Cwestiynau Cyffredin i Ddeiliaid Cynnig

Beth yw deiliad cynnig?

Mae ‘deiliad cynnig’ yn golygu dy fod wedi gwneud cais i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth ac wedi cael cynnig amodol neu ddiamod.

Mae cynnig amodol yn golygu y bydd angen i ti fodloni'r gofynion mynediad academaidd cyn gallu sicrhau dy le ar y cwrs a ddewiswyd gennyt. Mae cynnig diamod yn golygu dy fod wedi bodloni’r gofynion mynediad academaidd ar gyfer y cwrs a ddewiswyd gennyt.

Sut ydw i'n derbyn fy nghynnig?

Ceisiadau UCAS:  Os wnes ti gais drwy UCAS, mae modd i ti dderbyn dy gynnig trwy fewngofnodi i UCAS Hub. Mae'n bwysig dy fod yn ymateb i dy gynigion erbyn y dyddiad cau a nodir gan UCAS. Mae modd i ti ymateb i dy gynigion ar ôl derbyn pob penderfyniad yn ôl o'r prifysgolion y gwnes di wneud cais iddynt. Dim ond un dewis Cadarn ac un dewis Wrth Gefn (os wyt ti'n dewis cael un) sydd modd i ti ei ddewis. Mae'n rhaid i ti wrthod pob cynnig arall. Os wyt ti'n derbyn cynnig Diamod fel dy ddewis Cadarn, bydd yn rhaid i ti wrthod pob dewis arall. Os wyt ti'n derbyn cynnig Amodol fel dy ddewis Cadarn, mae gen ti'r opsiwn i ddewis un o'r cynigion arall fel dewis Wrth Gefn.

Ceisiadau Uniongyrchol:  Os wnest gais yn uniongyrchol, bydd angen i ti ymateb i’r drwy lenwi'r Ffurflen Ymateb i Gynnig sydd wedi'i gynnwys yn dy lythyr cynnig.

Beth yw dewis Cadarn ac Wrth Gefn?

Dy ddewis Cadarn yw'r brifysgol a'r cwrs yr wyt eisiau fynychu fwyaf;

Dy ddewis Yswiriant yw'r opsiwn os nad wyt wedi bodloni'r amodau ar gyfer dy gynnig cadarn.

Erbyn pryd y mae angen i mi ymateb i'm cynnig?

Cais UCAS:  Ar ôl i ti dderbyn penderfyniadau gan yr holl brifysgolion o dy ddewis, bydd dyddiad cau ar gyfer ateb yn cael ei nodi yn UCAS Hub. Gweler gwefan UCAS i gael mwy o wybodaeth.

Ceisiadau Uniongyrchol: Am fwy o wybodaeth, cysyllta â'r Tîm Derbyniadau.

A allaf ohirio fy nghynnig?

Gallu ofyn am ohirio dy gynnig, am flwyddyn. Gallu ofyn i ohirio yn ystod gwneud dy gais drwy UCAS neu drwy gysylltu â ni ar ôl derbyn dy gynnig. Nid ydym yn gallu derbyn ceisiadau gohirio ar gyfer ein cyrsiau Nyrsio.

A allaf ymweld â’r Brifysgol?

Cynhelir ein Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr ddydd Sadwrn 7 Mawrth; Dydd Sadwrn 21 Mawrth a dydd Sadwrn 28 Mawrth. Byddi'n cael gwybodaeth yn uniongyrchol, trwy e-bost, am y digwyddiadau hyn. Cysyllta ag ymgeisydd@aber.ac.uk os oes gennyt unrhyw ymholiadau.

Mae cyfleoedd eraill i ymweld â'r campws yn cynnwys Teithiau o’r Campws.

Pa ysgoloriaethau sydd ar gael?

Mae Ysgoloriaethau a Gwobrau Teilyngdod Prifysgol Aberystwyth yn agored i'n holl ymgeiswyr israddedig ac maent yn werth hyd at £1,000 y flwyddyn gyda chyfle i gael cynnig diamod. Cymer olwg ar yr amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau a gynigir gennym.  

Pryd allaf i wneud cais am lety?

Mae gwybodaeth am archebu llety ar gael yma. Byddwn yn cysylltu â thi'n uniongyrchol drwy e-bost ddechrau 2026 i roi gwybod pan fydd ein Porth Llety ar agor. Rydym yn sicrhau llety i holl israddedigion y flwyddyn gyntaf cyn belled â dy fod yn gwneud cais erbyn 1 Medi. 

Cer i'n tudalennau gwe llety i gael mwy o wybodaeth am yr opsiynau llety, sut i wneud cais, a mwy. 

Os hoffet wybodaeth neu gymorth pellach, cysyllta â'n Tîm Derbyniadau.

Ffôn: +44 [0] 1970 622021
E-bost: derbyniadau@aber.ac.uk