau Ymarferol i Helpu’r Person Ifanc i Baratoi

Mae rhai sgiliau bywyd hanfodol yn gallu helpu person ifanc i deimlo’n fwy hyderus ac annibynnol yn y brifysgol.

  • Sgiliau Rhyngbersonol: Anogwch y person ifanc i ymwneud â phobl eraill mewn amgylcheddau gwahanol. Helpwch nhw i ddysgu sgiliau cyfathrebu da. Anogwch nhw i ymuno â chlybiau a chymdeithasau.
  • Coginio: Dysgwch ambell rysáit syml a rhwydd i’r person ifanc y gallai eu coginio i’w hun. Nid yn unig mae coginio’n sgil bywyd hanfodol, mae hefyd yn ffordd wych i gyfarfod â phobl newydd.
  • Golchi Dillad: Cyfleusterau Golchi. Dangoswch hanfodion golchi dillad iddyn nhw. Mae’n sgil hawdd ei ddysgu ac yn golygu na fydd rhaid i chi olchi eu dillad nhw’n ddiweddarach!
  • Gofal Iechyd: Lechyd MyfyrwyrHelpwch nhw i gofrestru gyda meddyg teulu a gwybod ble i gael meddyginiaethau dros y cownter a phresgripsiynau. Gwnewch yn siŵr eu bod wedi cael brechiadau fel MenACWY (meningitis) ac MMR, sydd fel arfer ar gael drwy eich meddyg.
  • Cyllidebu: Gweithiwch gyda nhw i gynllunio cyllideb fwyd a hanfodion. Yn lle archebu tecawê, anogwch nhw i siopa’n synhwyrol a pharatoi prydau. Mae gwefan ‘Save the Student’ yn cynnwys cyngor ariannol defnyddiol i fyfyrwyr.
  • Cymorth Cyntaf: Dysgwch gymorth cyntaf sylfaenol iddyn nhw a phaciwch becyn bach yn cynnwys hanfodion fel plastrau, rhwymynnau a chyffuriau lleddfu poen. Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod sut i’w defnyddio’n iawn.
  • Cynllun Cyfathrebu: Cytunwch sut a pha mor aml y byddwch yn cadw cysylltiad, boed yn alwad ffôn wythnosol neu neges WhatsApp bob hyn a hyn. Mae hyblygrwydd yn allweddol - peidiwch â disgwyl cyswllt bob dydd.

Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr

Cyfraniad Rhieni at Gostau Cynhaliaeth

Er mwyn sicrhau bod y myfyriwr yn cael yr hawliad Cyllid Myfyriwr llawn bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth am incwm eich cartref. Pan fyddwch yn cyflwyno incwm eich cartref i Cyllid Myfyrwyr, byddant yn asesu eich sefyllfa ariannol, gan gynnwys eich incwm ac unrhyw ddibynyddion, er mwyn cyfrifo’r Benthyciad Myfyriwr ac unrhyw grant y gallai fod yn gymwys ar eu cyfer. Mae’r lefel o gyfraniad ariannol y gofynnir i chi ei wneud yn aml yn aneglur, ond gallwch gysylltu â’ch darparwr Cyllid Myfyriwr am ragor o wybodaeth.

Newid yn Incwm y Cartref

Os yw eich incwm wedi lleihau 15% neu fwy ers y flwyddyn flaenorol, gall Cyllid Myfyrwyr ailasesu’r cyllid myfyriwr. Gallai hyn arwain at gymorth benthyciad ychwanegol. I wneud cais am ailasesiad, bydd angen i chi gwblhau Ffurflen Asesu Incwm y Flwyddyn Gyfredol.

Cymorth Ariannol Ychwanegol

Os yw person ifanc yn wynebu anawsterau ariannol yn y brifysgol, gall gysylltu â’r Tîm Cyngor ac Arian am help ac arweiniad.

Delio gyda Phryderon am y Person Ifanc

Mae poeni os nad yw’r person ifanc yn ymateb i’ch negeseuon neu alwadau’n normal. Er bod rheswm da yn aml, mae teimlo’n bryderus yn naturiol. Dyma rai camau y gallech eu cymryd:

Cymorth yn y Brifysgol:

Mae amrywiol adnoddau ar gael yn y brifysgol i helpu’r person ifanc, gan gynnwys:

Os oes Gennych Chi Bryderon: 

If you are worried about your young persons wellbeing you can submit your concerns through our online 'Report student wellbeing concerns' form. The Wellbeing Team will review any forms and appropriately address the concerns. If you have any issues completing this form, please contact Student Support on 01970 621761.

If you have urgent concerns about the safety of your young person then please call the emergency services on 999.

Pryderon y tu allan i oriau gwaith:

Os oes gennych bryderon y tu allan i oriau gwaith, ffoniwch y tîm diogelwch ar 01970 622900.

Cyfrinachedd

Er ein bod yn gallu derbyn ac ystyried eich pryderon, ni allwn rannu manylion personol am y person ifanc heb ganiatâd penodol. Mae’r brifysgol yn parchu preifatrwydd y person ifanc fel oedolyn sy’n ddysgwr annibynnol, ac mae’n ofynnol i ni gadw eu gwybodaeth yn gyfrinachol dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Gall hyn deimlo’n rhwystredig ond rydym ni’n gofyn am ddealltwriaeth gennych chi.

Gallwch fod yn sicr ein bod yn ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o gymorth i’r gymuned myfyrwyr. Os ceir pryderon difrifol am les neu ddiogelwch y bobl ifanc, mae gennym fesurau diogelwch ar waith. Os bydd angen byddwn yn cysylltu â’u cyswllt brys enwebedig, hyd yn oed heb eu cydsyniad, i sicrhau eu diogelwch.