Cwestiynau Cyffredin - Diwrnod Ymweld i Ymgeiswyr

Rydym yn bwriadu cynnal cyfres o Ddiwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr ar y campws yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill 2024. Bydd gwahoddiadau personol yn cael eu dosbarthu yn gwahodd ymgeisgwyr i gofrestru. 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y digwyddadau hyn, cysylltwch â ni drwy e-bost ar ymgeisydd@aber.ac.uk a bydd y tîm yn hapus i helpu. 

Wedi ei ddiweddaru 11/10/2023

Archebu a chofrestru

Oes rhaid i mi gofrestru ymlaen llaw?

Mae’r llefydd yn gyfyngedig ar gyfer ein Diwrnod Ymweld i Ymgeiswyr a bydd angen i fynychwyr gofrestru ymlaen llaw. Sicrhewch eich lle gan ddefnyddio'r ddolen i'r ffurflen gofrestru ar-lein a anfonwyd atoch drwy ebost. 

Rwyf wedi gwneud cais am gwrs anrhydedd cyfun, a fydd modd i mi ymweld â’r ddwy adran?

Noder, os ydych chi’n ymgeisydd anrhydedd cyfun, mae croeso i chi ymweld â'r ddwy adran yn swyddogol ar Ddiwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr gwahanol neu ar yr un diwrnod. Os ydych chi’n ymweld fwy nag unwaith, gallwch hawlio cyfraniad tuag at dreuliau ar gyfer y ddau ymweliad, fodd bynnag, cofiwch y bydd rhai agweddau o raglenni’r Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr yn cael eu hailadrodd.

Wrth nodi eich dewisiadau ymweld ar ein ffurflen gofrestru ar-lein, bydd cyfle i nodi a hoffech ymweld â'r ddwy adran yn ystod un ymweliad. Os byddwch yn nodi eich bod yn dymuno gwneud hynny, byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am y ddwy raglen cyn eich ymweliad.

Rwyf wedi gwneud cais ar gyfer mwy nag un cwrs, a allaf ymweld fwy nag unwaith?

Os ydych wedi gwneud cais am fwy nag un cwrs ac yn dymuno mynychu mwy nag un Diwrnod Ymweld i Ymgeiswyr, mae croeso i chi ymweld yn swyddogol ar wahanol ddyddiadau. Fel arall, os hoffech unrhyw gymorth wrth gynllunio eich ymweliad â'r campws, byddwn yn barod i helpu - cysylltwch â ni ar ymgeisydd@aber.ac.uk a bydd un o'n tîm mewn cysylltiad i drafod hyn ymhellach.


Gallwch hawlio cyfraniad tuag at dreuliau ar gyfer y ddau ymweliad, fodd bynnag, cofiwch y bydd rhai agweddau o raglenni’r Diwrnodau Ymweld yn cael eu hailadrodd o bosibl.

Faint o westai gallaf ddod gydag ar y diwrnod?

Gall hyd at dri o westai ddod gyda chi ar Ddiwrnod Ymweld i Ymgeiswyr.

Ar adeg cofrestru, byddwch wedi nodi nifer y gwesteion fydd yn dod gyda chi; os hoffech newid hyn, dilynwch y ddolen yn yr e-bost cadarnhau eich lle i ddiweddaru eich cofnod.

Sylwch y gallai rhai o'r sesiynau y mae ein hadrannau academaidd yn eu cynnal fod yn gyfyngedig i ymgeiswyr yn unig. Bydd y sesiynau hyn naill ai'n cael eu nodi ymlaen llaw yn y rhaglen, neu'n cael eu cynghori ar y diwrnod gan staff yr adran.

Lle nad yw gwesteion ychwanegol yn mynychu sesiynau penodol, mae croeso iddynt grwydro’r campws, galw i mewn i’n Pwynt Gwybodaeth Diwrnod Ymweld i siarad â staff a Llysgenhadon, a darganfod mwy am ein Llety. Bydd ein caffis a mannau gwerthu hefyd ar agor.

Sut ydw i'n newid fy manylion cofrestru presennol?

I newid eich manylion cofrestru presennol, dilynwch y ddolen sydd wedi'i chynnwys yn eich e-bost cadarnhau i ddiweddaru eich cofnod. Unwaith y byddwch wedi nodi eich rhif adnabod personol UCAS neu Aberystwyth a'ch cyfeiriad e-bost, bydd angen i chi ddilyn y canllawiau i newid eich manylion ac yna ail-gyflwyno'r ffurflen. 

Nid wyf bellach yn medru mynychu’r Diwrnod Agored, ydw i’n medru canslo?

Rydym yn gwerthfawrogi y gall fod angen newid eich cynlluniau ar adegau. Os na allwch ddod i'r digwyddiad, ebostiwch ymgeisydd@aber.ac.uk

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, bydd ein tîm Diwrnod Ymweld i Ymgeiswyr yn gallu rhoi cyngor ar ffyrdd eraill o ddarganfod mwy am Aberystwyth gan gynnwys cyfleoedd ymweld yn y dyfodol.

