Opsiynau Llety

Fferm Penglais Aberystwyth

Gall dewis llety yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol fod yn benderfyniad mawr. Mae ‘na nifer o ffactorau pwysig y dylech eu hystyried cyn ichi lenwi eich ffurflen gais.

Er enghraifft:

Cost – Beth y gallwch chi ei fforddio? Mae gennym ni sawl math o lety i siwtio pob poced, o ystafelloedd sengl safonol i fflatiau stiwdio moethus.

Lleoliad – Mae gennym lety ar y campws neu yn y dref.

Cyfleusterau – Pa gyfleusterau sy’n bwysig i chi?

  • En suite – Gallwch fwynhau byw yn eich ystafell hunanarlwyo eich hun a bydd gennych eich ystafell ymolchi breifat eich hun
  • Safonol – Mae’r llety safonol yn cynnig gwerth am arian. Byddwch yn byw mewn cymuned o fyfyrwyr a fydd yn ei gwneud yn llawer haws ichi wneud ffrindiau newydd. Byddwch yn rhannu’r ceginau a’r ystafelloedd ymolchi â myfyrwyr eraill
  • Stiwdio - Llety stiwdio preifat sydd ar wahân i bawb arall. Bydd gennych eich cegin a’ch cyfleusterau ymolchi preifat eich hun.

Hyd y drwydded – A oes angen ystafell arnoch yn ystod y tymor yn unig neu dros yr haf hefyd? Os ydych yn fyfyriwr uwchraddedig, gallwn gynnig trwydded 50 wythnos ichi yn  Rosser G.

Dewisiadau bwyd - Mae’r rhan fwyaf o’n neuaddau preswyl yn rhai hunanarlwyo a dim ond llety sy’n cael ei gynnig. Fodd bynnag, gallwch fanteisio ar y Cynnig Cynllun Prydau a fydd yn eich galluogi chi i fwyta beth y mynnwch, pryd y mynnwch a lle y mynnwch!  

I’r rhai ohonoch sydd am fyw eich bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg, gallwch fyw mewn llety arlwyo (h.y. llety sy’n cynnig lwfans prydau bwyd ac sydd â bwyty ar y safle) neu mewn llety hunanarlwyo. Gweler y Llety Cyfrwng Cymraeg isod.

Cymharu Llety - dewch o hyd i’r dewisiadau llety gorau i chi.