Pam mynd i brifysgol?
 
   
                                                                                                             
                                                                                                             
    
    
    
 
    
    Rydych chi ar eich blwyddyn olaf yn yr ysgol neu goleg. Y cwestiwn nawr yw: beth nesaf?
O ran penderfyniadau, mae’r penderfyniad ynghylch prifysgol yn un mawr. Yn newid bywyd ac yn gyffrous.
Mae manteision byrdymor a hirdymor addysg uwch yn parhau i fod yn niferus – nid yn academaidd yn unig ar gyfer mynd i gyflogaeth yn y dyfodol, ond hefyd y tu hwnt i’r byd academaidd o ran datblygiad personol.
Manteision Prifysgol:
- Dysgwch ragor am rywbeth sy’n mynd â’ch bryd
 Cewch ehangu eich gwybodaeth mewn pwnc rydych yn frwdfrydig drosto – boed yn y Celfyddydau, y Gwyddorau neu’r Gwyddorau Cymdeithasol – a hynny o dan hyfforddiant arbenigwyr yn eu maes.
- Bywyd myfyriwr
 Cymdeithasu, sefyll ar eich traed eich hun, ymuno â chlwb chwaraeon neu gymdeithas, teithio a gwneud ffrindiau o bob cwr o’r byd – ffrindiau am oes!
- Cyfleoedd ar gyfleoedd
 Mae ystod ehangach o yrfaoedd a chyfleoedd ar gael i raddedigion, o ymchwil bellach i gynlluniau hyfforddi graddedigion unigryw a mwy, yn y wlad hon a thramor.
- Mantais gystadleuol ar gyfer y dyfodol
 Mewn marchnad swyddi sy’n gynyddol brysuro, mae gwerth mawr i radd a allai fod yn fanteisiol i chi yn erbyn ymgeiswyr eraill. Bydd yr amser y byddwch wedi’i dreulio yn astudio at eich gradd yn dangos i’ch darpar gyflogwr y sgiliau sydd gennych chi, y wybodaeth a enilloch a’r ymroddiad a ddangoswyd gennych trwy astudio 3 i 4 blynedd ar eich gradd.
- Y potensial i ennill cyflog uwch
 Yn 2022, roedd graddedigion o oedran gweithio (16-64 oed) ar gyfartaledd yn ennill £11,500 yn fwy na’r rhai nad oeddynt wedi graddio (Yr Adran Addysg, Mehefin 2023).
- Mireinio sgiliau bywyd gwerthfawr
 Pethau fel dysgu annibynnol, hunanhyder, gweithio mewn tîm, cyfathrebu, trefnu, arwain a mwy – a’r rhain oll yn hanfodol ar gyfer y gweithle.
- Rydym yn ymfalchïo yng nghyflogadwyedd ein graddedigion
 Mae 92% o fyfyrwyr Aberystwyth mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaethau pellach 15 mis ar ôl graddio (Arolwg Canlyniadau Graddedigion Prifysgol Aberystwyth, Mehefin 2023, HESA).
Rhwystr i’r brifysgol y sonnir dipyn amdano yw’r goblygiadau cost. Fodd bynnag, yma yn Aberystwyth, rydym yn cynnig rhai o’r Ysgoloriaethau mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig i helpu i’ch cefnogi’n ariannol trwy gydol eich astudiaethau.

 
   
   
  