Mathemateg

Mae mathemateg yn ddisgyblaeth fyw sy'n cynrychioli un o gyflawniadau goruchaf y meddwl dynol. Mathemateg ac Ystadegau sydd wrth wraidd y byd modern, gan gynnwys gwyddoniaeth, peirianneg a chyllid. Rhoddir gwerth mawr ar fathemategwyr gan gyflogwyr ar draws llawer o sectorau swyddi oherwydd eu prosesau meddwl rhesymegol a dadansoddol, eu gallu i ddatrys problemau, dadansoddi data a’u sgiliau gwneud penderfyniadau. 

ima
  • Ymhlith y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Brofiad Myfyrwyr ac Ansawdd y Dysgu ym maes Mathemateg (Canllaw Prifysgolion Da, Y Times a'r The Sunday Times 2022)
  • Ymhlith y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am fodlonrwydd â'r dysgu a'r cwrs yn gyffredinol ac ar y brig yn y Deyrnas Unedig am fodlonrwydd â'r adborth ym maes Mathemateg (Tabl Cynghrair y Guardian 2022)
  • Ar y brig yng Nghymru ym maes Mathemateg (Canllaw Prifysgolion Da Y Times a'r Sunday Times 2020)

Pam astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae ein graddau'n cael eu hachredu gan yr IMA (y Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau), sef cymdeithas broffesiynol a dysgedig y Deyrnas Unedig ar gyfer mathemateg, sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at eich cydnabyddiaeth fel Mathemategydd Siartredig. 
  • Mae strwythur hyblyg ein graddau yn golygu bod modd arbenigo mewn maes penodol neu astudio ystod ehangach o bynciau o fewn Mathemateg Bur a Chymhwysol ac Ystadegau. 
  • Cewch ddewis canolbwyntio ar ddefnydd penodol o Fathemateg yn ein cynlluniau gradd pwrpasol; Mathemateg Gyllidol, Ffiseg Fathemategol a Damcaniaethol, a Gwyddor Data, sy'n cyfuno elfennau o Gyfrifiadureg gydag Ystadegau. 
  • Ymysg y meysydd mathemateg ac ystadegau y mae yma arbenigedd penodol ynddynt, ac sy'n aml yn rhan o'n modiwlau, mae topoleg, algebrâu gweithredol, damcaniaeth sbectrol, geometreg y plân cymhlyg, hafaliadau integrol, dulliau asymptotig, gwybodaeth cwantwm ac ystadegau biolegol. 
  • Mae'r adran yn lle cyfeillgar, agored a chroesawgar lle caiff y myfyrwyr gyrraedd eu potensial mathemategol llawn. 
“Nid oes yr un pwnc yn ddiflas ac mae'r cwrs yn mynd yn llawer dyfnach i fathemateg nag roeddwn i’n ei ddisgwyl. Mae cymaint o wahanol fodiwlau i ddewis ohonynt nes eich bod yn sicr o ddod hyd i rywbeth i'ch diddori. Mae'r darlithwyr bob amser yn barod i helpu.”
Elin Wyn Hughes Elin Wyn Hughes BSc Mathemateg
“Mae Mathemateg yn gwrs gwych gyda darlithwyr cyfeillgar a hawdd mynd atynt. Mae'r cynnwys bob amser yn ddiddorol iawn, ond yn cynnig lefel briodol o her. Mae'r adran gyfan yn gweithio'n effeithiol i gynnig yr holl gyfleusterau sydd eu hangen er mwyn ennill gradd dda.”
Jennifer O'Neil Jennifer O'Neil BSc Mathemateg

Cyflogadwyedd

Bydd gradd mewn Mathemateg yn eich paratoi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd lle rhoddir gwerth arbennig ar sgiliau dadansoddol a sgiliau cyfrifiadurol. Mae'r meysydd yn cynnwys cyllid a bancio, dadansoddi risg, gwaith actiwaraidd, dadansoddiad ystadegol a data mawr. 






Cyfleusterau

Mae'r Labordy Mater Meddal yn gyfleuster rhyngddisgyblaethol, sy'n cynnwys ymchwil arbrofol o'r adrannau Mathemateg a Ffiseg, yn enwedig ym meysydd Ewynnau, Ffotoneg Meddal, a Thopoleg a Geometreg mewn Mater Cyddwysedig. 

Ymchwil

Mae ymchwil yr adran yn dod â thair disgyblaeth ynghyd sef Mathemateg Bur, Mathemateg Gymhwysol (Mecaneg) ac Ystadegau. Mae ein darlithwyr yn arbenigo mewn pynciau megis theori plethau ac algebrâu gweithredyddion, systemau cwantwm yn rhyngweithio â'u cynefin, modelu mathemategol a rhifiadol mecaneg solidau a hylifau, ac ystadegaeth a gymhwysir i setiau data biolegol. 

Mae ein gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar: 

  • fodelu strwythurau, solidau a hylifau yn fathemategol – edrychir ar broblemau amrywiol mewn mecaneg solid a hylif a dadansoddiad mathemategol 
  • strwythurau, gwybodaeth a rheolaeth cwantwm - yn edrych ar systemau cwantwm wrth ryngweithio â'u cynefin, ac, yn arbennig, maes newydd peirianneg rheolaeth cwantwm 
  • cyfuniadeg algebraidd - mae'n cynnwys theori dylunio, theori codio a theori cynrychiolaeth grwpiau Weyl ac algebrâu Hecke cysylltiedig 
  • ystadegaeth - yn cynnwys cymhwyso ystadegaeth i fioleg a biowybodeg.