Rhaglen Cymorth i Fyfyrwyr / cwnsela 24/7

Rydym yn falch o rannu bod Prifysgol Aberystwyth wedi ffurfio partneriaeth â Health Assured i gynnig Wisdom Wellbeing – gwasanaeth cymorth cyfrinachol sydd ar gael unrhyw bryd, ddydd neu nos, trwy gydol y flwyddyn, yn rhad ac am ddim.

Mae Wisdom Wellbeing yn cynnig cymorth 24 awr y dydd sy’n hawdd cael gafael arno trwy eu llinell gymorth am ddim, sgwrs fyw, galwad fideo, e-bost, a'r ap symudol am ddim. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael unrhyw bryd, hyd yn oed y tu hwnt i oriau gwaith ein Gwasanaeth Lles. 

Mae’n cynnig:

  • cyfle i siarad â chwnselwyr cymwys ar unwaith
  • sgwrs fyw, galwad fideo, galwad ffôn neu WhatsApp
  • dehonglwyr a phobl sy’n rhugl yn Iaith Arwyddion Prydain
  • Fideos ffitrwydd, myfyrdodau a ryseitiau
  • adnoddau hunangymorth, rheoli arian a llawer mwy.

Angen siarad â chwnselydd nawr?

Mae Cwnselwyr a Chynghorwyr Lles yn barod i wrando a chynnig cymorth pryd bynnag y bydd ei angen arnoch - mae'n gyfrinachol, yn anfeirniadol, ac ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn!

Gall Wisdom Wellbeing helpu gydag ystod eang o bryderon gan gynnwys: 

  • Eich lles meddyliol neu emosiynol 
  • Straen neu bryder
  • Pryderon yn ymwneud â'ch perthynas neu’ch teulu  
  • Pryderon amdanoch chi'ch hun neu rywun arall 
  • Cyngor ariannol 
  • Neu unrhyw beth arall sy'n eich poeni chi 

Mae cymorth wrth law pryd bynnag y bydd ei angen arnoch. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw rhoi galwad neu anfon neges. 

Eisiau cymorth gan rywun sy’n eich deall chi?

Mae Wisdom Wellbeing yn ein galluogi i’ch paru â rhywun sydd â phrofiad personol tebyg, sy’n golygu y gallwch siarad gyda rhywun sy’n deall eich cefndir, gan gynnwys:

  • Ffydd ac ysbrydolrwydd
  • Diwylliant ac ethnigrwydd
  • Rhywedd a rhywioldeb
  • Niwroamrywiaeth ac anabledd
  • Profiadau bywyd personol (e.e. gadael gofal, dieithrio o'r teulu, heriau bywyd myfyriwr)

Rhowch wybod iddyn nhw beth sy'n bwysig i chi, a byddant yn gwneud eu gorau glas i'ch paru â'r person iawn.

Sut i siarad gyda rhywun

Os ydych chi'n ei chael hi’n anodd, neu os oes angen i chi siarad â rhywun, gallwch gysylltu â llinell gymorth Wisdom Wellbeing ar unrhyw adeg - mae'n gyflym, yn hawdd ac am ddim. 

Ffoniwch 0800 028 3766

Pan fyddwch chi'n ffonio, bydd un o gynghorwyr cyfeillgar Wisdom Wellbeing yn ateb. Gofynnir i chi gadarnhau eich prifysgol, yna esbonio'n fyr beth mae eich galwad amdano, fel y gellir eich cysylltu â'r person iawn i helpu. Os nad yw'r cynghorydd sydd ei angen arnoch ar gael ar unwaith, yna gallwch ofyn iddynt ffonio’n ôl.

Lawrlwythwch yr Ap Wisdom

Gallwch hefyd siarad â rhywun trwy sgwrs fyw neu alwad fideo gan ddefnyddio'r Ap Wisdom (gweler isod).

Ap Wisdom

Ochr yn ochr â'r llinell gymorth, gallwch hefyd ddefnyddio'r ap Wisdom - ffordd ddefnyddiol o ofalu am eich lles a chael gafael ar gymorth pryd bynnag y bydd ei angen arnoch.

Mae'r ap yn llawn offer rhyngweithiol i'ch helpu i olrhain sut rydych chi'n teimlo a dod o hyd i ffyrdd newydd o roi hwb i'ch iechyd meddwl.

Bydd gennych fynediad at y canlynol:

  • Llyfrgell o erthyglau a fideos lles wedi’u teilwra i chi
  • Adnoddau sy’n olrhain eich hwyliau a chynlluniau lles 4 wythnos o hyd
  • Gwiriadau iechyd byr
  • A llawer mwy o adnoddau defnyddiol wedi'u teilwra i’ch diddordebau

Gallwch hyd yn oed sgwrsio'n uniongyrchol â chynghorydd trwy swyddogaeth sgwrsio ar-lein yr ap, fel y gallwch gael cymorth yn union pan fydd ei angen arnoch.

Mae’r broses o ddechrau arni'n gyflym ac yn hawdd: 

  1. Lawrlwythwch yr  Ap Wisdom
  2. Rhowch god unigryw Prifysgol Aberystwyth MHA274262  i gofrestru
  3. Ychwanegwch eich manylion a dewiswch eich dewisiadau i deilwra'r cynnwys yr hoffech ei weld

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, gallwch bori drwy bopeth sydd gan yr ap i’w gynnig, ar unrhyw adeg ac yn unrhyw le. 

Cwestiynau Cyffredin: https://www.datocms-assets.com/86089/1762331001-ha-ww_wisdom-faqs-guide_nov-2025.pdf

Lawrlwythwch yr ap yma: 

Google Play: https://play.google.com/store/apps/details?id=com.healthassured.wisdom&pli=1

Siop Apiau Apple : https://apps.apple.com/gb/app/wisdom-learn-grow-thrive/id6462672407