Daearyddiaeth, Gwyddorau Daear ac Amgylcheddol

P'un ai Daearyddiaeth Ddynol ynteu Ddaearyddiaeth Ffisegol neu Gwyddorau Daear ac Amgylcheddol sydd orau gennych, mae ein Hadran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn un o'r adrannau mwyaf sefydledig a phrofiadol o'i bath. Lleolir Prifysgol Aberystwyth ar arfordir Bae Ceredigion lle ceir amrywiaeth eang o amgylcheddau hardd, gan gynnwys môr, rhostir, mynydd-dir a glaswelltir. Mae'r lleoliad unigryw yn golygu bod modd manteisio i'r eithaf ar y tirweddau trawiadol sydd o’n cwmpas, gan roi amrywiaeth wych o waith maes a chyfleoedd hamdden, a rhoi chyfle i chi astudio daearyddiaeth, gwyddorau daear ac amgylcheddol yn un o leoliadau prydferthaf Ewrop.  

RGS
  • Yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Brofiad Myfyrwyr ac Ansawdd y Dysgu ym mhwnc Daearyddiaeth a Gwyddor yr Amgylchedd (Canllaw Prifysgolion Da 2024, The Times and Sunday Times)
  • Yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Bodlonrwydd â’r Cwrs ym maes Daearyddiaeth (Tabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2023)
  • Ar y brig yng Nghymru ac yn y 5 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Fodlonrwydd Myfyrwyr ym maes Daearyddiaeth Ddynol (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022)

Pam astudio Daearyddiaeth, Gwyddorau Daear ac Amgylcheddol?

Fel cymuned Ddaearyddiaeth fawr a deinamig, gallwn gynnig ystod eang iawn o arbenigeddau, cyfleoedd a chyfleusterau daearyddol. P’un a ydych chi'n diddori mewn geoberyglon a phrosesau dalgylch afonydd neu’n ffafrio daearyddiaeth wleidyddol a diwylliannol, cynigir ystod gyffrous o fodiwlau i apelio at eich dychymyg. Mae'r ymarferion labordy a'r cyfleoedd gwaith maes ym Mhrydain a thramor yn cyfoethogi eich astudiaethau. Mae ein cyrsiau israddedig wedi'u hachredu gan Gymdeithas Frenhinol y Daearyddwyr (gydag IBG). 

“Mae’r cwrs Daearyddiaeth Ffisegol yn Aberystwyth yn gymysgedd cyffrous o theori ysgrifenedig, teithiau maes ac ymarferion yn y labordy sy’n rhoi persbectif amlochrog ar gasgliad o bynciau allweddol sy’n effeithio ar yr amgylchedd. Dewisais Aberystwyth oherwydd yr adran ddaearyddiaeth. Cefais fy swyno gan waith ymchwil yr adran ac ar ôl siarad â’r darlithwyr ar ddiwrnodau agored ro'n i'n gallu uniaethu gyda'u brwdfrydedd tuag at y pwnc. ”
Laura English Laura English BSc Daearyddiaeth Ffisegol
“Daearyddiaeth F800 yw fy nghwrs, sy'n gydbwysedd perffaith rhwng y gwyddorau ffisegol a chymdeithasol. Mae Daearyddiaeth yn crynhoi ac yn ymchwilio i'r holl brosesau cyson sy'n digwydd o'n cwmpas, yn anweledig ar brydiau, ac sy'n rhyngweithio â'i gilydd i gyd, a ninnau gyda nhw, i lunio ein hamgylchedd. ”
Oliver Clegg Oliver Clegg BSc Daearyddiaeth

Cyflogadwyedd

Mae angen cynyddol am raddedigion sydd â'r sgiliau amgylcheddol a daearyddol priodol. Dyna pam rydym ni’n gwneud pob ymdrech yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol i’ch helpu i sicrhau’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y gweithle. Anogir menter unigol, trafodaethau grŵp a sgiliau arwain drwy amrywiol gyfleoedd a geir mewn lleoliadau darlith, seminar, tiwtorial, llyfrgell, maes ac ymarferol.

Byddwch hefyd yn dysgu llawer o sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr fel y gallu i gynnal ymchwil a dehongli gwybodaeth, cyfleu syniadau, datblygu meddwl beirniadol a rhyngddisgyblaethol, gweithio’n annibynnol neu fel rhan o dîm creadigol, a chadw cymhelliad a ffocws ar eich nod.

Mae’r rhan fwyaf o’n cyrsiau anrhydedd sengl ar gael gyda’r opsiwn am flwyddyn integredig mewn diwydiant neu flwyddyn integredig yn astudio dramor, fydd yn eich galluogi i gael y gorau o’ch amser yn y brifysgol a bod ar y blaen yn y farchnad swyddi ar ôl graddio. Bydd ein cyrsiau blwyddyn sylfaen yn sicrhau eich bod yn cael sail gadarn yn y sgiliau hanfodol y bydd eu hangen i gwblhau eich dewis o lwybr gradd. 

Ymysg y llwybrau gyrfa mae ymgynghori amgylcheddol, cynllunio, y Gwasanaeth Sifil, syrfeo, addysg a llywodraeth leol a chenedlaethol.  





