Economeg

O Brecsit a’r dreth Ystafell Wely, i gyflogau a chyfoeth, yr amgylchedd ac ynni i iechyd a digartrefedd, anaml y mae economegwyr wedi cael cymaint o ddylanwad ar gyfeiriad a thrafodaeth y materion sy’n effeithio ar y byd. Yn Aberystwyth, mae ein graddau Economeg yn canolbwyntio ar ystod eang o faterion sy’n effeithio ar fywyd bob dydd a byddwn yn sicrhau eich bod yn datblygu’r sgiliau dadansoddol, rhifiadol, dadansoddi data a datrys problemau gwerthfawr i sicrhau eich bod yn deall sut mae pobl, busnesau, sefydliadau a llywodraethau yn gwneud penderfyniadau, a goblygiadau penderfyniadau o’r fath ar unigolion a chymdeithas.

  • Clywed safbwyntiau gan ymwelwyr gwadd o’r diwydiant fydd yn dod i roi darlithoedd  
  • Ymhlith y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Brofiad Myfyrwyr ym maes Economeg (Canllaw Prifysgolion Da y Times a'r Sunday Times 2021)
  • Cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau busnes 

Pam astudio Economeg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Wedi'i addysgu gan ymchwilwyr economaidd byddwch yn datblygu sgiliau dadansoddi, rhifiadol, dadansoddi data a datrys problemau gwerthfawr, a fydd yn eich galluogi i ddeall sut mae pobl, busnesau, sefydliadau a llywodraethau yn gwneud penderfyniadau, ac effeithiau penderfyniadau o'r fath ar unigolion a chymdeithas.   

Byddwch yn gwella eich cyfleoedd gyrfa drwy ein partneriaethau â busnes, diwydiant a masnach.  

 

“Rwy'n mwynhau dysgu sut mae'r economi'n gweithio. Dysgu na chaiff arian ei argraffu ar unrhyw adeg, ond yn hytrach caiff ei reoli gan y llywodraeth. Mae economeg yn caniatáu imi ddeall y problemau sylfaenol y mae pob cymdeithas yn eu hwynebu. At hynny, mae'n canolbwyntio ar y rhyngweithio rhwng y farchnad a phobl, sut mae asiantau economaidd yn ymddwyn neu'n rhyngweithio, a sut mae'r economi'n gweithio.”
Fon Yih Young  Fon Yih Young  BSc Economeg
“Mae Economeg Busnes yn rhoi dealltwriaeth fanwl i fyfyrwyr nid yn unig o egwyddorion micro a macroeconomaidd, ond mae'n cyfuno elfennau craidd hanfodol eraill sy'n berthnasol i'r ddealltwriaeth o faterion economaidd byd-eang rhyngwladol modern, ôl-fodern a chyfredol.”
Paul Michael Simpson  Paul Michael Simpson  BSc Economeg Busnes

Cyflogadwyedd

Mae gradd mewn Economeg yn cynnig cyfleoedd mewn meysydd megis dadansoddi polisi neu weinyddiaeth lywodraethol yn y sector cyhoeddus, y sector bancio a chyllid neu yn y sector preifat.    

Gallech hefyd weithio i gyrff anllywodraethol a sefydliadau gwirfoddol Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio yng Ngwasanaethau Economaidd y Llywodraeth, Trysorlys EM, y Cyngor Prydeinig, grŵp FDM, Nexus Financial Consulting, a Kiva.  






Cyfleusterau

Mae Refinitiv Workspace wedi'i ymgorffori’n rhan o nifer o fodiwlau craidd ar draws yr Ysgol Fusnes. Mae'n darparu gwybodaeth am gyfrifon cwmnïau, newyddion a dadansoddi ac yn efelychu'r amgylchedd masnachu. Darperir hyfforddiant hefyd ar feddalwedd cyfrifeg Sage a sut i ddefnyddio Excel. 

Ymchwil

Mae’r gwaith ymchwil a wneir yn Ysgol Fusnes Aberystwyth yn sail i’n haddysgu ar agweddau sy’n ymwneud â masnach a busnes rhyngwladol, economeg datblygu a dadansoddi polisi, economeg llafur a rhanbarthol, economeg wledig ac amaethyddol, economeg ecoleg a’r amgylchedd ac econometreg gymwysedig, sy’n golygu y byddwch yn dysgu am y syniadau a’r cysyniadau diweddaraf.    

 

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang. 

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.