Cwestiynau Cyffredin - Diwrnodau Darganfod
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’n Diwrnod Darganfod.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y digwyddiad, cysylltwch â ni drwy e-bost ymholiadau@aber.ac.uk a bydd ein tîm yn barod i helpu.
Archebu
Mae’r llefydd yn gyfyngedig ar gyfer ein Diwrnod Darganfod ac fe ofynnir i chi archebu ymlaen llaw. Archebwch eich lle drwy’r Ffurflen Gofrestru Diwrnod Darganfod.
Sylwch wrth gwblhau'r ffurflen gofrestru dewiswch Darpar Fyfyriwr o'r gwymplen (oni bai eich bod eisoes wedi gwneud cais i astudio gyda ni).
Pan fyddwch yn archebu lle nodwch y nifer o westeion ac os byddwch am newid hyn, cysylltwch â'n tîm i’ch helpu (ymholiadau@aber.ac.uk).
Rydym yn sylweddoli fod cynlluniau yn gallu newid. Os na allwch ddod i’r digwyddiad, cysylltwch â ni drwy e-bost (ymholiadau@aber.ac.uk). Bydd ein tîm Diwrnod Darganfod yn gallu rhoi cyngor ar ffyrdd eraill o ddarganfod mwy am Aberystwyth gan gynnwys cyfleoedd ymweld yn y dyfodol.
Rhaglenni Gwybodaeth a Chofrestru
Bydd ein Diwrnod Darganfod yn rhedeg rhwng 10.30 – 15.00, lle gewch gyfle i:
- Cyfarfod a staff a myfyrwyr llysgenhadon yn ein ffair pwnc a gwybodaeth
- Ymweld a llety’r brifysgol
- Taith o’r campws gyda ein myfyrwyr llysgenhadon
- Bydd cofrestru yn adeilad Penbryn ar gampws Penglais a fydd yn agor am 10.30
Bydd rhagor o wybodaeth am yr amserlen ar gyfer y diwrnod yn cael ei hanfon atoch ymlaen llaw.
Cyn y digwyddiad, byddwn yn anfon cyfres o negeseuon e-bost i ymwelwyr yn cadarnhau eich archeb ac yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi er mwyn eich helpu i gynllunio'ch diwrnod.
Yn ystod yr wythnos cyn y digwyddiad, bydd hyn yn cynnwys cod QR y gallwch ei ddefnyddio i gofrestru ar y diwrnod.
Bydd y rhaglen yn cael ei gynnwys mewn ebost yn agosach at y digwyddiad. Bydd hyn yn cynnwys cyngor defnyddiol er mwyn eich galluogi i gynllunio’r dydd.
Bydd ein Diwrnod Darganfod yn rhedeg rhwng 10.30 – 15.00, lle gewch gyfle i:
- Cyfarfod a staff a myfyrwyr llysgenhadon yn ein ffair pwnc a gwybodaeth
- Ymweld a llety’r brifysgol
- Taith o’r campws gyda ein myfyrwyr llysgenhadon
Pan fyddwch yn cyrraedd ar y campws, bydd ein tîm o staff a llysgenhadon yn eich croesawu i ddarparu cyngor a chyfarwyddiadau.
Bydd amrywiaeth o’n preswylfeydd ar gael i chi eu gweld ar y diwrnod. Bydd rhagor o wybodaeth am y teithiau tywys llety yn y rhaglen byddwch yn derbyn cyn eich ymweliad.
Mae’r dudalen we llety yn cynnwys llawer o wybodaeth defnyddiol gan gynnwys teithiau 360 gradd o’n preswylfeydd, ynghyd â gwybodaeth am gyfleusterau neu prisiau – os oes gennych ddiddordeb cyn ymweld â ni, mae’r wybodaeth hon ar gael yma:
www.aber.ac.uk/llety
Cefnogi eich Ymweliad
Os ydych eisoes wedi nodi unrhyw ofynion ychwanegol yn y ffurflen archebu, bydd ein tîm Diwrnod Darganfod mewn cysylltiad i drafod eich ymweliad a nodi unrhyw mesurau ychwanegol y medrwn eu rhoi ar waith i’ch cefnogi.
Os hoffech ddiweddaru eich ffurflen archebu fod un o’ch ymwelwyr gydag anabledd, trafferthion symud neu os fod angen gwneud unrhyw addasiadau i gefnogi eich ymweliad, cysylltwch â’n tîm Diwrnod Darganfod a fydd yn hapus i’ch helpu (ymholiadau@aber.ac.uk).
Teithio, Trafnidiaeth a Chyfleusterau
Cyn eich ymweliad, cyfeiriwch at yr adran Mapiau Prifysgol ar y wefan. Bydd mapiau printiedig (A3 o ran maint) ar gael i'w casglu wrth ein desgiau croeso pan fyddwch yn cofrestru yn ystod y Diwrnod Darganfod.
Bydd rhaglen y Diwrnod Darganfod yn cynnwys gwybodaeth am ystafelloedd a lleoliad y gwahanol weithgareddau. Bydd y rhaglen yn cael ei hanfon atoch ymlaen llaw (i'r cyfeiriad e-bost a roddwyd gennych wrth archebu).
Bydd ein tîm o Fyfyrwyr sy’n Lysgenhadon ac yn gwisgo crysau-t melyn, yn hapus i roi cyfarwyddiadau yn ystod y dydd.
Wrth i chi gyrraedd Campws Penglais, dilynwch yr arwyddion a'r canllawiau ar gyfer parcio am ddim. Os oes angen parcio hygyrch ar unrhyw un yn eich parti (ac nad ydych wedi nodi hyn wrth gofrestru) rhowch wybod i'n tîm Diwrnod Darganfod fel y allwn sicrhau bod trefniadau priodol yn eu lle.
Mae gwybodaeth ddefnyddiol i ymwelwyr sy'n teithio mewn car ar gael ar ein tudalennau gwe mapiau a theithio.
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi gosod pwyntiau gwefru ar draws campws y Brifysgol i gyfateb a’r defnydd cynyddol o gerbydau trydan. Mae arwyddion manwl yn cyd-fynd â phob gwefrydd. Mwy o wybodaeth am godi tâl cerbydau trydan.
Mae gwasanaeth y National Express a TaithCymru i Aberystwyth yn stopio ar y campws, gelwir yr arhosfan yn Prifysgol Aberystwyth.
Bydd manylion am y caffis, y bariau, y siopau a'r bwyty ar y campws yn cael eu nodi yn ein Canllaw Diwrnod Darganfod (gan gynnwys gwybodaeth am leoliad, amseroedd agor a'r ystod o luniaeth a phrydau bwyd a gynigir). Bydd dolen i'r fersiwn pdf o'r Canllaw yn cael ei hanfon at ymwelwyr o flaen llaw. Bydd copïau printiedig o'r Canllaw hefyd ar gael i'w casglu pan fyddwch yn cofrestru ar y campws.
Nodwch bellach fod y campws yn gweithredu heb arian parod - rydym yn derbyn taliadau digyswllt yn unig.