Astudiaethau Milfeddygol

Mae’r cwrs gradd Gwyddor Milfeddygaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, a ddysgir ar y cyd â’r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol, wedi’i gynllunio i hyfforddi myfyrwyr i adnabod afiechydon anifeiliaid, trin yr afiechydon yn feddygol a llawfeddygol, ac atal afiechydon, a hynny'n cynnwys anifeiliaid anwes, anifeiliaid fferm a sŵ, a cheffylau.

  • Addysgir ar y cyd â'r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol yn Llundain  
  • Ysgol Filfeddygol gyntaf Cymru, a'r unig un

Pam astudio Gwyddor Milfeddygaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Yng Nghymru, rydym yn arweinwyr mewn meysydd cysylltiedig â milfeddygaeth, ac mae gennym enw da iawn am ymchwil ac addysgu ym maes iechyd anifeiliaid.
  • Ein Canolfan Addysg Filfeddygol yw'r cyntaf o'i bath yng Nghymru a ni yw'r unig Brifysgol yng Nghymru sy'n cynnig gradd mewn Gwyddor Milfeddygaeth.
  • Cynigir y radd mewn partneriaeth â'r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol, yr ysgol filfeddygol annibynnol fwyaf a hynaf yn y Deyrnas Unedig, sy’n aelod-sefydliad o Brifysgol Llundain.  
  • Cynlluniwyd ein rhaglen radd i ateb y galw cynyddol am weithwyr cymwys i weithio mewn milfeddygfeydd cymysg gwledig.

Cyflogadwyedd

Mae graddedigion yn datblygu gwybodaeth wyddonol fanwl y gellir ei chymhwyso i amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa, gan gynnwys y sbectrwm o filfeddygfeydd clinigol, ymchwil filfeddygol a biofeddygol, iechyd cyhoeddus milfeddygol a diogelwch bwyd, meddygaeth cadwraeth, ac amrywiaeth o weithgareddau i'r llywodraeth a diwydiannau milfeddygol. Yn ogystal â hyn, gan eu bod wedi’u hyfforddi’n rhannol yng Nghymru mewn milfeddygfeydd cymysg gwledig, bydd graddedigion yn hynod addas i barhau â'u gyrfa mewn milfeddygfeydd a sefydliadau a chyda cyflogwyr milfeddygol eraill yng Nghymru. 

Cyfleusterau

Mae'r Ganolfan Addysg Filfeddygol yn darparu ystafelloedd hyfforddi sgiliau clinigol a sgiliau trin anifiliaid anwes, mannau ar gyfer dysgu anatomeg a mannau astudio cymunedol i fyfyrwyr.

Yn ogystal ag adnoddau labordy sylweddol ar Gampws Penglais a'r Ganolfan Addysg Filfeddygol, mae’r adnoddau ychwanegol yn cynnwys:

  • Canolfan Geffylau Lluest, sy’n adnodd addysgu pwrpasol ac yn Ganolfan Hyfforddi a Gymeradwywyd gan Gymdeithas Ceffylau Prydain.
  • Ffermydd y Brifysgol, dros 800 ha o dir, diadellau o ddefaid ucheldir ac iseldir a buchesi o wartheg godro a gwartheg eidion.
  • Canolfan Ymchwil yr Ucheldir ym Mhwllpeiran, sy’n gartref i alpacaod a defaid ucheldir.

Ymchwil

Mae ein hymchwilwyr yn astudio’r modd mae afiechyd a llygredd yn cyfrannu at ddirywiad ym mhoblogaeth pengwiniaid Affricanaidd, rhywogaeth a allai ddiflannu’n llwyr o fewn y 30-80 mlynedd nesaf.

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang. 

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.