BSc, MSc, PhD - Beth maen nhw i gyd yn ei olygu?

Dau fyfyriwr Meistr ar ôl graddio; gwisg graddio

BA, BSc, MA, MSc, PhD (a rhagor) yw talfyriadau y graddau y gallwch eu cael ym Mhrydain.

Maent yn dangos lefel benodol a disgyblaeth benodol y cymhwyster a gewch mewn prifysgol.

Er bod y rhan fwyaf o gyrsiau yn cael eu gwneud yn llawn amser, mae yna opsiynau ar gyfer dysgu rhan-amser, dysgu o bell a threfniadau dysgu hyblyg eraill.

Dyma ddisgrifiad o rai o’r cymwysterau mwyaf cyffredin:

 

Baglor

  • BA = Baglor yn y Celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol
  • BSc = Baglor yn y Gwyddorau
  • BENG = Baglor yn y Peirianneg (Meddalwedd, Roboteg a Ffiseg)
  • LLB = Baglor yn y Gyfraith

Y canlynol wedi’u cyflawni fel rheol ar ôl 3 i 4 blynedd o gwrs israddedig.

Graddau Meistr Integredig

  • MARTS = Meistr yn y Celfyddydau
  • MBIOL = Meistr yn y Gwyddorau Biolegol
  • MCOMP = Meistr mewn Cyfrifiadureg
  • MENG = Meistr mewn Peirianneg
  • MMATH = Meistr mewn Mathemateg
  • MPHYS = Meistr mewn Ffiseg
  • MSCI = Meistr yn y Gwyddorau a’r Celfyddydau

Cwrs 4 mlynedd (3 mlynedd ar lefel Baglor, ac 1 mlynedd Meistr) y cewch fenthyciad amdani gydol eich cwrs, yn hytrach na’ch bod yn gorfod ariannu gradd Meistr ar wahân.

Meistr

  • MA = Meistr yn y Celfyddydau y dyniaethau a’r gwyddorau
  • MSc = Meistr yn y Gwyddorau
  • MBA = Meistr yn y Gweinyddiaeth Busnes
  • MPhil = Meistr yn y Athroniaeth
  • MRes = Meistr yn y Ymchwil
  • LLM = Meistr yn y Gyfraith

Y canlynol wedi’u cyflawni ar ôl graddio ar lefel israddedig, fel rheol yn para 1 i 2 flynedd.

PhD

  • PhD = Doethur mewn Athroniaeth: ar gyfer ystod o ddisgyblaethau.

Y canlynol wedi’u cyflawni ar ôl graddio ar lefel gradd Meistr, fel rheol yn para 3 i 8 blynedd.

 

Mae ystod o gyrsiau israddedig, ôl-raddedig a chyrsiau ymchwil pellach - ar draws y celfyddydau a’r gwyddorau – ar gael yn Aberystwyth.