Astudio dramor a gweithio mewn diwydiant

Tri pherson ifanc yn gweithio ar liniaduron o amgylch bwrdd.

Wrth astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym yn eich annog yn gryf i ystyried Blwyddyn Dramor neu Flwyddyn mewn Diwydiant fel rhan o’ch cwrs.

Os ydych chi eisiau ehangu’ch gorwelion, mwynhau diwylliant newydd, cael blas o’r gweithle neu ar yrfa trwy leoliad gwaith, yna bydd astudio dramor ac mewn diwydiant yn cryfhau ac yn gwella’ch rhagolygon gyrfa ar ôl graddio.

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae rhai o’n cyrsiau yn cynnig blwyddyn integredig yn astudio dramor neu mewn lleoliad gwaith yn y diwydiant fel rhan o’r radd, ond anogir pob myfyriwr i gymryd blwyddyn mewn diwydiant trwy gymorth ein swyddfa gyrfaoedd. Mae'r tîm Cyfleoedd Byd-Eang yn cynnig amrywiaeth gyffrous o ddewisiadau ichi fynd dramor am ran o'ch gradd. O gyrisau byr a chyfleoedd i wirfoddoli yn ystod yr haf i dreulio semester neu flwyddyn lawn yn astudio'r pwnc o'ch dewis yn un o'r prifysgolion sy'n bartner inni. 

  • Astudio Dramor
    Mewn prifysgolion “partner” dethol ledled Ewrop, UDA, Canada, Awstralia, Japan, China a rhagor
  • Gweithio mewn Diwydiant
    Gyda “phartneriaid diwydiannol” dethol ledled amrywiaeth o’n cyrsiau, gan gynnwys: amaethyddiaeth, cyfrifiadureg, daearyddiaeth, bioleg y môr a dŵr croyw, seicoleg a mwy
  • Gweithio yn y Brifysgol
    Mae yna hefyd gyfleoedd i weithio yn y Brifysgol yn ystod y tymor, ar leoliadau yn ystod yr haf ac mewn interniaethau hirach – a’r rhain oll yn rhan o gynllun AberYmlaen

 

  • Mynd Dramor

    Mynd Dramor