Awgrymiadau ar gyfer arddangosfeydd

Prifysgol Aberystwyth - Stondin UCAS

Mae arddangosfeydd addysg uwch UCAS yn gyfle gwych i archwilio eich camau nesaf ar ôl gadael yr ysgol neu’r coleg.

Yn yr arddangosfa gallwch ymweld â stondinau prifysgolion i gael gwybod mwy amdanynt. Ac mae hynny’n cynnwys eu cyrsiau, llety, cyllid, ysgoloriaethau a mwy. Mae bob amser yn ddefnyddiol cael gafael ar eu prosbectws hefyd.