Rhaglenni a Chofrestru

Ble ydw i’n cofrestru a phryd bydd angen i mi gyrraedd?

Bydd ein Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr yn rhedeg  rhwng 09.00 – 16.00, lle gewch gyfle i ymweld â’ch adran(nau) academaidd a chael amser i grwydro’r campws.

Cofrestru, Croeso a Gwybodaeth Gyffredinol: Canolfan y Celfyddydau, Campws Penglais, SY23 3DE

Bydd yr amserlen benodol ar gyfer yr adran(nau) academaidd yr ydych yn ymweld â hi yn cael ei hanfon atoch cyn y digwyddiad er mwyn eich galluogi i gynllunio eich amser gyda ni. Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth ynghlych ble a phryd y byddwch yn cofrestru yn ystod eich ymweliad. 

Ble byddaf yn derbyn rhaglen o’r diwrnod cyn fy ymweliad?

Bydd y rhaglen yn cael ei chynnwys yn yr e-bost a gewch yn nes at y digwyddiad. Bydd hyn yn cynnwys cyngor defnyddiol i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad. Nodwch na fydd angen cofrestru i fynychu sgyrisau penodol cyn y Diwrnod Ymweld i Ymgeiswyr.

Pan fyddwch yn cyrraedd y campws, bydd ein tîm o staff a llysgenhadon myfyrwyr wrth law i'ch croesawu, i roi cyfarwyddiadau a chyngor.

A fyddaf yn medru gweld llety’r Brifysgol yn ystod yr ymweliad?

Bydd amrywiaeth o’n preswylfeydd ar gael i chi eu gweld ar y diwrnod. Bydd rhagor o wybodaeth o amseroedd ein fflatiau arddangos yn y rhaglen byddwch yn derbyn cyn eich ymweliad. 

Mae’r dudalen we llety yn cynnwys llawer o wybodaeth defnyddiol gan gynnwys teithiau 360 gradd o’n preswylfeydd, ynghyd â gwybodaeth am gyfleusterau neu prisiau – os oes gennych ddiddoreb cyn ymweld â ni, mae’r wybodaeth hon ar gael yma:

aber.ac.uk/llety

Cefnogi eich Ymweliad

Cyfranu tuag at gostau eich Diwrnod Ymweld i Ymgeisgwyr

I wneud pethau ychydig yn haws, byddwn yn cyfrannu at eich treuliau Diwrnod Ymweld i Ymgeiswyr pan fyddwch yn ymweld. Mae rhagor o wybodaeth am y cyfraddau cyfrannu a sut i wneud cais ar gael ar ein tudalen gwe Treuliau Diwrnod Ymweld Ymgeiswyr.

Sylwer, yn achos darpar fyfyrwyr sy’n gadael gofal, gofalwyr ifainc, y rhai sydd heb gymorth teuluol a grwpiau eraill sy’n dod o fewn maes ‘ehangu mynediad’, mae’n bosib y bydd cefnogaeth ariannol ychwanegol ar gael i ddod i Ddiwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr. Os yw'r holl gostau yn golygu na allwch ymweld â ni, cysylltwch â’r tȋm Ehangu Cyfranogiad ar ehangu-cyfranogiad@aber.ac.uk am ragor o wybodaeth.

Pa gymorth sydd ar gael os oes yna aelod gennyf ar y daith gydag anabledd, trafferthion symud neu os fod angen gwneud addasiadau ar gyfer ein hymweliad?

Os ydych eisoes wedi rhoi gwybod i ni am ofynion ychwanegol wrth lenwi’r ffurflen gofrestru, bydd ein tîm Diwrnod Ymweld i Ymgeiswyr yn cysylltu â chi i drafod eich ymweliad a nodi unrhyw fesurau ymarferol y gallwn eu rhoi ar waith i’ch cefnogi.

Os hoffech ddiweddaru eich cofnod cofrestru i'n hysbysu bod gan westai anabledd, problem symudedd neu fod angen unrhyw addasiadau i'w gwneud i gefnogi eich ymweliad, dilynwch y ddolen sydd wedi'i chynnwys yn eich e-bost cadarnhau i ychwanegu gwybodaeth ychwanegol. Fel arall, cysylltwch â’n tîm Diwrnod Ymweld i Ymgeiswyr a fydd yn hapus i helpu (ymgeisydd@aber.ac.uk

A fydd modd siarad ag aelod o dîm Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yn ystod fy ymweliad?

Bydd aelodau o'r tîm Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr ar gael i ateb eich cwestiynau yn ystod y Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr. Bydd gwybodaeth bellach yn cael ei gynnwys yn y Canllaw Diwrnod Ymweld i Ymgeiswyr a byddwch yn ei dderbyn cyn eich ymweliad. 

Teithio a Thrafnidiaeth

Sut alla i weld map o'r Brifysgol?

