Cerdyn Rheilffordd am ddim!

Myfyrwyr yn mwynhau Aberystwyth.

Bydd modd i bob myfyriwr israddedig blwyddyn gyntaf llawn-amser sy’n ymuno â Phrifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2026 hawlio Cerdyn Rheilffordd 16-25 am ddim a fydd yn cynnig traean oddi ar docynnau trên ledled y DU am flwyddyn gyfan.

Rydym yn deall y gall costau teithio fod yn ddrud, a dyna pam rydym am i’n myfyrwyr fwynhau prisiau tocynnau trên gostyngol wrth iddynt deithio i Aberystwyth (a thu hwnt!).

Ar ôl cofrestru ym mis Medi, bydd myfyrwyr cymwys* yn cael eu hysbysu trwy e-bost o'r broses y bydd angen iddynt ddilyn i hawlio eu Cerdyn Rheilffordd 16-25 am ddim.

Y dyddiad cau i ymgeisio am Gerdyn Rheilffordd bydd yn ystod mis Hydref (byddwn yn anfon yr union ddyddiad trwy e-bost).

I drafod mwy am ein lleoliad neu am deithio i Aberystwyth, cysylltwch: ymgeisydd@aber.ac.uk  

 

*Mae'r cynnig yma ond ar gael i fyfyrwyr israddedig llawn-amser sy'n dechrau eu gradd o Flwyddyn 1. Nid yw myfyrwyr sy'n ymuno â Phrifysgol Aberystwyth yn hwyrach yn ystod eu gradd yn gymwys - hynny yw, mynediad uniongyrchol i Flwyddyn 2 neu Flwyddyn 3 neu Flwyddyn 'top-up', er efallai mai dyma yw eu blwyddyn cyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth.