Busnes a Rheolaeth

Mae byd menter yn addasu ac yn esblygu'n gyson. Gall effaith newidiadau yn yr amgylchedd busnes o ran digwyddiadau economaidd, newidiadau mewn arferion cyfrifeg, newidiadau yn yr amgylchedd rheoleiddio a chyfreithiol, penderfyniadau marchnata, datblygiad strategaethau busnes a’r gwahaniaeth rhwng strategaethau wneud y gwahaniaeth rhwng llwyddiant a methiant cwmni. Mae ein graddau Busnes a Rheolaeth wedi'u llunio ar gyfer myfyriwr sydd eisiau rhagori a chyrraedd y lefel uchaf o ran arferion rheoli busnes byd-eang. 

CMI
  • 4ydd yn y Deyrnas Unedig am Fodlonrwydd gyda’r Asesu a’r Adborth ym mhwnc Busnes a Rheolaeth (Tabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2023)
  • Yn y 5 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Ansawdd y Dysgu ym mhwnc Astudiaethau Busnes a Rheolaeth (Canllaw Prifysgolion Da 2024 the Times and Sunday Times)

Pam astudio Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn dysgu gan ddarlithwyr sydd ag ystod eang o brofiad busnes a rheoli, yn ogystal â diddordebau ymchwil, sydd wedi'u hymgorffori i'ch dysgu.   
  • Cewch gyfle i weithio gyda busnesau yn y gymuned leol a thu hwnt i ddatblygu eich sgiliau ymarferwr, gan gefnogi eich datblygiad academaidd.   
  • Bydd ein tîm o academyddion arbenigol yn datblygu eich dealltwriaeth o reolaeth mewn busnes a masnach yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.  
“Mae Busnes a Rheolaeth yn rhoi cipolwg academaidd ar ymddygiad cadarn mewn amgylcheddau busnes mewnol ac allanol gan alluogi unigolion i ddeall yn llawn gyd-destun ehangach gweithrediadau o fewn cyd-destun byd-eang mewn modd gwybodus ond diddorol. Mae'n amrywiol gan ei fod yn archwilio amrywiaeth o bynciau busnes. Mae'r modiwlau'n rhoi mantais fawr i unigolion ar gyfer deall amrywiaeth o swyddogaethau busnes.”
Andrea Jane Phillips  Andrea Jane Phillips  BSc Busnes a Rheloaeth
“Mae astudio Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy nealltwriaeth, a gwerthfawrogi'n well y byd yr ydym yn byw ac yn gweithio ynddo. Trwy ystod o sesiynau dysgu rhyngweithiol ac yn y dosbarth, mae fy angerdd dros y pwnc wedi ffynnu. Mae'r radd wedi ysgogi fy nymuniad i fynd ar drywydd addysg i'r lefel nesaf er mwyn meithrin dealltwriaeth fwy trylwyr o'r amgylchedd busnes.”
Peter Hamilton-Gray  

 Peter Hamilton-Gray  BSc Busnes a Rheolaeth

Cyflogadwyedd

Gyda gradd mewn Busnes a Rheolaeth, bydd modd i chi ddewis o ystod amrywiol o opsiynau gyrfa ym maes busnes, diwydiant a masnach, neu weithio o fewn y sector cyhoeddus.   

Mae ein graddedigion wedi ymuno â nifer o sectorau, gan gynnwys:  

  • bancio buddsoddi  
  • yswiriant  
  • tanysgrifennu  
  • rheoli risg  
  • rheoli marchnata  
  • rheoli manwerthu  
  • rheoli logisteg a dosbarthu.  






Cyfleusterau

Mae Refinitiv Workspace wedi'i ymgorffori’n rhan o nifer o fodiwlau craidd ar draws yr Ysgol Fusnes. Mae'n darparu gwybodaeth am gyfrifon cwmnïau, newyddion a dadansoddi ac yn efelychu'r amgylchedd masnachu. Darperir hyfforddiant hefyd ar feddalwedd cyfrifeg Sage a sut i ddefnyddio Excel. 

Ymchwil

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gweithgareddau ymchwil a'n cyhoeddiadau o bwys rhyngwladol, gan gynnig datrysiadau busnes, rheolaeth a chyllid y gellir eu cymhwyso ar draws sectorau, diwylliannau a meysydd disgyblaeth. Ar hyn o bryd mae Ysgol Fusnes Aberystwyth yn cynhyrchu ymchwil sy'n arwain y byd neu sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol.  

Mae gennym dîm rhagorol o academyddion sy'n cynnig arbenigedd eang, cyfunol, a enillwyd drwy brofiad proffesiynol ac ymchwil academaidd. Mae ein hacademyddion wedi goruchwylio ystod eang o bapurau ymchwil ôl-ddoethurol ac wedi defnyddio eu gwybodaeth ymchwil i ddatblygu rhaglenni busnes, rheoli a chyllid unigryw a nodedig er budd ein holl fyfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.  

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang 

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.