Cyfleusterau

Mae'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn cynnal cyfleusterau labordy ac offer maes o'r radd flaenaf sy'n cynorthwyo gwaith ymchwil ar draws y gwyddorau daear a'r amgylchedd. Mae'r rhain yn cynnwys labordai ymchwil dyddio ac ymchwil geocemegol o'r radd flaenaf ac ystafell geomateg uwch gan gynnwys sganwyr laser daearol, gweithfan gyfansawdd robotig a GPS RTK.

Mae gan yr adran hefyd gyfleusterau addysgu a chyfrifiadura cyfoes i fyfyrwyr gan gynnwys y Llyfrgell Mapiau Digidol ac ystod o labordai addysgu a ddefnyddir ar gyfer sesiynau ymarferol ac ymdriniaethau unigol.

Mae ein cyfleusterau yn cael eu cydnabod gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC). 

Ymchwil

Cewch eich dysgu gan ymchwilwyr sy’n arwain y byd yn ystod eich amser yn Aberystwyth. Mae’n staff ni’n arbenigwyr ar draws ystod eang o feysydd mewn daearyddiaeth ddynol, daearyddiaeth ffisegol, gwyddor amgylcheddol, Gwyddor Daear a chymdeithaseg. Maent yn gweithio ar draws chwe grŵp ymchwil penodol: Canolfan Rewlifeg; Daearyddiaeth Ddiwylliannol a Hanesyddol; Arsylwi ar y Ddaear a Deinameg Ecosystemau; Prosesau Wyneb y Ddaear; Daearyddiaeth Wleidyddol Newydd; a Newid Amgylcheddol Cwaternaidd.

Yn yr asesiad ymchwil diweddaraf ledled y Deyrnas Unedig (REF 2021) mae 95% o’r ymchwil yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol, gan ddynodi ansawdd ac ehangder y gwaith ymchwil a wnawn. Un o nodweddion allweddol yr ethos ‘addysgu ar sail ymchwil’ yn Aberystwyth yw y byddwch yn cael cyswllt rheolaidd ag arloeswyr ac arweinwyr cydnabyddedig yn eu priod feysydd. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn agored i’r syniadau academaidd diweddaraf mewn darlithoedd, tiwtorialau, seminarau a chyrsiau maes israddedig drwy gydol ein rhaglenni.

CHERISH (Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd):

Prosiect a ariennir gan yr UE sy’n anelu at gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o effeithiau newid hinsawdd (yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol agos), rhagor o stormydd a digwyddiadau tywydd eithafol ar dreftadaeth ddiwylliannol riffiau, ynysoedd a phentiroedd moroedd rhanbarthol Cymru ac Iwerddon, gan gynnwys hefyd y Comisiwn Brenhinol, y rhaglen Discovery ac Arolwg Daearegol Iwerddon.

Peryglon rhewlifol yn Chile:

Prosiect a ariennir gan NERC (DU) a CONICYT (Chile) ac sy’n ceisio ateb cwestiynau allweddol ynglŷn â gorffennol, presennol a dyfodol peryglon rhewlifol yn Chile. Mae’r prosiect yn asesu y newid ym maint, amlder a dosbarthiad y gwahanol beryglon rhewlifol yn Chile o dan y newid yn yr hinsawdd byd-eang sy’n digwydd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Mae’r prosiect yn dwyn ynghyd ymchwilwyr blaenllaw o Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Austral yn Chile, Prifysgol Caerwysg, Reynolds International Ltd (UK) a Phrifysgol Magallanes (Chile).

Arsylwi ar y Ddaear a Deinameg Ecosystemau:

Mae’r tîm Arsylwi ar y Ddaear yn Aberystwyth yn defnyddio data synhwyro o hirbell sy’n cael ei gasglu ar y ddaear, yn yr awyr ac yn y gofod er mwyn deall yn well effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol newid hinsawdd ar ecosystemau ac amgylcheddau. Mae’r tîm wedi datblygu ffyrdd i nodi cynefinoedd fector ar gyfer malaria drwy fanteisio ar wybodaeth a gafwyd o ddata synhwyro o hirbell a’i gynhyrchion. Drwy wneud hyn, gall gwaith rheoli malaria gael ei dargedu ar ardaloedd lle mae’r angen mwyaf er mwyn helpu i ddileu’r clefyd hwn.

Byd-eang-Gwledig:

Nod y prosiect eang hwn yw canfod sut mae globaleiddio’n newid lleoedd gwledig o amgylch y byd a sut mae cymunedau gwahanol yn ymateb. Mae’r ymchwil wedi canolbwyntio ar amrywiaeth o themâu a safleoedd, gan gynnwys astudio sut mae Seland newydd wedi dod yn archbwer llaeth byd-eang, sut mae busnesau yn y Drenewydd yma yng Nghymru yn defnyddio ffyrdd newydd i gystadlu mewn marchnad gynyddol fyd-eang, a sut mae cynhyrchu a bwyta siwgr wedi dylanwadu ar economïau a masnach gwledig. 

WISERD (Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru):

Mae’r ganolfan ymchwil aml-sefydliad cenedlaethol hwn yn gwneud ymchwil arloesol ar y gymdeithas sifil gan rychwantu daearyddiaeth ddynol, cymdeithaseg a disgyblaethau eraill yn y gwyddorau cymdeithasol. Mae themâu’r ymchwil yn cynnwys: ymfudo, lleiafrifoedd a’r gymdeithas; cymunedau lleol a globaleiddio; ac iaith, diwylliant a hunaniaeth

 

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang. 

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.