Cyn eich ymweliad, cyfeiriwch at yr adran Mapiau Prifysgol ar y wefan. Bydd mapiau printiedig (A3 o ran maint) ar gael i'w casglu wrth ein desgiau croeso pan fyddwch yn cofrestru yn ystod y Diwrnod Ymweld I Ymgeiswyr yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. 

Bydd rhaglen y Diwrnod Ymweld i Ymgeisywr yn cynnwys gwybodaeth am ystafelloedd a lleoliad y gwahanol weithgareddau. Bydd y rhaglen yn cael ei hanfon atoch ymlaen llaw (i'r cyfeiriad e-bost a roddwyd gennych wrth gofrestru). 

Bydd ein tîm o Fyfyrwyr sy’n Lysgenhadon ac yn gwisgo crysau-t melyn, yn hapus i roi cyfarwyddiadau yn ystod y dydd. 

Byddaf yn teithio mewn car, ble fydd modd parcio ar y campws?

Wrth i chi gyrraedd Campws Penglais, dilynwch yr arwyddion a'r canllawiau ar gyfer parcio am ddim. Os oes angen parcio hygyrch ar unrhyw un yn eich parti (ac nad ydych wedi nodi hyn wrth gofrestru) rhowch wybod i'n tîm Diwrnod Ymweld i Ymgeiswyr fel y allwn sicrhau bod trefniadau priodol yn eu lle.

Mae gwybodaeth ddefnyddiol i ymwelwyr sy'n teithio mewn car i'w gweld ar ein tudalennau mapiau a theithio.

Oes yna bwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan ar y campws?

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi gosod pwyntiau gwefru ar draws campws y Brifysgol i gyfateb a’r defnydd cynyddol o gerbydau trydan. Mae arwyddion manwl yn cyd-fynd â phob gwefrydd. Mwy o wybodaeth am godi tâl cerbydau trydan.  

Rwy’n teithio ar y trên, sut ydw i’n cyrraedd y campws?

Byddwn yn darparu gwasanaeth bysiau gwennol am ddim rhwng y gorsaf drên a’r campws yn ystod y Diwrnod Ymweld i Ymgeiswyr. 

Pan fyddwch yn cyrraedd Aberystwyth, cadwch lygaid allan am ein Llysgenhadon yn yr orsaf drenau, byddant yn gwisgo crysau-t melyn a byddant yn eich tywys i’r bws.

Gwybodaeth defnyddiol i ymwelwr sy’n teithio i Aberystwyth ar drên i’w gweld ar dudalen mapiau a theithio.

Gwasanaeth bws am ddim

Yn ystod y Diwrnod Ymweld i Ymgeiswyr mae gwasanaeth bws gwennol ar gael am ddim rhwng y dref a champws Penglais (9.00 - 16.30). Galwch i mewn i'r ddesg groeso yng Ngweithfan y Brifysgol ger gorsaf drenau Aberystwyth i ofyn am fws. Bydd y gwasanaeth yn gollwng a chasglu teithwyr ger prif arhosfan fysiau Campws Penglais lle bydd aelodau o staff ar gael i gynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau. 

Darperir gwasanaeth bws gwennol hefyd rhwng prif gampws Penglais a'r Ysgol Gelf. Darllenwch raglen yr Ysgol Gelf er mwyn gweld amseroedd agor yr adeilad a’r gweithgareddau sydd ar gael. 

 

Rwy'n teithio ar fws i Aberystwyth, sut mae cyrraedd y campws?

Mae gwasanaeth y National Express i Aberystwyth yn stopio ar y campws, gelwir yr arhosfan yn Prifysgol Aberystwyth. Ar ôl cyrraedd mae croeso i ymwelwyr ddefnyddio'r Gwasanaeth Bws Diwrnod Ymweld i Ymgeiswyr rhad ac am ddim rhwng y dref a'r campws yn ystod y Diwrnod Ymweld i Ymgeiswyr.   

A oes WIFI i ymwelwyr ar gael ar y campws?

Mae WIFI am ddim ar gael ar y campws i ymwelwyr â’r Diwrnod Ymweld i Ymgeiswyr. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar sut i gysylltu â'r rhwydwaith diwifr i westeion ar y dudalen we ganlynol: Mynediad diwifr i ymwelwyr â Phrifysgol Aberystwyth. 

Pa leoliadau bwyd sydd i gael ar y campws?

Bydd manylion am y caffis, y bariau, y siopau a'r bwyty ar y campws yn cael eu nodi yn ein Canllaw Diwrnod Ymweld i Ymgeiswyr (gan gynnwys gwybodaeth am leoliad, amseroedd agor a'r ystod o luniaeth a phrydau bwyd a gynigir). Bydd dolen i'r fersiwn pdf o'r Canllaw yn cael ei hanfon at ymwelwyr o flaen llaw. Bydd copïau printiedig o'r Canllaw hefyd ar gael i'w casglu pan fyddwch yn cofrestru ar y campws. 

Nodwch bellach fod y campws yn gweithredu heb arian parod - rydym yn derbyn taliadau digyswllt yn unig.